Mae Rhan I o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 yn gosod dyletswyddau ar awdurdodau lleol ac awdurdodau eraill i baratoi cynllun perfformiad gwerth gorau (a elwir “cynllun gwella” yn y Gorchymyn hwn) ar gyfer pob blwyddyn ariannol.
Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu erbyn pa ddyddiad y mae'n rhaid cyhoeddi cynllun gwella awdurdod tân ac achub ar gyfer blwyddyn ariannol ac erbyn pa ddyddiad y mae copïau o adroddiad archwilydd ynglŷn â'r cynllun i gael eu hanfon at yr awdurdod, at Archwilydd Cyffredinol Cymru, ac os yw hynny'n ofynnol, at Weinidogion Cymru.
Mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi'i baratoi mewn cysylltiad â'r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi gan y Gangen Gwasanaethau Tân ac Achub, Yr Is-adran Diogelwch Cymuned, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Rhydycar, Merthyr Tydfil, CF48 1UZ (ffôn 01685 729221).