(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Cynllun)

Mae'r offeryn hwn yn diwygio Cynllun Credydau Treth (Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant) (Cymru) 2007 (“Cynllun 2007”).

Mae Cynllun 2007 yn darparu ar gyfer cymeradwyo darparwyr gofal plant at ddibenion adran 12(5) o Ddeddf Credydau Treth 2002. Yn benodol, mae'n darparu ar gyfer gweithredu system ar gyfer penderfynu ar geisiadau am gymeradwyaeth ac ar gyfer yr hawl i apelio yn erbyn penderfyniad i wrthod cymeradwyaeth neu i'w thynnu'n ôl.

O dan Gynllun 2007 gwnaed apelau i'r Tribiwnlys a sefydlwyd gan adran 9 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999 (“y Tribiwnlys”) ac ymdrinid ag apelau o'r fath yn unol â Rheoliadau Tribiwnlys Amddiffyn Plant ac Oedolion Hawdd eu Niweidio a Safonau Gofal 2002. Mae'r darpariaethau apelio wedi'u gosod yn erthygl 11 o Gynllun 2007.

Yn unol â Deddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodi 2007 trosglwyddwyd swyddogaethau presennol y Tribiwnlys i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf, a lywodraethir gan Reolau Gweithdrefnau'r Tribiwnlys newydd a wneir yn unol ag adran 22 o Ddeddf 2007.

Mae'r offeryn hwn yn diwygio Cynllun 2007 gan gymryd ystyriaeth o'r newidiadau hyn. Mae'n darparu y bydd unrhyw gyfeiriad at y Tribiwnlys yng Nghynllun 2007 yn cael ei ddisodli gan gyfeiriad at y Tribiwnlys Haen Gyntaf ac mae'n mewnosod diffiniad o'r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn erthygl 2 o Gynllun 2007.

Mae hefyd yn diwygio erthygl 11 o Gynllun 2007 drwy fewnosod paragraff (2) newydd sy'n cymhwyso Rheolau Gweithdrefnau'r Tribiwnlys at unrhyw apêl o dan Gynllun 2007 ac yn hepgor paragraffau (3) a (4).