ATODLEN 2Monitro TSE

RHAN 1Monitro ar gyfer TSE

Samplu coesyn yr ymennydd mewn anifeiliaid buchol3

1

Rhaid i feddiannydd lladd-dy lle mae anifeiliaid buchol fel a nodir ym mhwynt 2(1) neu 2(2) o Ran I o Bennod A o Atodiad III i Reoliad TSE y Gymuned yn cael eu cigydda —

a

gymryd sampl o goesyn yr ymennydd yn unol â phwynt 1 o Bennod C o Atodiad X i Reoliad TSE y Gymuned;

b

sicrhau y gellir adnabod yr anifail y cymerwyd y sampl ohono; ac

c

trefnu i'r sampl gael ei danfon i labordy profi sydd wedi ei gymeradwyo,

ac y mae peidio â gwneud hynny yn dramgwydd.

2

Rhaid i Weinidogion Cymru, drwy hysbysiad, hysbysu meddiannydd lladd-dy os yw anifail yn dod o fewn y categorïau a nodir ym mhwynt 2(1) o Ran I o Bennod A i Atodiad III i Reoliad TSE y Gymuned (ac eithrio yn achos anifail marw a draddodir i ladd-dy ynghyd â datganiad ysgrifenedig gan filfeddyg sy'n datgan bod yr anifail o fewn un o'r categorïau hynny).

3

Yn unol â phwynt 5 o Ran 1 o Bennod A o Atodiad III i Reoliad TSE y Gymuned, caiff Gweinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad i feddiannydd lladd-dy i fynnu ei fod yn cymryd sampl o unrhyw anifail buchol a gigyddir yn y lladd-dy, ac anfon y sampl i'w brofi yn unol ag is-baragraff (1).