ATODLEN 2Monitro TSE
RHAN 1Monitro ar gyfer TSE
Cymeradwyo labordai4
1
Rhaid i Weinidogion Cymru gymeradwyo labordy i brofi samplau a gymerir o dan baragraff 3 os bodlonir Gweinidogion Cymru—
a
y bydd y labordy yn cynnal y profion yn unol â Phennod C o Atodiad X i Reoliad TSE y Gymuned;
b
bod gan y labordy weithdrefnau digonol ar gyfer rheoli ansawdd; ac
c
bod gan y labordy weithdrefnau digonol i sicrhau adnabyddiaeth gywir o'r samplau ac i hysbysu'r lladd-dy sy'n eu traddodi a Gweinidogion Cymru ynghylch canlyniad y prawf.
2
Caiff Gweinidogion Cymru godi'r ffioedd a nodir yn y tabl canlynol am gymeradwyaeth ddechreuol ac asesiad ansawdd parhaus ar gyfer labordy—
| Ffi(£) |
---|---|
Cymeradwyaeth ddechreuol | 29,770 |
Prawf hyfedredd blynyddol ac arolygu dilynol am y flwyddyn gyntaf ar ôl cymeradwyo. | 8,834 |
Profion hyfedredd blynyddol o'r ail flwyddyn ymlaen | 4,135 |
Prawf hyfedredd sengl (yn dilyn methiant yn y profion hyfedredd blynyddol) | 1,385 |
Cyfradd yr awr am arolygydd (ar gyfer unrhyw arolygiadau ychwanegol sydd eu hangen i wirio cydymffurfiaeth â'r materion a nodir yn is-baragraffau (1)(a) i (c)) | 87.24 |
3
ystyr “labordy profi cymeradwy” (“approved testing laboratory”) yw labordy a gymeradwyir o dan y paragraff hwn neu labordy mewn rhan arall o'r Deyrnas Unedig a gymeradwyir gan yr awdurdod cymwys i gynnal y prawf.