6.—(1) Mewn perthynas ag unrhyw anifail buchol y cymerir sampl ohono, rhaid i feddiannydd y lladd-dy, marchnad ledr neu danerdy, at ddibenion pwynt 6(3) o Ran I o Bennod A o Atodiad III i Reoliad TSE y Gymuned a hyd nes ceir canlyniad y prawf, naill ai—
(a)gadw yn ei feddiant yr holl garcasau a phob rhan o'r corff (gan gynnwys y gwaed a'r croen) y bydd rhaid eu gwaredu os bydd y canlyniad yn bositif; neu
(b)eu gwaredu yn unol ag is-baragraff (2).
(2) At ddibenion pwyntiau 6(4) a 6(5) o'r Rhan honno, os ceir canlyniad positif ar gyfer anifail y cymerwyd sampl ohono, rhaid i'r meddiannydd waredu ar unwaith—
(a)carcas a phob rhan o gorff yr anifail hwnnw (gan gynnwys y gwaed a'r croen); a
(b)oni fydd rhanddirymiad wedi ei ganiatáu o dan is-baragraff (5), carcas a phob rhan o gorff (gan gynnwys y gwaed a'r croen) yr anifail a oedd yn union ragflaenu'r anifail hwnnw ar y llinell gigydda a'r ddau anifail a ddaeth yn union ar ei ôl,
yn unol â phwynt 6(4) o'r Rhan honno.
(3) Os nad anfonwyd sampl at labordy profi cymeradwy i gael ei brofi yn unol â pharagraff 3 o'r Atodlen hon, neu os ceir canlyniad prawf annigonol, mewn perthynas ag anifail y mae'n ofynnol ei brofi o dan yr Atodlen hon, rhaid i'r meddiannydd ar waredu unwaith —
(a)carcas a phob rhan o gorff yr anifail hwnnw (gan gynnwys y gwaed a'r croen); a
(b)oni fydd rhanddirymiad wedi ei ganiatáu o dan is-baragraff (5), carcas a phob rhan o gorff (gan gynnwys y gwaed ond nid y croen) yr anifail a oedd yn union ragflaenu'r anifail hwnnw ar y llinell gigydda a'r ddau anifail a ddaeth yn union ar ei ôl,
yn unol â phwynt 6(4) o'r Rhan honno; ac at ddibenion yr is-baragraff hwn, ystyr “canlyniad prawf annigonol” (“insufficient test result”) yw ardystiad gan labordy profi cymeradwy nad oedd y sampl a anfonwyd i'r labordy o ansawdd digonol neu nad oedd o faint digonol i gael canlyniad prawf.
(4) Os ceir canlyniad dim prawf mewn perthynas ag anifail y mae'n ofynnol ei brofi o dan yr Atodlen hon, rhaid i'r meddiannydd ar unwaith waredu carcas a phob rhan o gorff yr anifail hwnnw (gan gynnwys y gwaed a'r croen) yn unol â phwynt 6(4) o'r Rhan honno; ac at ddibenion yr is-baragraff hwn ystyr “canlyniad dim prawf” (“no-test result”) yw canlyniad negyddol o sampl, yn dilyn profion lluosog a chyflym wedi i labordy profi cymeradwy ardystio bod profion o'r fath yn angenrheidiol.
(5) Caiff Gweinidogion Cymru, mewn ysgrifen, ganiatáu rhanddirymiad o dan bwynt 6(6) o Ran I o Bennod A o Atodiad III i Reoliad TSE y Gymuned os bodlonir hwy bod system wedi ei sefydlu sy'n atal halogi rhwng carcasau.
(6) Mewn perthynas ag unrhyw ddefaid neu eifr a ddewisir ar gyfer samplu, rhaid i feddiannydd lladd-dy, marchnad ledr neu danerdy —
(a)at ddibenion pwynt 7(3) o Ran II o Bennod A o Atodiad III i Reoliad TSE y Gymuned, gadw yn ei feddiant y carcas a phob rhan o'r corff (gan gynnwys y gwaed a'r croen) hyd nes ceir canlyniad y prawf; a
(b)os bydd y canlyniad yn bositif, gwaredu'r carcas a phob rhan o'r corff ar unwaith (gan gynnwys y gwaed a'r croen) yn unol â phwynt 7(4) o'r Rhan honno.
(7) Yn y paragraff hwn, caniateir i bwerau arolygydd gael eu harfer hefyd gan berson a benodir fel y cyfryw mewn perthynas â marchnad ledr neu danerdy gan y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth.
(8) Mae unrhyw berson sy'n peidio â chydymffurfio ag is-baragraffau (1) i (4) neu (6) yn euog o dramgwydd.