Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn ategu darpariaethau adrannau 73, 74, 96 a 97 o Ddeddf Tai 2004 (“y Ddeddf”). Mae'r adrannau hynny'n ymwneud â chanlyniadau gweithredu tai amlfeddiannaeth (“HMOs”) didrwydded neu dai didrwydded penodol eraill. Yn benodol, maent yn ymwneud â gwneud gorchmynion ad-dalu rhent (“GARh”) gan dribiwnlys eiddo preswyl ar gais awdurdod tai lleol.
Ni ellir gwneud GARh onid yw'r tribiwnlys wedi'i fodloni o ran nifer o faterion. Y mater sy'n berthnasol at ddibenion y Rheoliadau hyn yw bod budd-dâl tai wedi cael ei dalu yn rhinwedd cynllun o dan adran 123 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 o ran taliadau cyfnodol sy'n daladwy mewn cysylltiad â meddiannu rhan neu rannau o'r tŷ amlfeddiannaeth (adran 73(6)(b) o'r Ddeddf) neu'r cyfan neu unrhyw ran neu rannau o'r tŷ (adran 96(6)(b) o'r Ddeddf), yn ystod cyfnod pan ymddengys i'r tribiwnlys bod tramgwydd o dan adran 72(1) o'r Ddeddf (ar gyfer HMOs) neu adran 95(1) o'r Ddeddf (ar gyfer tai eraill) yn cael ei chyflawni.
Os bydd tribiwnlys wedi'i fodloni bod person wedi cael ei gollfarnu o dramgwydd o dan adran 72(1) neu 95(1) o'r Ddeddf a bod budd-dâl tai wedi cael ei dalu fel y crybwyllir yn y paragraff blaenorol, mae adran 74(2) o'r Ddeddf (ar gyfer HMOs) ac adran 97(2) o'r Ddeddf (ar gyfer tai eraill) yn ei gwneud yn ofynnol i'r tribiwnlys wneud GARh. Rhaid i'r gorchymyn ei gwneud yn ofynnol i'r person a oedd, ar yr adeg y talwyd y budd-dâl tai, â hawl i dderbyn y taliadau cyfnodol y talwyd y budd-dâl tai ar eu cyfer (“y person priodol”) dalu i'r awdurdod tai lleol swm sy'n hafal i gyfanswm y budd-dâl tai a dalwyd yn ystod y cyfnod yr ymddengys i'r tribiwnlys bod tramgwydd o dan adran 72(1) o'r Ddeddf (ar gyfer HMOs) neu adran 95(1) o'r Ddeddf (ar gyfer tai eraill) wedi cael ei gyflawni. Mae hyn yn ddarostyngedig i rai eithriadau, a osodir yn y Ddeddf.
Ym mhob achos arall, mae gan y tribiwnlys ddisgresiwn i wneud GARh am y swm hwnnw sy'n rhesymol yn yr amgylchiadau.
Mae rheoliad 2 o'r Rheoliadau hyn yn caniatáu i awdurdod tai lleol sydd wedi gwneud cais am GARh i ofyn am ganiatâd y tribiwnlys i ddiwygio'i gais os yw'n credu bod gordalu budd-dal tai wedi digwydd fel bod y cais yn ymwneud â swm y budd-dal tai y mae'r awdurdod tai lleol yn credu sy'n briodol daladwy o dan Reoliadau Budd-dal Tai 2006 neu Reoliadau Budd-dal Tai (Personau sydd wedi cyrraedd yr oed cymwys ar gyfer pensiwn credyd y wladwriaeth) 2006. Mae paragraff (3) o reoliad 2 yn diffinio “yn briodol daladwy”.
Mae rheoliad 3 yn pennu'r dibenion y ceir defnyddio arian a dderbynnir gan awdurdod tai lleol o dan GARh ar eu cyfer. Mae eithriad ynghylch costau a threuliau a gaiff eu hadennill drwy ddulliau eraill, er enghraifft, drwy orchmynion llys neu o dan adran 129 o'r Ddeddf (ynghylch adennill costau gorchmynion rheoli).
Mae rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod tai lleol dalu i Gronfa Gyfunol Cymru symiau a dderbyniwyd o dan GARh nas defnyddir at ddiben a bennir yn rheoliad 3.