xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Mae'r Offeryn Statudol hwn wedi cael ei argraffu yn lle'r OS sydd â'r un rhif ac mae'n cael ei ddosbarthu yn rhad ac am ddim i holl dderbynyddion hysbys yr Offeryn Statudol hwnnw.

Offerynnau Statudol Cymru

2008 Rhif 2141 (Cy.190)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Llaeth Ysgol (Cymru) 2008

Gwnaed

5 Awst 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

11 Awst 2008

Yn dod i rym

1 Medi 2008

Mae Gweinidogion Cymru wedi'u dynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd.

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac fe ymddengys i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus dehongli'r cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at—

(a)Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 sy'n sefydlu trefniadaeth gyffredin o farchnadoedd amaethyddol ac sy'n ymwneud â darpariaethau penodol ar gyfer cynhyrchion amaethyddol penodol (Rheoliad Sengl CMO)(3), a

(b)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 657/2008 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 ynghylch cymorth Cymunedol am gyflenwi llaeth a chynhyrchion llaeth penodol i ddisgyblion mewn sefydliadau addysgol(4)

fel cyfeiriad at y Rheoliad hwnnw fel y'i diwygiwyd o bryd i'w gilydd.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi(5).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Llaeth Ysgol (Cymru) 2008 a deuant i rym ar 1 Medi 2008.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall—

(2Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at reoliad â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn.

Rhoi cymorth gwladol

3.—(1Yn ddarostyngedig i reoliad 4 caiff Gweinidogion Cymru roi cymorth gwladol mewn cysylltiad â chyflenwi cynhyrchion llaeth cymwys i ddisgyblion mewn sefydliadau addysgol.

(2At ddibenion paragraff (1), caiff Gweinidogion Cymru bennu math neu ddosbarthiad sefydliadau addysgol cymwys neu gynhyrchion llaeth cymwys y ceir talu cymorth gwladol mewn perthynas â hwy, drwy gyfeirio at unrhyw set o amgylchiadau sy'n briodol yn nhyb Gweinidogion Cymru.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae'r darpariaethau a ganlyn o Reoliad y Comisiwn yn gymwys mewn perthynas â chymorth gwladol megis petai yn gymorth Cymunedol—

(a)Erthygl 2 (buddiolwyr);

(b)Erthyglau 3(1) a 3(4) (cynhyrchion llaeth cymwys);

(c)Erthygl 5(4), yr is-baragraff cyntaf (nid yw llaeth a chynhyrchion llaeth a ddefnyddir wrth baratoi prydau i gael cymorth);

(ch)Erthygl 8 (amodau cyffredinol ar gyfer cymeradwyaeth),

(d)Erthygl 9 (amodau penodol ar gyfer cymeradwyo ymgeiswyr penodol);

(dd)Erthygl 10 (atal cymeradwyaeth dros dro a'i dynnu'n ôl);

(e)Erthygl 11 (ceisiadau am daliadau);

(f)Erthygl 12 (talu cymorth);

(ff)Erthygl 14 (monitro prisiau);

(g)Erthygl 15 (rheolaethau a sancsiynau).

Amodau sy'n gymwys ar gyfer rhoi cymorth gwladol

4.—(1Rhaid i gymorth gwladol o dan reoliad 3 gael ei roi yn ddarostyngedig i'r amodau a bennir ym mharagraff (2).

(2Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—

(a)bod ceisyddion wedi'u cofrestru neu wedi'u cymeradwyo gan Weinidogion Cymru at ddibenion hawlio cymorth Cymunedol;

(b)bod Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni bod ceisydd a sefydliad addysgol cymwys (os ydynt yn wahanol), yn cydymffurfio, ac wedi cydymffurfio, â'r rheolau Cymunedol ac ag unrhyw rwymedigaethau neu ofynion eraill a all fod Gweinidogion Cymru wedi eu hysbysu hwy ohonynt;

(c)ar gyfer unrhyw sefydliad addysgol cymwys, mai mwyafswm y cynhyrchion llaeth cymwys y ceir rhoi cymorth gwladol mewn perthynas ag ef yw 0.25 litr o laeth neu'r hyn sy'n gyfwerth â llaeth, yn ôl y digwydd, am bob disgybl ar gofrestr yr ysgol, am bob diwrnod ysgol;

Cymorth gwladol ychwanegol i ddisgyblion cymwys

5.  Pan roddir cymorth gwladol mewn cysylltiad â chyflenwi cynnyrch llaeth cymwys sydd naill ai â chyflas neu hebddo, yn llaeth cyflawn neu'n laeth hanner sgim, i ddisgyblion cymwys, caiff y swm a roddir felly fod yn swm digonol i dalu'r costau gweddilliol a fuasai fel arall yn cael eu talu gan y disgyblion neu eu rhieni neu eu gwarcheidwaid mewn perthynas â'r cyflenwi hwnnw.

Talu cymorth gwladol

6.  Rhaid i gymorth gwladol a roddir gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliad 3 gael ei dalu i geisyddion gan yr Asiantaeth Taliadau Gwledig sy'n gweithredu fel asiant Gweinidogion Cymru(10).

Dal cymorth gwladol yn ôl a'i adennill

7.—(1Caiff Gweinidogion Cymru o hawlio hynny ddal yn ôl neu adennill oddi ar unrhyw geisydd y cyfan neu unrhyw ran o unrhyw gymorth Cymunedol neu gymorth gwladol a roddwyd o dan y Rheoliadau hyn os ydynt wedi'u bodloni nad yw'r ceisydd neu sefydliad addysgol cymwys y mae ceisydd wedi gwneud cais mewn perthynas ag ef yn cydymffurfio neu nad yw wedi cydymffurfio ag unrhyw un o'r amodau a bennir yn rheoliad 4(2).

(2Cyn cymryd unrhyw gamau o dan baragraff (1), rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)roi rhesymau ysgrifenedig i'r ceisydd dros y camau y bwriada Gweinidogion Cymru eu cymryd;

(b)rhoi cyfle i'r ceisydd wneud sylwadau ysgrifenedig o fewn y fath gyfnod o amser a ystyrir yn rhesymol gan Weinidogion Cymru; ac

(c)ystyried unrhyw sylwadau o'r fath.

(3Mae unrhyw arian sy'n ddyledus i Weinidogion Cymru yn rhinwedd y Rheoliadau hyn yn adenilladwy fel dyled.

Y gyfradd gyfnewid gymwysadwy

8.—(1At ddibenion cyfrifo cymorth gwladol mewn sterling, rhaid i Weinidogion Cymru bennu'r gyfradd gyfnewid rhwng sterling a'r ewro sydd i'w chymhwyso at gyfrifiad o'r fath ac, yn ddarostyngedig i baragraff (2) cânt ddiwygio'r gyfradd honno o dro i dro.

(2Cyn unrhyw ddiwygiad arfaethedig ar y gyfradd gyfnewid rhwng sterling a'r ewro yn unol â pharagraff (1), rhaid i Weinidogion Cymru roi o leiaf 14 niwrnod o hysbysiad ysgrifenedig i geisyddion am y gyfradd ddiwygiedig sydd i'w chymhwyso.

Dirymu

9.  Mae Rheoliadau Llaeth Ysgol (Cymru) 2001(11) yn cael eu dirymu.

John Griffiths

O dan awdurdod y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

5 Awst 2008

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n dod i rym ar 1 Medi 2008 yn rhoi ar waith fesurau mewn perthynas ag Erthygl 102 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 sy'n sefydlu trefniadaeth gyffredin o farchnadoedd amaethyddol ac sy'n ymwneud â darpariaethau penodol ar gyfer cynhyrchion amaethyddol penodol (Rheoliad Sengl CMO)(12).

Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Llaeth Ysgol (Cymru) 2001(13).

Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriadau at Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 ac at Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 657/2008(14) sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 ynghylch cymorth Cymunedol am gyflenwi llaeth a chynhyrchion llaeth penodol i ddisgyblion mewn sefydliadau addysgol (OJ Rhif L 183, 11.7.08, t.17) yn gyfeiriadau at y Rheoliadau hynny fel y'i diwygiwyd o bryd i'w gilydd.

Caiff Gweinidogion Cymru roi cymorth gwladol (sy'n cydategu cymorth y Gymuned Ewropeaidd) mewn cysylltiad â chyflenwi llaeth a chynhyrchion llaeth penodol i ddisgyblion mewn sefydliadau addysgol (rheoliad 3(1)).

Caiff Gweinidogion Cymru bennu math neu ddosbarthiad sefydliadau addysgol neu gynhyrchion llaeth y ceir talu cymorth gwladol mewn cysylltiad â hwy (rheoliad 3(2)).

Rhaid i gymorth gwladol a roddir gan Weinidogion Cymru fod yn ddarostyngedig i'r un rheolau a'r un gofynion ac amodau ag sy'n gymwys i gymorth y Gymuned o dan Erthygl 102(1) o Reoliad y Cyngor ac sydd i'w cael yn Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 657/2008 (rheoliad 4(2)).

Os rhoddir cymorth gwladol mewn cysylltiad â chyflenwi llaeth cyflawn neu laeth hanner sgim, â chyflas neu heb gyflas, i ddisgyblion cynradd heblaw'r rhai sy'n derbyn addysg feithrin neu'r rhai sydd yng nghyfnod allweddol 2, caiff cyfanswm y cymorth hwnnw fod yn swm sy'n ddigonol i dalu unrhyw gost a fuasai fel arall yn gorfod cael ei thalu gan y disgyblion hynny neu eu rhieni neu eu gwarcheidwaid mewn amgylchiadau lle nad yw cymorth Cymunedol yn talu'n llawn am gost cyflenwi'r cynnyrch hwnnw (rheoliad 5).

(1)

Yn rhinwedd adran 59(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, mae swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn arferadwy gan Weinidogion Cymru.

(2)

1972 p. 68. Mae Gweinidogion Cymru wedi'u dynodi mewn perthynas â materion sydd wedi'u pennu yn Atodlen 3 i Orchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 3) 2006 (O.S. 2005/2766).

(3)

OJ Rhif L 299, 16.11.07, t.1; a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 361/2008 (OJ Rhif L 121, 7.05.08, t 1).

(4)

OJ Rhif L 183, 11.07.08, t.17.

(5)

Mewnosodwyd gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoliadol 2006 (p. 51).

(8)

OJ Rhif L 183, 11.07.08, t.17

(9)

OJ Rhif L 299, 16.11.07, t.1; a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 361/2008 (OJ Rhif L 121, 7.05.08, t.1).

(10)

Mae Gweinidogion Cymru wedi gwneud trefniadau gyda'r Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig i'r Asiantaeth Taliadau Gwledig wneud taliadau cymorth gwladol ar ran Gweinidogion Cymru yn unol ag adran 83 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

(12)

OJ Rhif L 299, 16.11.07, t.1.

(14)

OJ Rhif L 183, 11.07.08, t.17.