Diwygio Cynllun Credydau Treth (Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant) (Cymru) 20073.
(1)
Diwygir Cynllun Credydau Treth (Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant) (Cymru) 2007 fel a ganlyn.
(2)
Yn erthygl 2 (Diffiniadau) —
(a)
hepgorer y diffiniadau o “y Rheoliadau Tribiwnlys” ac “y Tribiwnlys”;
(b)
mewnosoder y diffiniadau a ganlyn yn y mannau priodol yn nhrefn yr wyddor—
““y mae i'r ymadrodd “y Tribiwnlys Haen Gyntaf” yr un ystyr ag sydd i'r ymadrodd “the First-tier Tribunal” yn Neddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodi 20075;”;
““y mae i'r ymadrodd “Rheolau Gweithdrefnau'r Tribiwnlys” yr un ystyr ag sydd i'r ymadrodd “the Tribunal Procedure Rules” yn Neddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodi 2007.”.
(3)
Yn erthygl 11 (Apelau) —
(a)
ym mharagraffau (1) a (5) yn lle “Tribiwnlys” rhodder “ Tribiwnlys Haen Gyntaf”;
(b)
yn lle paragraff 2 rhodder—
“(2)
Y mae Rheolau Gweithdrefnau'r Tribiwnlys yn gymwys i apêl o dan baragraff (1) fel y maent yn gymwys i apêl o dan adran 79 o Ddeddf 1989 6.”; ac
(c)
hepgorer paragraffau (3) a (4).