Ffitrwydd person cofrestredig
13.—(1) Ni chaiff person ddarparu gwasanaethau deintyddol oni bai ei fod yn ffit i wneud hynny.
(2) Nid yw person yn ffit i ddarparu gwasanaethau deintyddol onid yw'r person yn unigolyn sy'n bodloni'r gofynion a osodir ym mharagraff (3).
(3) Dyma'r gofynion —
(a)bod yr unigolyn yn addas o ran gonestrwydd a chymeriad da i ddarparu gwasanaethau deintyddol;
(b)bod yr unigolyn yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i ddarparu gwasanaethau deintyddol; ac
(c)bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol, yn ôl y digwydd, ar gael o ran yr unigolyn ynglŷn â'r materion a bennir yn Atodlen 2.
(4) Caiff yr awdurdod cofrestru ar unrhyw adeg ei gwneud yn ofynnol i'r person cofrestredig wneud cais am dystysgrif record droseddol fanwl o dan adran 115 o Ddeddf yr Heddlu 1997, a rhaid i'r awdurdod cofrestru gydlofnodi'r cyfryw gais.