2008 Rhif 2687 (Cy.237)
Cynllun Credydau Treth (Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant) (Cymru) (Diwygio) 2008
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod priodol o dan adran 12(6) o Ddeddf Credydau Treth 20021, yn gwneud y diwygiadau a ganlyn i'r Cynllun Credydau Treth (Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant) (Cymru) 20072 drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 12(5), (7) ac (8) a 65(3) a (9) o'r Ddeddf honno3 ac ar ôl ymgynghori â'r Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd 4.
Enwi a chychwyn
1
1
Enw'r offeryn hwn yw Cynllun Credydau Treth (Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant) (Cymru) (Diwygio) 2008 a daw i rym ar 3 Tachwedd 2008.
2
Mae'r offeryn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Cynllun Credydau Treth (Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant) (Cymru) 20073
1
Diwygir Cynllun Credydau Treth (Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant) (Cymru) 2007 fel a ganlyn.
2
Yn erthygl 2 (Diffiniadau) —
a
hepgorer y diffiniadau o “y Rheoliadau Tribiwnlys” ac “y Tribiwnlys”;
b
mewnosoder y diffiniadau a ganlyn yn y mannau priodol yn nhrefn yr wyddor—
“y mae i'r ymadrodd “y Tribiwnlys Haen Gyntaf” yr un ystyr ag sydd i'r ymadrodd “the First-tier Tribunal” yn Neddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodi 20075;
“y mae i'r ymadrodd “Rheolau Gweithdrefnau'r Tribiwnlys” yr un ystyr ag sydd i'r ymadrodd “the Tribunal Procedure Rules” yn Neddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodi 2007.
3
Yn erthygl 11 (Apelau) —
a
ym mharagraffau (1) a (5) yn lle “Tribiwnlys” rhodder “ Tribiwnlys Haen Gyntaf”;
b
yn lle paragraff 2 rhodder—
2
Y mae Rheolau Gweithdrefnau'r Tribiwnlys yn gymwys i apêl o dan baragraff (1) fel y maent yn gymwys i apêl o dan adran 79 o Ddeddf 1989 6.
c
hepgorer paragraffau (3) a (4).