Rheoliadau Deintyddiaeth Breifat (Cymru) 2008

Rheoliad 13

ATODLEN 2GWYBODAETH A DOGFENNAU A FYDD AR GAEL YNGHYLCH PERSONAU COFRESTREDIG

1.  Prawf o bwy yw'r person gan gynnwys ffotograff diweddar.

2.  Tystysgrif record droseddol fanwl y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio ers pan ddyroddwyd hi ddiwethaf.

3.  Datganiad gan y person cofrestredig ei fod wedi cael ei gynnwys ar y gofrestr deintyddion.

4.  Rhif cofrestriad proffesiynol y person cofrestredig neu Dystysgrif Deintydd AEE sy'n ymweld.

5.  Tystysgrif yswiriant ar gyfer y person cofrestredig mewn perthynas ag unrhyw rwymedigaeth y mae'n bosibl i'r person fynd iddi mewn perthynas â darparu gwasanaethau deintyddol o ran marwolaeth, anaf, atebolrwydd i'r cyhoedd, difrod neu unrhyw golled arall.