xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
9.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru ddirymu cymeradwyaeth, awdurdodiad, trwydded neu gofrestriad a roddwyd o dan y Rheoliadau hyn os bodlonir Gweinidogion Cymru na fydd y fangre yn cael ei rhedeg yn unol â Rheoliad TSE y Gymuned neu'r Rheoliadau hyn ac—
(a)os yw wedi'i atal ar y pryd a'r cyfnod ar gyfer apelio o dan reoliad 10 wedi dod i ben neu'r ataliad wedi ei gadarnhau yn dilyn apêl o'r fath;
(b)os oedd wedi ei atal yn flaenorol ac y bu anghydffurfio pellach â Rheoliad TSE y Gymuned neu'r Rheoliadau hyn; neu
(c)os bodlonir Gweinidogion Cymru nad yw'r meddiannydd bellach yn defnyddio'r fangre at y diben y rhoddwyd caniatâd ar ei gyfer.
(2) Os yw Gweinidogion Cymru yn dirymu o dan baragraff (1)(b) neu (1)(c) bydd y weithdrefn apelio yn rheoliad 10 yn gymwys ond bydd y dirymiad yn parhau mewn grym yn ystod y weithdrefn apelio.