Mae'r Offeryn Statudol hwn wedi cael ei argraffu yn lle'r OS sydd â'r un rhif ac mae'n cael ei ddosbarthu yn rhad ac am ddim i holl dderbynyddion hysbys yr Offeryn Statudol hwnnw.
2008 Rhif 2141 (Cy.190)
Rheoliadau Llaeth Ysgol (Cymru) 2008
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru wedi'u dynodi1 at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19722 mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd.
Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac fe ymddengys i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus dehongli'r cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at—
Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 sy'n sefydlu trefniadaeth gyffredin o farchnadoedd amaethyddol ac sy'n ymwneud â darpariaethau penodol ar gyfer cynhyrchion amaethyddol penodol (Rheoliad Sengl CMO)3, a
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 657/2008 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 ynghylch cymorth Cymunedol am gyflenwi llaeth a chynhyrchion llaeth penodol i ddisgyblion mewn sefydliadau addysgol4
fel cyfeiriad at y Rheoliad hwnnw fel y'i diwygiwyd o bryd i'w gilydd.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi5.