(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae paragraff 2 o Atodlen 6 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (“Deddf 1988”) yn darparu bod gwerth ardrethol hereditament annomestig i'w benderfynu drwy gyfeirio at y rhent y gellir yn rhesymol ddisgwyl ei gael, yn ôl yr amcangyfrif, am osod yr hereditament o flwyddyn i flwyddyn.
Yn yr achosion hynny lle na cheir tystiolaeth fwy uniongyrchol o werth rhent, mae gwerth ardrethol hereditament annomestig yn cael ei benderfynu, yn lle hynny, drwy ddatgyfalafu cyfanswm gwerth cyfalaf amcangyfrifedig yr hereditament (yr enw ar hyn yw “the contractor’s basis of valuation”). Rhagnodir y cyfraddau datgyfalafu o dan baragraff 2(8) o Atodlen 6 i Ddeddf 1988. Y prif Reoliadau a wnaed o dan y pwer hwn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol) (Rhif 2) 1989 (fel y'u diwygiwyd) (“Rheoliadau 1989”), y rhagnodir y cyfraddau ynddynt yn Rheoliad 2.
Mae Gweinidogion Cymru, wrth wneud y Rheoliadau hyn, yn diwygio, yn effeithiol o 11 Rhagfyr 2008, y cyfraddau datgyfalafu a ragnodir gan Reoliad 2 o Reoliadau 1989.
Mae Asesiad Effaith Rheoleiddiol wedi ei baratoi mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi o http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/buslegislation/bus-legislation-sub.