2008 Rhif 2335 (Cy.198)

CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Diwygio) (Cymru) 2008

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi1 at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19722 mewn perthynas â'r gofyniad i asesu'r effaith ar yr amgylchedd y mae prosiectau sy'n debygol o gael effeithiau arwyddocaol ar yr amgylchedd yn ei chael, i'r graddau y mae a wnelo â chynllunio gwlad a thref.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a freiniwyd ynddynt gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac a roddwyd gan adran 333 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 19903 a pharagraff 1 o Atodlen 6 iddi.