xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2008 Rhif 1848 (Cy.177)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cynnal Refferenda) (Cymru) 2008

Gwnaed

9 Gorffennaf 2008

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 26 o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993(1) a chan adrannau 45, 105 a 106(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000(2) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(3):

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â'r Comisiwn Etholiadol ynglŷn â'r Rheoliadau hyn yn unol ag adran 45(8A) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.

Yn unol ag adran 45(8B) ac (8C) o'r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â'r Comisiwn Etholiadol ynglŷn â pha mor ddealladwy yw'r cwestiynau y gellir eu gofyn mewn refferendwm ynghyd â'r datganiadau sy'n rhagflaenu'r cwestiynau hynny fel a bennir yn y Rheoliadau hyn. Maent wedi cyflwyno adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru sy'n datgan y safbwyntiau a fynegwyd gan y Comisiwn yn ei ymateb.

Yn unol ag adran 45(8D) o'r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi gofyn am farn y Comisiwn Etholiadol ar fater y cyfyngiad treuliau refferendwm ac wedi rhoi sylw i'r farn honno. Nid ydynt wedi cyflwyno datganiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â'r is-adran honno oherwydd bod y Rheoliadau hyn yn cyd-fynd â'r farn honno.

Yn unol ag adran 105(6) o'r Ddeddf honno (fel y'i cymhwysir gan baragraff 34(2) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006), mae drafft o'r offeryn hwn wedi ei osod gerbron ac wedi ei gymeradwyo gan benderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Enwi, cychwyn a dirymu

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cynnal Refferenda) (Cymru) 2008.

(2Daw'r Rheoliadau hyn i rym 14 diwrnod ar ôl y diwrnod pan gânt eu gwneud.

(3Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys ar gyfer cynnal refferenda gan awdurdodau lleol yng Nghymru.

(4Dirymir Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cynnal Refferenda) (Cymru) 2004(4).

Dehongli

2.—(1Yn y rheoliadau hyn—

ystyr “ardal y bleidlais” (“voting area”) yw'r ardal lle y cynhelir refferendwm;

ystyr “arsylwr cyfrif” (“counting observer”) yw person a benodir gan swyddog cyfrif o dan reol 18(2) o Reolau Refferenda'r Ddeddf Lywodraeth Leol;

ystyr “arsylwr pleidleisio” (“polling observer”) yw person a benodir gan swyddog cyfrif o dan reol 18(1) o Reolau Refferenda'r Ddeddf Llywodraeth Leol;

ystyr “cyfnod y refferendwm (“referendum period”), mewn perthynas â refferendwm (gan gynnwys refferendwm pellach), yw'r cyfnod sy'n cychwyn ar—

(a)

pan fo'r dyddiad cynigion yn rhagflaenu'r dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym, y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym;

(b)

mewn unrhyw achos arall, dyddiad y cynigion,

ac yn diweddu ar ddyddiad y refferendwm;

ystyr “cynigion wrth gefn amlinellol” (“outline fall-back proposals”)—

(a)

mewn perthynas â chynigion o dan adran 25 (cynigion) o Ddeddf 2000, yw amlinelliad o'r cynigion y mae awdurdod lleol yn bwriadu eu gweithredu pe bai ei gynigion o dan adran 25 yn cael eu gwrthod mewn refferendwm;

(b)

mewn perthynas â chynigion o dan reoliad 17 (gweithredu cyn refferendwm) neu reoliad 19 (gweithredu yn dilyn cyfarwyddyd) o'r Rheoliadau Deisebau a Chyfarwyddiadau, yw amlinelliad o'r cynigion y mae awdurdod lleol yn bwriadu eu gweithredu pe bai'r cynigion sydd i fod yn destun refferendwm o dan Ran II neu Ran III o'r Rheoliadau hynny yn cael eu gwrthod yn y refferendwm hwnnw;

(c)

mewn perthynas â chynigion o dan orchymyn o dan adran 36 (refferendwm yn dilyn gorchymyn) o Ddeddf 2000, yw—

(i)

os yw'r awdurdod lleol bryd hynny yn gweithredu trefniadau gweithrediaeth neu drefniadau amgen, crynodeb o'r trefniadau hynny;

(ii)

mewn unrhyw achos arall, amlinelliad o'r cynigion a bennir yn y gorchymyn y mae'r awdurdod lleol yn bwriadu eu gweithredu pe bai cynigion sydd i fod yn destun refferendwm yn cael eu gwrthod yn y refferendwm hwnnw;

(ch)

mewn perthynas â chynigion o dan reoliadau o dan adran 30 (gweithredu trefniadau gweithrediaeth gwahanol) neu adran 33 (gweithredu trefniadau amgen) o Ddeddf 2000, yw crynodeb o drefniadau gweithrediaeth presennol neu drefniadau amgen presennol yr awdurdod lleol (yn ôl y digwydd);

ystyr “Deddf 1983” (“the 1983 Act”) yw Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983(5);

ystyr “Deddf 1985” (“the 1985 Act”) yw Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985(6);

ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000(7);

ystyr “Deddf CB 2000” (“the RP Act 2000”) yw Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000(8);

ystyr “Deddf yr Etholiadau” (“the Elections Act”) yw Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (9);

ystyr “dyddiad y cynigion” (“proposals date”)—

(d)

mewn perthynas â refferendwm, ac eithrio refferendwm pellach, yw'r dyddiad pan gaiff cynigion—

(i)

o dan adran 25 o Ddeddf 2000 sy'n ymwneud â ffurf o weithrediaeth y mae refferendwm yn ofynnol ar ei chyfer,

(ii)

o dan reoliad 17 neu 19 o'r Rheoliadau Deisebau a Chyfarwyddiadau,

(iii)

o dan orchymyn o dan adran 36 o Ddeddf 2000, neu

(iv)

o dan reoliadau o dan adran 30 neu 33 o Ddeddf 2000(10),

eu hanfon at Weinidogion Cymru; a

(e)

mewn perthynas â refferendwm pellach, yw'r diwrnod sy'n digwydd ddau fis cyn y diwrnod y cynhelir y bleidlais yn y refferendwm pellach;

rhaid dehongli “etholiad llywodraeth leol” (“local government election”) yn unol ag adran 203(1) o Ddeddf 1983;

rhaid dehongli “etholiad maerol” (“mayoral election”) yn unol â Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Etholiadau Maerol) (Cymru a Lloegr) 2007(11);

rhaid dehongli “etholiad Senedd Ewrop” (“European Parliamentary election”) ac “etholiad cyffredinol Senedd Ewrop” (“European Parliamentary general election”) yn unol ag adran 27(1) o Ddeddf 1985(12);

ystyr “maer etholedig” (“elected mayor”), mewn perthynas ag awdurdod lleol, yw unigolyn a etholir yn faer yr awdurdod lleol gan etholwyr llywodraeth leol ardal yr awdurdod lleol yn unol â darpariaethau a wnaed gan, neu o dan Ran II o Ddeddf 2000;

ystyr “refferendwm” (“referendum”) yw refferendwm a gynhelir o dan adran 27 (refferendwm yn achos cynigion sy'n ymwneud â maer etholedig) o Ddeddf 2000, neu yn rhinwedd rheoliadau neu orchymyn a wnaed o dan unrhyw ddarpariaeth o Ran II (trefniadau o ran gweithrediaethau etc.) o Ddeddf 2000;

ystyr “refferendwm pellach” (“further referendum) yw refferendwm a gynhelir yn unol â gorchymyn o dan reoliad 13(3);

ystyr “Rheolau Refferenda'r Ddeddf Llywodraeth Leol” (“the Local Government Act Referendums Rules”) yw'r rheolau a nodir yn Atodlen 3 i'r Rheoliadau hyn;

ystyr “Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl” (“the Representation of the People Regulations”) yw Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001(13);

ystyr “y Rheoliadau Deisebau a Chyfarwyddiadau” (“the Petitions and Directions Regulations”) yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Refferenda) (Deisebau a Chyfarwyddiadau) (Cymru) 2001(14);

ystyr “swyddog cyfrif” (“counting officer”) yw person y cyfeirir ato yn rheoliad 9;

mae i “swyddog priodol” yr ystyr a roddir i “proper officer” yn adran 270(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(15); ac

ystyr “trefnydd deiseb” (“petition organiser”), mewn perthynas â refferendwm, yw person a drinnir at ddibenion rheoliad 10(4) neu (5) (ffurfioldebau deisebau) (yn ôl y digwydd) o'r Rheoliadau Deisebau a Chyfarwyddiadau fel trefnydd unrhyw ddeiseb ddilys (p'un ai deiseb gyfunedig, deiseb gyfansoddol neu ddeiseb wedi'r cyhoeddiad) a dderbyniwyd gan yr awdurdod lleol sy'n cynnal y refferendwm neu y cynhelir y refferendwm mewn perthynas ag ef(16).

(2Mae pob cyfeiriad yn y darpariaethau canlynol o'r Rheoliadau hyn at adran â rhif yn ei dilyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu'n wahanol, yn gyfeiriad at yr adran yn Neddf 2000 sy'n dwyn y rhif hwnnw.

Y datganiad a'r cwestiwn sydd i'w ofyn mewn refferendwm

3.  Pan fo'r cynigion y cynhelir refferendwm mewn perthynas â hwy yn ymwneud ag—

(a)gweithrediaeth o faer a chabinet, mae'r datganiad sydd i ragflaenu'r cwestiwn (“y datganiad”) a'r cwestiwn sydd i'w ofyn yn y refferendwm hwnnw i fod yn y ffurf a bennir ym mharagraff 1 o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn;

(b)gweithrediaeth o faer a rheolydd y cyngor, mae'r datganiad a'r cwestiwn sydd i'w ofyn yn y refferendwm hwnnw i fod yn y ffurf a bennir ym mharagraff 2 o'r Atodlen honno;

(c)gweithrediaeth o arweinydd a chabinet, mae'r datganiad a'r cwestiwn sydd i'w ofyn yn y refferendwm hwnnw i fod yn y ffurf a bennir ym mharagraff 3 o'r Atodlen honno.

Cyhoeddusrwydd a gwybodaeth arall mewn cysylltiad â refferenda

4.—(1Rhaid i'r swyddog priodol, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl y dyddiad cynigion, gyhoeddi mewn o leiaf un o'r papurau newydd sy'n cylchredeg yn ardal yr awdurdod lleol hysbysiad sydd yn cynnwys—

(a)datganiad, yn ôl y digwydd, bod—

(i)cynigion o dan adran 25 sy'n ymwneud â ffurf o weithrediaeth y mae refferendwm yn ofynnol ar ei chyfer,

(ii)cynigion o dan reoliad 17(3) neu 19(1) o'r Rheoliadau Deisebau a Chyfarwyddiadau,

(iii)cynigion o dan orchymyn o dan adran 36, neu

(iv)cynigion o dan reoliadau o dan adran 30 neu 33,

wedi eu hanfon at Weinidogion Cymru;

(b)disgrifiad o brif nodweddion y cynigion ac o'r cynigion wrth gefn amlinellol;

(c)datganiad—

(i)y cynhelir refferendwm,

(ii)o'r dyddiad y cynhelir y refferendwm,

(iii)o'r cwestiwn sydd i'w ofyn yn y refferendwm,

(iv)y cynhelir y refferendwm yn unol â gweithdrefnau cyffelyb i'r rhai a ddefnyddir mewn etholiadau llywodraeth leol,

(v)o'r cyfyngiad treuliau refferendwm (fel y'i diffinnir yn rheoliad 6(1)) a fydd yn gymwys mewn perthynas â'r refferendwm, ac o nifer yr etholwyr llywodraeth leol y cyfrifwyd y cyfyngiad hwnnw drwy gyfeirio ato,

(vi)o'r cyfeiriad lle y gellir archwilio copi o'r cynigion a chynigion wrth gefn amlinellol yr awdurdod lleol, a'r amserau pan ellir gwneud hynny, a

(vii)o'r gweithdrefnau ar gyfer cael copi o'r cynigion a'r cynigion wrth gefn amlinellol.

(2Oni chyhoeddir yr hysbysiad sy'n ofynnol ei gyhoeddi yn ôl paragraff (1) (“yr hysbysiad cyntaf”) o fewn llai na 56 o ddiwrnodau cyn dyddiad y refferendwm, rhaid i'r swyddog priodol gyhoeddi ail hysbysiad a fydd yn cynnwys y manylion a bennir ym mharagraff (1)(c)(i) i (vii).

(3Rhaid cyhoeddi'r ail hysbysiad—

(a)yn yr un papur neu bapurau newydd a ddefnyddiwyd i gyhoeddi'r hysbysiad cyntaf, a

(b)nid mwy na 55 o ddiwrnodau ac nid llai na 28 o ddiwrnodau cyn dyddiad y refferendwm.

(4Drwy gydol cyfnod y refferendwm, yn y cyfeiriad ac yn ystod yr amserau a nodir yn yr hysbysiad, a hynny'n ddi-dâl, rhaid i'r awdurdod lleol roi copi ar gael i'w archwilio o'i gynigion a'i gynigion wrth gefn amlinellol, a rhaid iddo sicrhau bod nifer digonol o gopïau ar gael i bersonau sy'n dymuno cael copïau.

(5Caiff yr awdurdod lleol ddarparu (p'un ai yn unol ag unrhyw ddyletswydd i wneud hynny ai peidio) unrhyw wybodaeth ffeithiol arall mewn perthynas â'r cynigion, y cynigion wrth gefn amlinellol neu'r refferendwm, cyn belled ag y cyflwynir yr wybodaeth honno yn deg.

(6Wrth benderfynu at ddibenion paragraff (5) a yw unrhyw wybodaeth yn cael ei chyflwyno'n deg, rhaid rhoi sylw, yn unol ag adran 38, i unrhyw ganllawiau a gyhoeddir am y tro gan Weinidogion Cymru o dan adran 38.

Cyfyngu ar gyhoeddi etc. deunydd hyrwyddo

5.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw ddeunydd sydd—

(a)yn darparu gwybodaeth gyffredinol am y refferendwm,

(b)yn ymwneud ag unrhyw un o'r materion a godir gan y cwestiwn sydd i'w ofyn yn y refferendwm, neu

(c)yn cyflwyno unrhyw ddadleuon o blaid neu yn erbyn ateb penodol i'r cwestiwn hwnnw.

(2Ni chaniateir cyhoeddi unrhyw ddeunydd y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo gan neu ar ran awdurdod lleol yn ystod y cyfnod o 28 diwrnod a ddaw i ben ar ddyddiad y bleidlais yn y refferendwm.

(3Nid yw paragraff (2) yn gymwys i—

(a)deunydd a roddir ar gael i bersonau mewn ymateb i geisiadau penodol am wybodaeth neu i bersonau sy'n ceisio cael mynediad i'r deunydd yn benodol,

(b)cyhoeddi gwybodaeth ynglŷn â chynnal y bleidlais yn y refferendwm, neu

(c)cyhoeddi hysbysiadau i'r wasg sy'n cynnwys gwybodaeth ffeithiol, os unig ddiben y cyhoeddi yw gwrthbrofi neu gywiro unrhyw anghywirdeb mewn deunydd a gyhoeddir gan berson ac eithrio'r awdurdod lleol.

(4Yn y rheoliad hwn, ystyr “cyhoeddi” (“publish”) yw rhoi ar gael i'r cyhoedd yn gyffredinol, neu i unrhyw ran o'r cyhoedd, ar ba ffurf bynnag a thrwy ba bynnag ddull (gan gynnwys, yn benodol, drwy gynnwys mewn unrhyw raglen a gynhwysir mewn gwasanaeth rhaglenedig o fewn ystyr Deddf Darlledu 1990 (17)); a dylid dehongli “cyhoeddiad” (“publication”) yn yr un modd.

Cyfyngiad cyffredinol ar dreuliau refferendwm

6.—(1Yn y rheoliad hwn a rheoliad 7—

ystyr “at ddibenion refferendwm” (“for referendum purposes”) yw—

(a)

mewn cysylltiad â chynnal neu reoli unrhyw ymgyrch a gynhelir gyda'r bwriad o hyrwyddo neu sicrhau canlyniad penodol mewn perthynas â'r cwestiwn a ofynnir yn y refferendwm, neu

(b)

mewn cysylltiad fel arall â hyrwyddo neu sicrhau canlyniad o'r fath;

ystyr “cyfyngiad treuliau refferendwm” (“referendum expenses limit”) yw'r cyfanswm o £2,362 a'r swm a geir trwy luosi 5.9 ceiniog â nifer y cofnodion yn y gofrestr berthnasol;

ystyr “y gofrestr berthnasol” (“the relevant register”) yw'r gofrestr (neu gofrestrau) o etholwyr llywodraeth leol a gyhoeddwyd o dan adran 13 (cyhoeddi cofrestrau) o Ddeddf 1983(18) ar ôl terfynu'r canfasio a wnaed o dan adran 10 o'r Ddeddf honno(19) yn y flwyddyn a oedd yn rhagflaenu yn union y flwyddyn y cynhelir y refferendwm ynddi, sydd mewn grym yn ardal yr awdurdod lleol sy'n cynnal y refferendwm, neu y cynhelir y refferendwm mewn perthynas ag ef (p'un a oes hawl gan y personau y mae'r cofnodion yn ymwneud â hwy i bleidleisio yn y refferendwm ai peidio):

ystyr “trefnydd ymgyrch” (“campaign organiser”) yw'r unigolyn neu'r corff y tynnir treuliau refferendwm ganddo, neu ar ei ran (gan gynnwys treuliau a drinnir fel be baent wedi eu tynnu felly) mewn cysylltiad ag ymgyrch refferendwm;

ystyr “treuliau refferendwm” (“referendum expenses”) yw'r treuliau a dynnir gan neu ar ran unrhyw unigolyn neu gorff yn ystod y cyfnod refferendwm at ddibenion y refferendwm mewn perthynas ag unrhyw un o'r materion a nodir ym mharagraffau 1 i 7 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn, fel y'u darllenir yn unol â pharagraff 8 o'r Atodlen honno;

ystyr “ymgyrch refferendwm” (“referendum campaign”) yw ymgyrch a gynhelir gyda'r bwriad o hyrwyddo neu sicrhau canlyniad penodol mewn perthynas â'r cwestiwn a ofynnir yn y refferendwm.

(2Ni chaiff cyfanswm y treuliau refferendwm a dynnir gan neu ar ran unrhyw unigolyn neu gorff, neu a drinnir, yn unol â rheoliad 7, fel pe baent wedi eu tynnu felly, fod yn fwy na'r cyfyngiad treuliau refferendwm.

(3Pan dynnir unrhyw dreuliau refferendwm sydd yn fwy na'r cyfyngiad treuliau refferendwm, bydd person a oedd yn gwybod, neu a ddylai yn rhesymol fod wedi gwybod, yr eid dros ben y cyfyngiad neu sydd, heb esgus rhesymol, yn awdurdodi person arall i fynd dros ben y cyfyngiad hwnnw, yn euog o dramgwydd.

(4Pan roddir gwybodaeth i'r Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus bod tramgwydd o dan baragraff (3) wedi ei gyflawni, dyletswydd y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus yw gwneud pa bynnag ymholiadau a chychwyn pa bynnag erlyniadau ag y bo'n ymddangos i'r Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus yn ofynnol o dan amgylchiadau'r achos.

(5Pan brofir bod tramgwydd o dan baragraff (3) a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol wedi ei gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad, neu y gellir ei briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran, cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb y corff corfforaethol, neu unrhyw berson arall sy'n honni gweithredu yn rhinwedd swydd o'r fath, bydd y person hwnnw yn ogystal â'r corff corfforaethol yn euog o'r tramgwydd hwnnw ac yn agored i gael achos cyfreithiol wedi ei ddwyn yn ei erbyn ac i'w gosbi yn unol â hynny.

(6Bydd person sy'n cyflawni tramgwydd o dan baragraff (3) yn agored—

(a)o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na'r uchafswm statudol neu gyfnod yn y carchar nad yw'n hwy na 12 mis, neu'r ddau, neu

(b)o'i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy neu gyfnod yn y carchar nad yw'n hwy na 12 mis, neu'r ddau.

(7Mewn perthynas â thramgwydd a gyflawnwyd cyn cychwyn adran 154(1) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003(20), rhaid darllen y cyfeiriad ym mharagraff (6)(a) at 12 mis fel pe bai'n gyfeiriad at 6 mis.

(8Nid oes dim ym mharagraff (2) yn effeithio ar hawl unrhyw gredydwr na wyddai, pan achoswyd y draul fod y draul honno yn groes i'r paragraff hwnnw.

Treuliau refferendwm tybiannol

7.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan—

(a)darperir eiddo, gwasanaethau neu gyfleusterau at ddefnydd neu er budd unrhyw berson naill ai—

(i)yn ddi-dâl, neu

(ii)ar ddisgownt o fwy na 10 y cant o'r gyfradd fasnachol am ddefnyddio'r eiddo neu ddarparu'r gwasanaethau neu'r cyfleusterau; a

(b)y defnyddir yr eiddo, y gwasanaethau neu'r cyfleusterau gan neu ar ran y person hwnnw o dan y fath amgylchiadau fel pe dynnid (neu pan dynnir) yn wirioneddol unrhyw dreuliau gan y person hwnnw neu ar ran y person hwnnw mewn cysylltiad â'r defnydd hwnnw, byddent (neu maent) yn dreuliau refferendwm a dynnwyd gan y person hwnnw neu ar ran y person hwnnw.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (5), pan fo'r rheoliad hwn yn gymwys, rhaid ymdrin â swm o dreuliau refferendwm a bennir yn unol â pharagraff (3), onid yw'n ddim mwy na £200, at ddibenion rheoliad 6 fel pe dynnwyd ef gan y person hwnnw yn ystod y cyfnod y defnyddir yr eiddo, y gwasanaethau neu'r cyfleusterau fel y nodir ym mharagraff (1)(b).

(3Y swm a grybwyllir ym mharagraff (2) yw'r cyfryw gyfran o naill ai—

(a)y gyfradd fasnachol am ddefnyddio'r eiddo neu am ddarparu'r gwasanaethau neu'r cyfleusterau (pan ddarperir yr eiddo, y gwasanaethau neu'r cyfleusterau yn ddi-dâl), neu

(b)y gwahaniaeth rhwng y gyfradd fasnachol a swm y treuliau a dynnwyd mewn gwirionedd gan y person hwnnw neu ar ei ran am ddefnyddio'r eiddo neu am ddarparu'r gwasanaethau neu'r cyfleusterau (pan darperir yr eiddo, y gwasanaethau neu'r cyfleusterau ar ddisgownt),

ag y gellir yn rhesymol ei phriodoli i'r defnydd a wneir o'r eiddo, y gwasanaethau neu'r cyfleusterau fel y nodir ym mharagraff (1)(b).

(4Pan roddir gwasanaethau cyflogai ar gael at ddefnydd neu er budd person gan gyflogwr y cyflogai, y swm sydd i'w ystyried yn gyfradd fasnachol am ddarparu'r gwasanaethau hynny yw swm y tâl neu'r lwfansau a fyddai'n daladwy i'r cyflogai gan gyflogwr y cyflogai am y cyfnod pan roddir gwasanaethau'r cyflogai ar gael (ond nid yw'r swm hwnnw i gynnwys unrhyw swm mewn perthynas â chyfraniadau neu daliadau eraill y mae'r cyflogwr yn atebol amdanynt mewn perthynas â'r cyflogai).

(5Nid ystyrir bod unrhyw swm o dreuliau refferendwm wedi ei dynnu yn rhinwedd paragraff (2) mewn cysylltiad ag unigolyn sy'n darparu ei wasanaeth ei hun o'i wirfodd yn ei amser ei hun ac yn ddi-dâl.

Cynnal refferendwm

8.—(1Mae refferendwm i'w gynnal yn unol â Rheolau Refferenda'r Ddeddf Llywodraeth Leol (a gynhwysir yn Atodlen 3 i'r Rheoliadau hyn).

(2Mae'r darpariaethau a grybwyllir yn y golofn gyntaf o'r Tablau 1 i 5 o Atodlen 4 i'r Rheoliadau hyn yn cael effaith mewn perthynas â refferenda, yn ddarostyngedig i'r addasiadau a bennir yn yr Atodlen honno ac i unrhyw ddarpariaeth i'r gwrthwyneb yn y Rheoliadau hyn.

Swyddog cyfrif

9.—(1Rhaid i'r swyddogaethau a roddwyd gan y Rheoliadau hyn i'r swyddog cyfrif gael eu harfer ym mhob ardal pleidlais gan y person sydd am y tro yn swyddog canlyniadau mewn etholiadau cynghorwyr ar gyfer yr ardal honno o dan adran 35(1A)(a) (swyddogion canlyniadau: etholiadau lleol) o Ddeddf 1983(21).

(2Dyletswydd gyffredinol y swyddog cyfrif yn y refferendwm yw gwneud yr holl gyfryw weithredoedd a phethau a all fod yn angenrheidiol er mwyn cynnal y refferendwm yn effeithiol yn y modd a ddarperir gan y Rheoliadau hyn.

(3Rhaid i'r swyddog cyfrif hefyd benodi a thalu'r cyfryw bersonau a all fod yn angenrheidiol at y diben o gyfrif y pleidleisiau.

Canlyniad y refferendwm neu refferendwm pellach

10.—(1Mae'r rheoliad hwn yn ddarostyngedig i reoliadau 12 a 13.

(2Os yw mwyafrif y pleidleisiau a fwrir mewn refferendwm, ac eithrio refferendwm pellach, yn bleidleisiau “o blaid”, canlyniad y refferendwm yw—

(a)at ddibenion adran 27(7), cymeradwyo cynigion yr awdurdod lleol o dan adran 25;

(b)at ddibenion rheoliad 23 (gweithredu pan gymeradwyir cynigion y refferendwm) o'r Rheoliadau Deisebau a Chyfarwyddiadau neu, yn ôl y digwydd, darpariaethau cymaradwy unrhyw reoliadau eraill neu orchymyn arall a wnaed o dan unrhyw ddarpariaeth o Ran II o Ddeddf 2000, cymeradwyo'r cynigion a oedd yn destun y refferendwm.

(3Os yw mwyafrif y pleidleisiau a fwrir mewn refferendwm, ac eithrio refferendwm pellach, yn bleidleisiau “yn erbyn”, canlyniad y refferendwm yw—

(a)at ddibenion adran 27(8), gwrthod cynigion yr awdurdod lleol o dan adran 25;

(b)at ddibenion rheoliad 24 (gweithredu pan wrthodir cynigion y refferendwm) o'r Rheoliadau Deisebau a Chyfarwyddiadau neu, yn ôl y digwydd, darpariaethau cymaradwy unrhyw reoliadau eraill neu orchymyn arall a wnaed o dan unrhyw ddarpariaeth o Ran II o Ddeddf 2000, gwrthod y cynigion a oedd yn destun y refferendwm.

(4Os yw mwyafrif y pleidleisiau a fwrir mewn refferendwm pellach yn bleidleisiau “o blaid”, canlyniad y refferendwm yw cymeradwyo parhau â threfniadau gweithrediaeth presennol yr awdurdod lleol neu ei drefniadau amgen presennol (yn ôl y digwydd).

(5Os yw mwyafrif y pleidleisiau a fwrir mewn refferendwm pellach yn bleidleisiau “yn erbyn”, canlyniad y refferendwm yw gwrthod parhau â threfniadau gweithrediaeth presennol yr awdurdod lleol neu ei drefniadau amgen presennol (yn ôl y digwydd).

(6Mewn achos y mae paragraff (5) yn gymwys iddo, bydd adran 27(8) i (12) wedyn yn gymwys, fel pe bai canlyniad y refferendwm pellach yn wrthodiad o gynigion yr awdurdod lleol o dan adran 25, ond yn ddarostyngedig—

(a)yn adran 27(8)(b), i fewnosod y geiriau “that were proposed at the time of the referendum” ar ôl “outline fall-back proposals”,

(b)yn adran 27(9), i hepgor y geiriau “outline fall-back proposals or”, ac

(c)yn adran 27(10), i roi “Detailed” yn lle'r geiriau “Outline fall-back proposals and detailed”.

Gweithdrefnau ar gyfer cwestiynu refferendwm

11.—(1Gellir cwestiynu refferendwm o dan y Rheoliadau hyn drwy ddeiseb (“deiseb refferendwm”)—

(a)ar y sail nad oedd canlyniad y refferendwm yn unol â'r pleidleisiau a fwriwyd,

(b)ar y sail bod y refferendwm wedi ei ddirymu gan y cyfryw arferion llwgr neu anghyfreithlon, o fewn yr ystyr yn Neddf 1983, sy'n berthnasol i refferenda yn rhinwedd rheoliad 8 neu baragraff (8),

(c)ar y seiliau a ddarperir gan adran 164 (dirymu etholiad oherwydd llygredigaeth gyffredinol etc.) o Ddeddf 1983, fel y'i cymhwysir at ddibenion y Rheoliadau hyn gan baragraff (8), neu

(ch)yn ddarostyngedig i baragraff (3), ar y sail bod taliad ariannol neu wobr arall wedi eu gwneud neu'u haddo ers y refferendwm, yn unol ag arfer llwgr neu anghyfreithlon sy'n berthnasol i'r refferendwm yn rhinwedd rheoliad 8 neu baragraff (8).

(2Rhaid cyflwyno deiseb refferendwm ar unrhyw un o'r seiliau ym mharagraff (1)(a) i (c) ddim hwyrach nag 21 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y cynhaliwyd y refferendwm.

(3Caniateir cyflwyno deiseb refferendwm ar y sail a grybwyllir ym mharagraff (1)(ch) ddim ond gyda chaniatâd yr Uchel Lys.

(4Rhaid gwneud cais am ganiatâd ddim hwyrach na 28 o ddiwrnodau ar ôl dyddiad y taliad neu addewid honedig, drwy roi hysbysiad o gais i'r llys, ar ba bynnag adeg ac ym mha bynnag le a bennir gan y llys.

(5Ddim llai na saith niwrnod cyn y diwrnod a bennir felly, rhaid i'r ymgeisydd—

(a)gyflwyno'r hysbysiad o gais i'r ymatebydd ac i'r Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus a rhoi copi yn y swyddfa deisebau etholiadau, a

(b)cyhoeddi hysbysiad o'r bwriad i wneud cais mewn o leiaf un papur newydd sy'n cylchredeg yn ardal y bleidlais ar gyfer y refferendwm y mae'r cais ym ymwneud ag ef.

(6Rhaid i'r hysbysiad o gais ddatgan ar ba sail y gwneir y cais.

(7Rhaid i ddeiseb refferendwm gael ei phrofi gan lys etholiad, hynny yw, llys a gyfansoddwyd o dan adran 130 (llys etholiad ar gyfer etholiad lleol yng Nghymru a Lloegr, a man cynnal treial) o Ddeddf 1983 ar gyfer profi deiseb etholiad, fel y'i cymhwysir gan baragraff (8).

(8Mae Atodlen 5 i'r Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaethau sy'n cael effaith mewn perthynas â chwestiynu refferendwm, fel y cânt effaith mewn perthynas â chwestiynu etholiad o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, yn ddarostyngedig i'r addasiadau a bennir yn yr Atodlen honno ac i unrhyw ddarpariaeth i'r gwrthwyneb yn y Rheoliadau hyn.

(9Mae Rheolau Deisebau Etholiadau 1960(22) yn cael effaith mewn perthynas â deiseb refferendwm fel y cânt effaith mewn perthynas deiseb etholiad lleol o fewn ystyr y Rheolau hynny, yn ddarostyngedig i'r addasiadau a bennir yn Atodlen 6 i'r Rheoliadau hyn ac i unrhyw ddarpariaeth i'r gwrthwyneb yn y Rheoliadau hyn.

Canlyniadau di-oed deisebau refferendwm

12.—(1Mae'r rheoliad hwn, ac eithrio paragraff (8), yn gymwys—

(a)pan gyflwynir deiseb refferendwm ar unrhyw un o'r seiliau a grybwyllir yn rheoliad 11(1)(a) i (c), neu

(b)pan roddir caniatâd i gyflwyno deiseb refferendwm a ddygir ar y sail a grybwyllir yn 11(1)(ch).

(2Pan fo'r rheoliad hwn yn gymwys—

(a)mewn perthynas â refferendwm—

(i)lle'r oedd y datganiad a'r cwestiwn a ofynnwyd ar y ffurf a nodir ym mharagraff 3 o Atodlen 1, a

(ii)lle mae mwyafrif y pleidleisiau a fwriwyd yn bleidleisiau “o blaid”; a

(b)cyn i'r awdurdod lleol basio penderfyniad o dan adran 29,

rhaid i'r awdurdod lleol beidio â chymryd unrhyw gamau pellach o ganlyniad i'r refferendwm hyd nes bo'r llys etholiad wedi ardystio ei benderfyniad ym mater y ddeiseb refferendwm.

(3Pan fo'r rheoliad hwn yn gymwys —

(a)mewn perthynas â refferendwm—

(i)lle'r oedd y datganiad a'r cwestiwn a ofynnwyd ar y ffurf a nodir ym mharagraff 3 o Atodlen 1, a

(ii)lle mae mwyafrif y pleidleisiau a fwriwyd yn bleidleisiau “o blaid”; a

(b)ar ôl i'r awdurdod lleol basio penderfyniad o dan adran 29,

rhaid i'r awdurdod lleol barhau i weithredu'r trefniadau gweithrediaeth sy'n destun y penderfyniad hwnnw.

(4Pan fo'r rheoliad hwn yn gymwys —

(a)mewn perthynas â refferendwm —

(i)lle'r oedd y datganiad a'r cwestiwn a ofynnwyd ar y ffurf a nodir ym mharagraff 1 neu 2 o Atodlen 1, a

(ii)lle mae mwyafrif y pleidleisiau a fwriwyd yn bleidleisiau “o blaid”; a

(b)nid oes etholiad i ethol maer etholedig wedi digwydd o ganlyniad i'r refferendwm,

rhaid i'r awdurdod lleol beidio â chymryd unrhyw gamau pellach o ganlyniad i'r refferendwm hyd nes bo'r llys etholiad wedi ardystio ei benderfyniad ym mater y ddeiseb refferendwm.

(5Pan fo'r rheoliad hwn yn gymwys —

(a)mewn perthynas â refferendwm lle mae mwyafrif y pleidleisiau a fwriwyd yn bleidleisiau “yn erbyn”; a

(b)pan fo cynigion wrth gefn amlinellol yr awdurdod lleol yn seiliedig ar y trefniadau gweithrediaeth neu drefniadau amgen yr oedd yn eu gweithredu ar ddyddiad y refferendwm, rhaid iddo barhau i weithredu'r trefniadau hynny.

(6Pan fo'r rheoliad hwn yn gymwys ond nad yw paragraff (5) yn gymwys—

(a)mewn perthynas â refferendwm lle mae mwyafrif y pleidleisiau a fwriwyd yn bleidleisiau “yn erbyn”; a

(b)cyn i'r awdurdod lleol basio penderfyniad o dan adran 29 (gweithredu trefniadau gweithrediaeth a chyhoeddusrwydd ar eu cyfer) neu adran 33 (gweithredu trefniadau amgen),

rhaid i'r awdurdod lleol beidio â chymryd unrhyw gamau pellach o ganlyniad i'r refferendwm hyd nes bo'r llys etholiad wedi ardystio ei benderfyniad ym mater y ddeiseb refferendwm.

(7Pan fo'r rheoliad hwn yn gymwys—

(a)mewn perthynas â refferendwm lle mae mwyafrif y pleidleisiau a fwriwyd yn bleidleisiau “yn erbyn”; a

(b)ar ôl i'r awdurdod lleol basio penderfyniad o dan adran 29 neu 33,

rhaid i'r awdurdod lleol barhau i weithredu'r trefniadau gweithrediaeth neu'r trefniadau amgen (yn ôl y digwydd) sy'n destun y penderfyniad hwnnw.

(8Pan roddir caniatâd i gyflwyno deiseb refferendwm a ddygir ar y sail a grybwyllir yn rheoliad 11(1)(ch)—

(a)mewn perthynas â refferendwm—

(i)lle'r oedd y datganiad a'r cwestiwn a ofynnwyd ar y ffurf a nodir ym mharagraff 1 neu 2 o Atodlen 1, a

(ii)lle mae mwyafrif y pleidleisiau a fwriwyd yn bleidleisiau “o blaid”; a

(b)ar ôl i etholiad ddigwydd ar gyfer ethol maer etholedig o ganlyniad i'r refferendwm,

bydd y maer etholedig yn parhau yn y swydd.

Penderfynu deisebau refferendwm a'r gweithdrefnau dilynol

13.—(1Pan fo llys etholiad yn ardystio, fel ei benderfyniad ar ddeiseb refferendwm, bod canlyniad y refferendwm, a gyhoeddwyd o dan reoliad 10, naill ai yn unol â'r pleidleisiau a fwriwyd neu nad yw'n unol â'r pleidleisiau a fwriwyd (yn ôl y digwydd), rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad (ym mha dermau bynnag) at ddyddiad canlyniad y refferendwm yn yr amserlen—

(a)a gynhwysir yng nghynigion yr awdurdod lleol o dan adran 25;

(b)a gynhwysir yn ei gynigion o dan reoliad 17(3)(a) neu 19(1)(c) o'r Rheoliadau Deisebau a Chyfarwyddiadau;

(c)a baratowyd yn unol ag adran 27(4) neu reoliad 17(7)(a)(ii) neu 20(3)(a)(iii) o'r Rheoliadau hynny; neu

(ch)a baratowyd o ran unrhyw reoliadau eraill neu orchymyn a wnaed o dan unrhyw ddarpariaeth o Ran II (trefniadau mewn perthynas â gweithrediaethau etc.) o Ddeddf 2000.

fel cyfeiriad at y dyddiad pan fo'r llys etholiad yn ardystio ei benderfyniad.

(2Pan fo llys etholiad yn ardystio, fel ei benderfyniad ar ddeiseb refferendwm a oedd yn nodi unrhyw un o'r seiliau a grybwyllir yn rheoliad 11(1), bod y refferendwm wedi ei ddirymu, rhaid i'r awdurdod lleol dan sylw gynnal refferendwm arall, ddim cynt na dau fis a dim hwyrach na thri mis ar ôl y dyddiad y cadarnhaodd y llys etholiad y penderfyniad hwnnw.

(3Pan fo'r amgylchiadau fel a grybwyllir yn rheoliad 12(8)(a) a (b), rhaid i'r llys—

(a)wrthod y ddeiseb, neu

(b)ganiatáu'r ddeiseb,

a, phan fo'r llys yn caniatáu'r ddeiseb rhaid iddo gyhoeddi bod y refferendwm yn llygredig a gorchymyn bod refferendwm arall yn cael ei gynnal.

(4Pan fo'r llys etholiad yn gwneud y gorchymyn a grybwyllir ym mharagraff (3), rhaid i'r awdurdod lleol gynnal y refferendwm pellach cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl diwedd y cyfnod o bum mlynedd sy'n cychwyn ar y dyddiad y cynhaliwyd y refferendwm llygredig.

(5Os yw mwyafrif y pleidleisiau a fwrir mewn refferendwm pellach yn bleidleisiau “o blaid”—

(a)pan fo'r awdurdod lleol yn gweithredu trefniadau gweithrediaeth, rhaid iddo barhau i weithredu'r trefniadau hynny oni chaiff, a hyd nes caiff, ei awdurdodi neu ei bod yn ofynnol iddo weithredu trefniadau gweithrediaeth gwahanol, neu ei awdurdodi i weithredu trefniadau amgen yn lle ei drefniadau gweithrediaeth presennol, a

(b)pan fo'r awdurdod lleol yn gweithredu trefniadau amgen, rhaid iddo barhau i weithredu'r trefniadau hynny oni chaiff, a hyd nes caiff, ei awdurdodi i weithredu trefniadau amgen gwahanol, neu ei awdurdodi neu ei bod yn ofynnol iddo weithredu trefniadau gweithrediaeth yn lle ei drefniadau amgen presennol.

(6Os yw mwyafrif y pleidleisiau a fwrir mewn refferendwm pellach yn bleidleisiau “yn erbyn”—

(a)rhaid i'r awdurdod lleol weithredu'r cynigion hynny a oedd yn gynigion wrth gefn amlinellol ganddo ar adeg y refferendwm llygredig, a

(b)yn ddarostyngedig i baragraffau (7) ac (8), mae adran 27(13) (refferendwm yn achos cynigion sy'n ymwneud â maer etholedig) yn gymwys ar gyfer gweithredu cynigion wrth gefn manwl fel pe bai'r cynigion wrth gefn amlinellol hynny yn gynigion wrth gefn amlinellol ar achlysur pan wrthodir cynigion o dan adran 25 (cynigion) mewn refferendwm o dan adran 27.

(7Os y trefniadau gweithrediaeth neu drefniadau amgen a weithredid gan yr awdurdod ar ddyddiad y refferendwm llygredig yw cynigion wrth gefn amlinellol yr awdurdod, mae adran 27(13) yn gymwys (fel y crybwyllir ym mharagraff (6)) fel pe rhoddid y geiriau “as soon as practicable” yn lle “in accordance with the timetable mentioned in subsection (4)”

(8Os trefniadau gweithrediaeth sy'n cynnwys ffurf o weithrediaeth nad yw'n ofynnol cael refferendwm ar ei chyfer yw cynigion wrth gefn amlinellol yr awdurdod—

(a)mae adran 29(1) (gweithredu trefniadau gweithrediaeth a chyhoeddusrwydd ar eu cyfer) yn gymwys at y diben o alluogi'r awdurdod i weithredu'r trefniadau gweithrediaeth a nodir yn ei gynigion wrth gefn manwl, fel y mae'n gymwys at y diben o alluogi awdurdod i weithredu trefniadau gweithrediaeth mewn amgylchiadau eraill, a

(b)mae adran 29(2) yn gymwys fel pe bai is-baragraff (i) ym mharagraff (b) wedi ei amnewid gan—

(i)states that, in consequence of the rejection in a further referendum of the authority’s existing executive arrangements, the authority have resolved to operate the different executive arrangements that were described in their outline fall-back proposals at the time of the referendum,.

(9Pan fo cynigion wrth gefn amlinellol yr awdurdod lleol yn drefniadau amgen—

(a)mae adran 32(2) (gweithredu trefniadau amgen) yn gymwys at y diben o alluogi'r awdurdod lleol i weithredu'r trefniadau amgen a nodir yn ei gynigion wrth gefn manwl, fel y mae'n gymwys at y diben o alluogi awdurdod i weithredu trefniadau amgen mewn amgylchiadau eraill, a

(b)mae adran 29(2) yn gymwys fel pe bai is-baragraff (i) ym mharagraff (b) wedi ei amnewid gan “(i) states that, in consequence of the rejection in a further referendum of the local authority’s existing executive arrangements the local authority have resolved to operate the alternative arrangements that were described in their outline fall-back proposals at the time of the referendum.”.

(10Mae'r Rheoliadau hyn, ac eithrio pan fo'r cyd-destun yn mynnu fel arall, yn gymwys (i'r graddau y maent yn berthnasol) ar gyfer cynnal y refferendwm pellach, fel y maent yn gymwys i gynnal unrhyw refferendwm arall, yn ddarostyngedig i—

(a)yn rheoliad 4—

(i)hepgor paragraff (1)(a),

(ii)ym mharagraff (1)(b), rhoi “trefniadau gweithrediaeth neu amgen presennol yr awdurdod lleol” yn lle “y cynigion”,

(iii)ym mharagraff (1)(c)(vi), rhoi “dogfen y nodir ynddi brif nodweddion trefniadau gweithrediaeth neu amgen presennol yr awdurdod” yn lle “copi o'r cynigion”,

(iv)ym mharagraff (1)(c)(vii), rhoi “ddogfen honno a'r cynigion wrth gefn amlinellol hynny” yn lle “cynigion a'r cynigion wrth gefn amlinellol”,

(v)ar ôl paragraff (1)(c)(vii), mewnosod—

(viii)os yw'n digwydd bod y refferendwm yn cael ei gynnal o ganlyniad i benderfyniad llys etholiad bod y refferendwm diwethaf a gynhaliwyd yn ardal yr awdurdod yn ddi-rym neu, yn ôl y digwydd, y datgenir iddo fod yn llygredig oherwydd gwneud neu addo taliad ariannol neu wobr arall ers y refferendwm, yn unol ag arfer llwgr neu anghyfreithlon.,

(vi)ym mharagraff (4), rhoi “dogfen ar gael i'w harchwilio sy'n nodi prif nodweddion trefniadau gweithrediaeth cyfredol neu drefniadau amgen cyfredol yr awdurdod” yn lle “copi ar gael i'w archwilio o'i gynigion”,

(vii)ym mharagraff (5), rhoi “â phrif nodweddion trefniadau gweithrediaeth neu amgen cyfredol yr awdurdod lleol” yn lle “â'r cynigion”, ac

(b)yn lle paragraff 1 o Atodlen 1 a'r ffurf gyntaf sy'n ymddangos yn yr Atodiad i Reolau Refferenda'r Ddeddf Llywodraeth Leol, rhoi—

; ac

(c)yn lle paragraff 2 o Atodlen 1 a'r ail ffurf sy'n ymddangos yn yr Atodiad i Reolau Refferenda'r Ddeddf Llywodraeth Leol, rhoi—

.

(11Yn dilyn prif wrandawiad deiseb refferendwm y rhoddwyd caniatâd ar ei chyfer ac y mae'r amgylchiadau fel a grybwyllir mewn unrhyw baragraff o reoliad 12 ac eithrio paragraff (8), rhaid i'r llys etholiad naill ai—

(a)gwrthod y ddeiseb, neu

(b)caniatáu'r ddeiseb,

a phan fo'r llys yn caniatáu'r ddeiseb, rhaid iddo gyhoeddi bod y refferendwm yn ddi-rym.

Amser

14.—(1Rhaid anwybyddu'r diwrnodau a grybwyllir ym mharagraff (2) wrth gyfrifo unrhyw gyfnod o amser at ddibenion rheoliad 4(1).

(2Y diwrnodau a grybwyllir yn y paragraff hwn yw—

(a)dydd Sadwrn neu ddydd Sul,

(b)Noswyl Nadolig, Dydd Nadolig, dydd Gwener y Groglith neu ddiwrnod sy'n ŵyl banc o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(23) yng Nghymru, ac

(c)unrhyw ddiwrnod a bennir yn ddiwrnod o ddiolchgarwch neu alaru cyhoeddus.

Hysbysebion

15.  Mae Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion) 1992(24) yn cael effaith mewn perthynas ag arddangos, ar unrhyw safle yn ardal y bleidlais, unrhyw hysbyseb sy'n ymwneud yn benodol â'r refferendwm, fel y maent yn effeithiol mewn perthynas ag arddangos hysbyseb sy'n ymwneud yn benodol ag etholiad llywodraeth leol.

Trethi annomestig: mangre a ddefnyddir at ddibenion refferendwm

16.  Mewn perthynas â mangre yn ardal y bleidlais, mae adran 65(6) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988(25) (meddiant ar gyfer cynnal cyfarfodydd etholiad a phleidleisiau) yn cael effaith fel pe bai—

(a)y cyfeiriad at gyfarfodydd cyhoeddus er hyrwyddo ymgeisyddiaeth person mewn etholiad yn cynnwys cyfeiriad at gyfarfodydd cyhoeddus sy'n hyrwyddo canlyniad penodol yn y refferendwm, a

(b)y cyfeiriad at ddefnyddio gan swyddog canlyniadau at y diben o gynnal y bleidlais mewn etholiad yn cynnwys cyfeiriad at ddefnyddio at y diben o gymryd y bleidlais yn y refferendwm gan berson sy'n cyflawni swyddogaethau swyddog cyfrif yn unol â rheoliad 9.

Brian Gibbons

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

9 Gorffennaf 2008

Rheoliad 3

ATODLEN 1DATGANIADAU A CHWESTIYNAU SYDD I'W GOFYN MEWN REFFERENDWM

Rheoliad 6(1)

ATODLEN 2Materion sy'n berthnasol i Dreuliau Refferendwm

1.  Hysbysebion o unrhyw fath (beth bynnag fo'r cyfrwng).

Mae treuliau ar gyfer y cyfryw hysbysebion yn cynnwys ffioedd asiantaethau, costau dylunio, a chostau eraill mewn cysylltiad â pharatoi, cynhyrchu, dosbarthu neu sydd fel arall yn lledaenu'r cyfryw hysbysebion neu unrhyw beth sy'n ymgorffori'r cyfryw hysbysebion hynny ac a fwriedir ei ddosbarthu at y diben o'u lledaenu.

2.  Deunydd digymell a gyfeirir at bleidleiswyr (p'un ai wedi ei gyfeirio atynt wrth eu henwau neu wedi ei fwriadu i'w ddanfon i aelwydydd o fewn unrhyw ardal neu ardaloedd penodol).

Mae treuliau mewn perthynas â'r cyfryw ddeunyddiau yn cynnwys y costau dylunio a chostau eraill mewn cysylltiad â pharatoi, cynhyrchu neu ddosbarthu'r cyfryw ddeunyddiau (gan gynnwys cost eu postio).

3.  Unrhyw ddeunyddiau o'r math a ddisgrifir yn rheoliad 5(1).

4.  Ymchwil y farchnad neu ganfasio a gynhelir at y diben o ganfod bwriadau pleidleisio.

5.  Darparu gwasanaethau neu gyfleusterau mewn cysylltiad â chynadleddau i'r wasg neu drafodion eraill gyda'r cyfryngau.

6.  Cludo (drwy ba ddull bynnag) pobl i unrhyw le neu leoedd gyda'r bwriad o ennill cyhoeddusrwydd mewn cysylltiad ag ymgyrch refferendwm.

Mae'r treuliau ar gyfer cludo'r cyfryw bobl yn cynnwys y gost o logi math penodol o gludiant ar gyfer y cyfan neu ran o gyfnod y refferendwm.

7.  Ralïau a digwyddiadau eraill, gan gynnwys cyfarfodydd cyhoeddus a drefnir i gael cyhoeddusrwydd mewn cysylltiad ag ymgyrch refferendwm neu at ddibenion eraill sy'n ymwneud ag ymgyrch refferendwm.

Mae'r treuliau ar gyfer y cyfryw ddigwyddiadau yn cynnwys costau mewn cysylltiad â phresenoldeb pobl mewn digwyddiadau o'r fath, llogi mangreoedd at ddibenion y cyfryw ddigwyddiadau hynny neu ddarparu nwyddau, gwasanaethau neu gyfleusterau ynddynt.

8.  Ni ddylid dehongli unrhyw beth ym mharagraffau 1 i 7 i olygu ei fod a wnelo ag—

(a)unrhyw dreuliau o ran unrhyw eiddo, gwasanaethau neu gyfleusterau i'r graddau y mae'r treuliau hynny i'w talu o gyllid cyhoeddus;

(b)unrhyw dreuliau a dynnir o ran tâl neu lwfansau sy'n daladwy i unrhyw aelod o staff trefnydd yr ymgyrch;

(c)unrhyw dreuliau a dynnir mewn perthynas ag unigolyn o ran costau teithio (ar ba bynnag ddull cludiant) neu o ran darparu llety neu unrhyw anghenion personol eraill ar gyfer yr unigolyn hwnnw i'r graddau y telir y treuliau gan yr unigolyn o'i adnoddau ei hunan heb iddo gael ad-daliad ohonynt.

Rheoliad 8

ATODLEN 3Rheolau Refferenda'r Ddeddf Llywodraeth Leol

  1. RHAN 1 Enwi a Dehongli

    1. 1.Enw

    2. 2.Dehongli

  2. RHAN 2 Darpariaethau o ran Amser

    1. 3.Amserlen

    2. 4.Cyfrif amser

  3. RHAN 3 Darpariaethau Cyffredinol

    1. 5.Hysbysiad o refferendwm

    2. 6.Pleidleisio drwy bleidlais gyfrinachol

    3. 7.Y papurau pleidleisio

    4. 8.Y rhestr rhifau cyfatebol

    5. 9.Y nod swyddogol

    6. 10.Gwahardd datgelu pleidlais

    7. 11.Defnyddio ysgolion ac ystafelloedd cyhoeddus

  4. RHAN 4 Gweithredu sydd i'w Gyflawni cyn y Bleidlais

    1. 12.Hysbysiad o'r bleidlais

    2. 13.Papurau pleidlais bost

    3. 14.Darparu gorsafoedd pleidleisio

    4. 15.Penodi swyddogion llywyddu a chlercod pleidleisio

    5. 16.Dyroddi cardiau pleidleisio swyddogol

    6. 17.Cyfarpar mewn gorsafoedd pleidleisio

    7. 18.Penodi arsylwyr pleidleisio ac arsylwyr cyfrif

    8. 19.Hysbysu ynghylch y gofyniad cyfrinachedd

    9. 20.Dychwelyd papurau pleidlais bost

  5. RHAN 5 Y Bleidlais

    1. 21.Mynediad i orsaf bleidleisio

    2. 22.Cadw trefn mewn gorsaf

    3. 23.Selio blychau pleidleisio

    4. 24.Cwestiynau i'w gofyn i etholwyr a dirprwyon

    5. 25.Herio etholwr neu ddirprwy

    6. 26.Gweithdrefn bleidleisio

    7. 27.Pleidleisiau wedi eu marcio gan y swyddog llywyddu

    8. 28.Pleidleisio gan bersonau ag anableddau

    9. 29.Papurau pleidleisio wedi eu tendro: yr amgylchiadau pan fônt ar gael

    10. 30.Papurau pleidleisio wedi eu tendro: darpariaethau cyffredinol

    11. 31.Papurau pleidleisio a ddifethwyd

    12. 32.Cywiro gwallau ar ddiwrnod y pleidleisio

    13. 33.Gohirio pleidleisio mewn achos o derfysg

    14. 34.Gweithdrefn wrth gau'r pleidleisio

  6. RHAN 6 Cyfrif Pleidleisiau

    1. 35.Presenoldeb ar gyfer cyfrif pleidleisiau

    2. 36.Y cyfrif

    3. 37.Ailgyfrif

    4. 38.Papurau pleidleisio a wrthodir

    5. 39.Penderfyniadau ynghylch papurau pleidleisio

    6. 40.Pleidleisiau cyfartal

  7. RHAN 7 Cyhoeddi'r Canlyniad a Lleoli'r Dogfennau

    1. 41.Cyhoeddi'r canlyniad

    2. 42.Selio'r papurau pleidleisio

    3. 43.Trosglwyddo dogfennau i'r swyddog cofrestru perthnasol

    4. 44.Gorchmynion i ddangos dogfennau

    5. 45.Cadw dogfennau

  8. RHAN 8 Atodiad o Ffurfiau

RHAN 1Enwi a Dehongli

Enw

1.  Enw'r Rheolau hyn yw Rheolau Refferenda'r Ddeddf Llywodraeth Leol.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheolau hyn, ystyr “pleidleisiwr” (“voter”) yw person sydd â hawl i bleidleisio ar ran y person hwnnw ei hunan.

(2Mae i ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rheolau hyn yn ogystal ag yn Neddf 1983 (fel y mae'n gymwys i etholiadau llywodraeth leol) yr un ystyr yn y Rheolau hyn ag sydd iddynt yn y Ddeddf honno.

RHAN 2Darpariaethau o ran Amser

3.  Rhaid cynnal y gweithrediadau yn y refferendwm yn unol â'r Amserlen ganlynol.

Amserlen

GweithrediadauAmser
Cyhoeddi hysbysiad o refferendwmDim hwyrach na'r pumed diwrnod ar hugain cyn diwrnod y refferendwm
Hysbysiad o'r bleidlaisDim hwyrach na'r chweched diwrnod cyn diwrnod y refferendwm.
PleidleisioRhwng yr oriau o 7 y bore a 10 yr hwyr ar ddiwrnod y refferendwm.

Cyfrif amser

4.  Wrth gyfrifo unrhyw gyfnod o amser at ddibenion yr amserlen rhaid anwybyddu'r diwrnodau a grybwyllir yn rheoliad 14(2)(a) i (c), a rhaid peidio â thrin unrhyw un o'r cyfryw ddiwrnodau fel diwrnod at ddiben unrhyw weithrediadau hyd at gwblhau'r bleidlais, ac nid oes rhwymedigaeth ar y swyddog cyfrif ychwaith i fynd ymlaen â chyfrif y pleidleisiau ar un o'r cyfryw ddiwrnodau.

RHAN 3Darpariaethau Cyffredinol

Hysbysiad o refferendwm

5.—(1Rhaid i'r swyddog cyfrif gyhoeddi hysbysiad o refferendwm, sy'n datgan dyddiad y pleidleisio.

(2Rhaid i'r hysbysiad o refferendwm ddatgan erbyn pa ddyddiad y bydd yn rhaid i—

(a)ceisiadau i bleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy, a

(b)ceisiadau a hysbysiadau eraill ynghylch pleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy,

gyrraedd y swyddog cofrestru er mwyn iddynt fod yn effeithiol ar gyfer y refferendwm.

Pleidleisio drwy bleidlais gyfrinachol

6.  Rhaid cymryd pleidlais yn y refferendwm a rhaid i'r pleidleisiau gael eu bwrw mewn pleidlais gyfrinachol.

Y papurau pleidleisio

7.—(1Rhaid i bleidlais pob person sydd â hawl i bleidleisio yn y refferendwm gael ei bwrw drwy ddefnyddio papur pleidleisio.

(2Rhaid i bob papur pleidleisio sydd i'w ddefnyddio yn y refferendwm fod yn y ffurf briodol fel yn yr Atodiad (sy'n dibynnu ar y cwestiwn sydd i'w ofyn yn y refferendwm).

(3Rhaid i bob papur pleidleisio —

(a)bod yn bapur y gellir ei blygu; a

(b)bod â rhif a nod adnabod unigryw arall wedi ei argraffu ar ei gefn.

Y rhestr rhifau cyfatebol

8.—(1Rhaid i'r swyddog cyfrif baratoi rhestr sy'n cynnwys rhifau a nodau adnabod unigryw eraill yr holl bapurau pleidleisio sydd i'w dyroddi gan y swyddog cyfrif yn unol â rheol 13(1) neu eu darparu gan y swyddog cyfrif yn unol â rheol 17(1).

(2Rhaid i'r rhestr fod yn y ffurf briodol fel yn yr Atodiad neu ffurf ag effaith gyffelyb.

Y nod swyddogol

9.—(1Rhaid i bob papur pleidleisio gynnwys nod diogelwch priodol (y nod swyddogol).

(2Rhaid cadw'r nod swyddogol yn gyfrinach.

(3Caiff y swyddog cyfrif ddefnyddio nod swyddogol gwahanol at wahanol ddibenion yn yr un refferendwm.

Gwahardd datgelu pleidlais

10.  Nid oes gorfodaeth ar unrhyw berson a bleidleisiodd yn y refferendwm, mewn unrhyw achos cyfreithiol a gynhelir i gwestiynu'r refferendwm, ddatgan dros ba ateb y pleidleisiodd y person hwnnw.

Defnyddio ysgolion ac ystafelloedd cyhoeddus

11.—(1Caiff y swyddog cyfrif ddefnyddio, yn ddi-dâl, at y diben o gymryd y bleidlais neu gyfrif y pleidleisiau—

(a)ystafell mewn ysgol a gynhelir neu a gynorthwyir gan awdurdod addysg lleol, neu ysgol y gwneir grantiau mewn perthynas â hi allan o arian a ddarperir gan Weinidogion Cymru i'r person neu'r corff o bersonau sy'n gyfrifol am reolaeth yr ysgol;

(b)ystafell y mae'r draul o'i chynnal yn daladwy allan o unrhyw dreth.

(2Rhaid i'r swyddog cyfrif adfer unrhyw ddifrod a achosir i unrhyw ystafell o'r math a grybwyllir uchod, a thalu unrhyw draul a achosir i'r personau sydd â rheolaeth drosti, o ganlyniad i'w defnyddio at y diben o gymryd y bleidlais neu o gyfrif y pleidleisiau.

RHAN 4Gweithredu i'w Gyflawni cyn y Bleidlais

Hysbysiad o bleidlais

12.—(1Rhaid i'r swyddog cyfrif gyhoeddi hysbysiad o'r bleidlais sy'n datgan —

(a)y diwrnod a'r oriau a bennwyd ar gyfer y bleidlais, a

(b)y datganiad a'r cwestiwn i'w ofyn yn y refferendwm.

(2Rhaid cyhoeddi'r hysbysiad o bleidlais ddim hwyrach na'r chweched diwrnod cyn dyddiad y refferendwm.

(3Rhaid i'r swyddog cyfrif, ddim hwyrach na'r adeg y cyhoeddir yr hysbysiad o'r bleidlais, roi hysbysiad cyhoeddus hefyd o—

(a)lleoliad pob gorsaf bleidleisio; a

(b)disgrifiad o'r personau sydd a hawl i bleidleisio yno.

Papurau pleidlais bost

13.—(1Rhaid i'r swyddog cyfrif, yn unol â rheoliadau a wnaed o dan Ddeddf 1983,(26) ddyroddi i'r rhai sydd â hawl i bleidleisio drwy'r post bapur pleidleisio a datganiad pleidlais bost, yn y ffurf briodol fel sydd yn yr Atodiad, neu ffurf ag effaith gyffelyb, ynghyd â pha bynnag amlenni ar gyfer eu dychwelyd a ragnodir gan y cyfryw reoliadau.

(2Rhaid i'r swyddog cyfrif hefyd ddyroddi i'r rhai sydd â hawl i bleidleisio drwy'r post pa bynnag wybodaeth y mae'r swyddog cyfrif yn ei hystyried yn briodol ynglŷn â sut y gellir cael—

(a)cyfieithiadau i ieithoedd ac eithrio'r Gymraeg neu'r Saesneg o unrhyw gyfarwyddiadau neu o ganllawiau i bleidleiswyr a dirprwyon a anfonir ynghyd â'r papur pleidleisio;

(b)cyfieithiad i Braille o'r cyfryw gyfarwyddiadau neu ganllawiau;

(c)portreadau graffigol o'r cyfryw gyfarwyddiadau neu ganllawiau;

(ch)y cyfarwyddiadau neu ganllawiau mewn unrhyw ffurf arall (gan gynnwys unrhyw ffurf glywadwy).

(3Rhaid i'r datganiad pleidlais bost gynnwys darpariaeth ar gyfer llofnodi'r ffurflen ac ar gyfer datgan dyddiad geni'r pleidleisiwr neu'r dirprwy.

(4Yn achos papur pleidleisio a ddyroddir i berson mewn cyfeiriad yn y Deyrnas Unedig, rhaid i'r swyddog cyfrif sicrhau y gall y pleidleisiwr neu'r dirprwy ddychwelyd y papur pleidleisio yn ddi—dâl.

Darparu gorsafoedd pleidleisio

14.—(1Rhaid i'r swyddog cyfrif ddarparu nifer digonol o orsafoedd pleidleisio ac, yn ddarostyngedig i'r darpariaethau canlynol o'r rheol hon, rhaid iddo ddyrannu pleidleiswyr i'r gorsafoedd pleidleisio yn y modd y tybia'r swyddog cyfrif yw'r hwylusaf.

(2Caniateir darparu un neu ragor o orsafoedd pleidleisio yn yr un ystafell.

(3Rhaid i'r orsaf bleidleisio a ddyrennir i bleidleiswyr o unrhyw ddosbarth etholiadol seneddol, sydd yn gyfan gwbl neu'n rhannol o fewn ardal y bleidlais, fod yn y man pleidleisio seneddol ar gyfer y dosbarth hwnnw, onid oes amgylchiadau arbennig.

(4Rhaid i'r swyddog cyfrif, ym mhob gorsaf bleidleisio, ddarparu pa bynnag nifer o fythau y gall fod eu hangen, lle y gall pleidleiswyr a dirprwyon farcio'u pleidleisiau o'r golwg, y tu ôl i sgrîn.

Penodi swyddogion llywyddu a chlercod pleidleisio

15.—(1Rhaid i'r swyddog cyfrif benodi a thalu i swyddog llywyddu i fod yn bresennol ym mhob gorsaf bleidleisio a'r cyfryw glercod ag y bo'u hangen at ddibenion y refferendwm.

(2Os gwêl y swyddog cyfrif yn dda, caiff y swyddog cyfrif lywyddu mewn gorsaf bleidleisio, ac y mae'r darpariaethau yn y Rheolau hyn sy'n gymwys i swyddog llywyddu yn gymwys hefyd i swyddog cyfrif sy'n llywyddu felly, gyda'r addasiadau angenrheidiol o ran y pethau sydd i'w gwneud gan y swyddog cyfrif i'r swyddog llywyddu neu gan y swyddog llywyddu i'r swyddog cyfrif.

(3Caiff swyddog llywyddu wneud, drwy'r clercod a benodir i gynorthwyo'r swyddog llywyddu, unrhyw weithred (gan gynnwys gofyn cwestiynau) yr awdurdodir y swyddog llywyddu i'w gwneud gan y Rheolau hyn, neu y mynnir ei fod yn ei gwneud, mewn gorsaf bleidleisio, ac eithrio gorchymyn i arestio unrhyw berson, neu ei allgáu neu ei symud o'r orsaf bleidleisio.

Dyroddi cardiau pleidleisio swyddogol

16.—(1Rhaid i'r swyddog cyfrifo, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cyhoeddi'r hysbysiad o refferendwm, anfon cerdyn pleidleisio swyddogol at bob pleidleisiwr a dirprwy.

(2Rhaid i'r cerdyn pleidleisio swyddogol gael ei anfon neu ei ddanfon—

(a)yn achos pleidleisiwr, i gyfeiriad cymhwyso'r pleidleisiwr, a

(b)yn achos dirprwy, i gyfeiriad y dirprwy fel y'i dangosir yn y rhestr dirprwyon.

(3Rhaid i'r cerdyn pleidleisio fod yn y ffurf briodol fel y'i dangosir yn yr Atodiad neu ffurf ag effaith gyffelyb effaith, a rhaid iddo nodi—

(a)enw'r cyngor ac ardal y bleidlais;

(b)enw'r pleidleisiwr, cyfeiriad cymwys y pleidleisiwr a'i rif ar y gofrestr;

(c)dyddiad ac oriau'r bleidlais a lleoliad gorsaf bleidleisio'r pleidleisiwr;

(ch)pa wybodaeth bynnag arall ag y bo'r swyddog cyfrif yn ei hystyried yn briodol,

a chaniateir darparu gwybodaeth wahanol yn unol ag is-baragraff (ch) i wahanol bleidleiswyr neu i wahanol ddisgrifiadau o bleidleiswyr.

(4Yn achos pleidleisiwr sydd â chofnod dienw yn y gofrestr, yn hytrach na chynnwys y deunydd a grybwyllir ym mharagraff (3)(b), rhaid i'r cerdyn pleidleisio gynnwys y cyfryw ddeunydd a bennir yn y ffurf briodol yn yr Atodiad.

(5Yn y rheol hon mae cyfeiriadau at bleidleisiwr—

(a)yn cyfeirio at berson sy'n gofrestredig yn y gofrestr o etholwyr llywodraeth lleol ar gyfer ardal y bleidlais dan sylw ar y diwrnod olaf ar gyfer cyhoeddi hysbysiad o refferendwm; a

(b)yn cynnwys person a ddangosir yn y gofrestr bryd hynny fel un sydd islaw oedran pleidleisio, os (ond yn unig os) yw'n ymddangos yn ôl y gofrestr y bydd y person hwnnw mewn oedran pleidleisio ar y diwrnod a bennwyd ar gyfer y bleidlais.

Cyfarpar mewn gorsafoedd pleidleisio

17.—(1Rhaid i'r swyddog cyfrif ddarparu i bob swyddog llywyddu pa bynnag nifer o flychau pleidleisio a phapurau pleidleisio a all fod, ym marn y swyddog cyfrif, yn angenrheidiol.

(2Rhaid i bob blwch pleidleisio fod o wneuthuriad fel y gellir rhoi papurau pleidleisio i mewn ynddo ond na ellir eu tynnu allan heb ddatgloi'r blwch, neu, os nad oes clo ar y blwch, heb dorri'r sêl.

(3Rhaid i'r swyddog cyfrif ddarparu i bob gorsaf bleidleisio—

(a)deunyddiau i alluogi'r pleidleiswyr a'r dirprwyon i farcio'r papurau pleidleisio;

(b)copïau o'r gofrestr etholwyr ar gyfer ardal y bleidlais, neu'r cyfryw ran ohoni sy'n cynnwys enwau'r etholwyr a ddyrannwyd i'r orsaf bleidleisio;

(c)y rhannau o unrhyw restrau arbennig a baratowyd ar gyfer y refferendwm sy'n cyfateb i'r rhestr etholwyr ar gyfer ardal y bleidlais neu'r rhan ohoni a ddarperir o dan is-baragraff (b);

(ch)rhestr a gyfansoddir o'r rhan honno o'r rhestr a baratowyd o dan reol 8 sy'n cynnwys y rhifau (ond nid y nodau adnabod unigryw eraill) sy'n cyfateb i'r rhifau ar y papurau pleidleisio a ddarparwyd i swyddog llywyddu yr orsaf bleidleisio.

(4Mae'r cyfeiriad ym mharagraff 3(b) at y copïau o'r gofrestr etholwyr yn cynnwys cyfeiriad at gopïau o unrhyw hysbysiadau a gyhoeddwyd o dan adran 13B(3B) neu (3D) o Ddeddf 1983(27) mewn perthynas â newidiadau yn y gofrestr.

(5Rhaid i'r swyddog cyfrif ddarparu hefyd i bob gorsaf bleidleisio —

(a)o leiaf un fersiwn fawr o'r papur pleidleisio, y mae'n rhaid ei arddangos y tu mewn i'r orsaf bleidleisio, i gynorthwyo pleidleiswyr a dirprwyon sy'n gweld yn rhannol; a

(b)dyfais fel a ddisgrifir ym mharagraff (9) i alluogi pleidleiswyr sy'n ddall neu sy'n gweld yn rhannol i bleidleisio heb fod arnynt angen cymorth gan y swyddog llywyddu nac unrhyw gydymaith (o fewn ystyr rheol 28(1)).

(6Rhaid argraffu hysbysiad mewn llythrennau amlwg yn y ffurf sydd yn yr Atodiad, i roi cyfarwyddiadau fel canllaw i bleidleiswyr a dirprwyon ynglŷn â phleidleisio, a rhaid ei arddangos y tu mewn a thu allan i bob gorsaf bleidleisio.

(7Caiff y swyddog cyfrif ddarparu hefyd gopïau o'r hysbysiad a grybwyllir ym mharagraff (6) mewn Braille, neu ei gyfieithu i ieithoedd ac eithrio'r Gymraeg a'r Saesneg, fel y gwêl y swyddog cyfrif yn briodol, ar yr amod yr atgynhyrchir yr hysbysiad yn fanwl gywir mewn Braille neu yn yr iaith arall.

(8Ym mhob bwth ym mhob gorsaf bleidleisio rhaid arddangos y hysbysiad

REFFERENDWM [Noder enw'r cyngor ... ... ... ....]. Rhowch groes (X) yn y blwch ar yr ochr dde gyferbyn â'r ateb o'ch dewis. Pleidleisiwch UN WAITH yn unig. Peidiwch â rhoi unrhyw farc arall ar y papur pleidleisio, neu efallai na fydd eich pleidlais yn cael ei chyfrif.

[Specify name of council ... ... ... ....] REFERENDUM. Mark a cross (X) in the box on the right hand side of the answer of your choice. Vote ONCE only. Put no other mark on the ballot paper, or your vote may not be counted..

(9Rhaid i'r ddyfais y cyfeirir ati ym mharagraff 5(b)—

(a)ganiatáu i bapur pleidleisio gael ei roi i mewn ynddi a'i dynnu allan ohoni, neu ei gysylltu wrthi a'i ddatgysylltu oddi wrthi, yn rhwydd a hynny heb ddifrodi'r papur;

(b)dal y papur pleidleisio yn gadarn yn ei le tra defnyddir y ddyfais; ac

(c)darparu dull addas i bleidleiswyr a dirprwyon—

(i)adnabod y bylchau ar y papur pleidleisio lle y gall y pleidleisiwr neu'r dirprwy farcio pleidlais y pleidleisiwr neu'r dirprwy;

(ii)canfod i ba ateb y mae pob un o'r cyfryw fylchau yn perthyn; a

(iii)marcio pleidlais y pleidleisiwr neu'r dirprwy yn y bwlch a ddewisir gan y pleidleisiwr neu'r dirprwy.

Penodi arsylwyr pleidleisio ac arsylwyr cyfrif

18.—(1Caiff y swyddog cyfrif benodi personau i fod yn bresennol mewn gorsafoedd pleidleisio at y diben o ddarganfod cambersonadu (“arsylwyr pleidleisio”).

(2Rhaid i'r swyddog cyfrif benodi personau i arsylwi ar gyfrif y pleidleisiau a gwirio'r gyfriflen papurau pleidleisio (“arsylwyr cyfrif”).

(3At y diben o gynorthwyo'r swyddog cyfrif i gyflawni swyddogaethau'r swyddog cyfrif o dan baragraff (2), caiff trefnydd deiseb enwebu personau sydd, ym marn y trefnydd deiseb, yn addas i'w penodi yn arsylwyr cyfrif.

(4Rhaid gwneud enwebiad o dan baragraff (3) drwy hysbysiad ysgrifenedig i'r swyddog cyfrif, ddim hwyrach na'r pumed diwrnod cyn y bleidlais (gan anwybyddu unrhyw ddiwrnod sydd i'w anwybyddu yn rhinwedd rheol 4) a rhaid i'r hysbysiad gynnwys cyfeiriad pob enwebai.

(5Yn ddarostyngedig i baragraff (6), rhaid i'r swyddog cyfrif beidio, heb reswm digonol, â gwrthod penodi yn arsylwr cyfrif unrhyw berson a enwebir gan drefnydd deiseb o dan baragraff (3).

(6Caiff y swyddog cyfrif gyfyngu ar nifer yr arsylwyr cyfrif, fodd bynnag, fel bod—

(a)rhaid caniatáu yr un nifer yn achos pob trefnydd deiseb, a

(b)rhaid i'r nifer a ganiateir i drefnydd deiseb (ac eithrio mewn amgylchiadau arbennig) beidio â bod yn llai na'r nifer a gyfrifir drwy rannu nifer y clercod a gyflogir ar gyfer cyfrif y pleidleisiau gan nifer y trefnwyr deisebau.

(7Os bydd farw arsylwr cyfrif a benodir ar enwebiad trefnydd deiseb, neu os yw'n mynd yn analluog i weithredu, caiff y trefnydd deiseb a wnaeth yr enwebiad enwebu person arall i'w benodi yn arsylwr cyfrif yn lle'r person hwnnw, drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r swyddog cyfrif.

(8Mae'r paragraffau (4) a (5) yn gymwys i enwebiad o dan baragraff (7), os rhoddir “diwrnod olaf” yn lle “pumed diwrnod ” ym mharagraff (4).

(9Yn narpariaethau'r Rheolau hyn sy'n dilyn, mae cyfeiriadau at arsylwyr pleidleisio ac arsylwyr cyfrif i'w dehongli fel cyfeiriadau at arsylwyr sydd eisoes wedi eu penodi.

(10Caniateir i unrhyw hysbysiad y mae'n ofynnol i'r swyddog cyfrif ei roi i arsylwr cyfrif a benodir ar enwebiad trefnydd deiseb gael ei ddanfon, neu ei anfon drwy'r post, i'r cyfeiriad a nodir yn yr hysbysiad o enwebiad.

(11Caiff trefnydd deiseb wneud unrhyw weithred neu beth yr awdurdodir arsylwr cyfrif i'w wneud, neu caiff gynorthwyo unrhyw arsylwr cyfrif a benodwyd yn dilyn ei enwebu, i wneud unrhyw weithred neu beth o'r fath.

(12Pan pan fo'n ofynnol neu pan awdurdodir, o dan y Rheolau hyn, gwneud unrhyw weithred neu beth ym mhresenoldeb yr arsylwyr pleidleisio neu'r arsylwyr cyfrif, ni fydd amhresenoldeb unrhyw berson o'r fath ar yr adeg ac yn y man a bennwyd at y diben hwnnw, os cyflawnir y weithred neu'r peth yn briodol fel arall, yn annilysu'r weithred neu'r peth a wneir.

Hysbysu ynghylch gofyniad cyfrinachedd

19.  Rhaid i'r swyddog cyfrif wneud pa bynnag drefniadau y tybia'r swyddog cyfrif sy'n addas i sicrhau —

(a)bod pob person sy'n bresennol mewn gorsaf bleidleisio (ac eithrio at y diben o bleidleisio neu gynorthwyo pleidleisiwr neu ddirprwy sydd ag anableddau i bleidleisio neu fel cwnstabl ar ddyletswydd yno) wedi cael copi ysgrifenedig o ddarpariaethau is-adrannau (1), (3) a (6) o adran 66 o Ddeddf 1983(28), fel y'u cymhwysir gan Atodlen 4; a

(b)bod pob person sy'n bresennol yn y cyfrif pleidleisiau (ac eithrio unrhyw gwnstabl ar ddyletswydd yn y cyfrif) wedi cael copi ysgrifenedig o ddarpariaethau is-adrannau (2) a (6) o'r adran honno fel y'u cymhwysir gan Atodlen 4.

Dychwelyd papurau pleidleisio

20.—(1Pan fo—

(a)pleidlais bost wedi ei dychwelyd mewn cysylltiad â pherson sydd wedi ei gofnodi ar y rhestr pleidleiswyr post, neu

(b)pleidlais bost drwy ddirprwy wedi ei dychwelyd mewn perthynas â dirprwy sydd wedi ei gofnodi ar y rhestr o bleidleiswyr post fel dirprwyon,

rhaid i'r swyddog cyfrif farcio'r rhestr yn y modd a ragnodir gan reoliadau a wnaed o dan Ddeddf 1983(29).

(2Nid yw rheol 36(3) yn gymwys at y diben o benderfynu, at ddibenion y rheol hon, a yw pleidlais bost neu bleidlais bost drwy ddirprwy wedi ei dychwelyd.

RHAN 5Y Bleidlais

Mynediad i orsaf bleidleisio

21.—(1Rhaid i'r swyddog llywyddu allgáu pob person o'r orsaf bleidleisio ac eithrio—

(a)pleidleiswyr a dirprwyon;

(b)personau o dan 18 mlwydd oed sy'n dod gyda phleidleiswyr a dirprwyon i'r orsaf bleidleisio;

(c)yr arsylwyr pleidleisio a benodwyd i fod yn bresennol yn yr orsaf bleidleisio;

(ch)y clercod a benodwyd i fod yn bresennol yn yr orsaf bleidleisio;

(d)personau sydd â hawl i fod yn bresennol o dan unrhyw rai o adrannau 6A i 6D o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000(30);

(dd)y cwnstabliaid sydd ar ddyletswydd;

(e)cymdeithion pleidleiswyr a dirprwyon sydd ag anableddau;

(f)maer etholedig, os oes un, y cyngor y cynhelir y refferendwm mewn perthynas ag ef; ac

(ff)unrhyw drefnydd deiseb.

(2Rhaid i'r swyddog llywyddu reoli nifer cyfanswm y pleidleiswyr, dirprwyon a phersonau o dan 18 mlwydd oed sy'n dod gyda hwy, y caniateir mynediad iddynt i'r orsaf bleidleisio yr un pryd.

(3Rhaid peidio â chaniatáu mynediad i bleidleisio yn bersonol i gwnstabl neu berson a gyflogir gan y swyddog cyfrif yn unman heblaw'r orsaf bleidleisio a ddyrannwyd i'r cwnstabl neu'r person cyflogedig hwnnw o dan y Rheolau hyn, ac eithrio drwy ddangos ac ildio tystysgrif gyflogaeth y mae'n rhaid iddi fod yn y ffurf yn yr Atodiad neu ffurf ag effaith gyffelyb ac wedi ei llofnodi gan swyddog o'r heddlu o radd arolygydd neu radd uwch, neu gan y swyddog cyfrif, yn ôl y digwydd.

(4Rhaid i unrhyw dystysgrif a ildir o dan y rheol hon gael ei chanslo ar unwaith.

Cadw trefn mewn gorsaf

22.—(1Dyletswydd y swyddog llywyddu yw cadw trefn yng ngorsaf bleidleisio'r swyddog llywyddu.

(2Os yw person yn camymddwyn mewn gorsaf bleidleisio, neu'n gwrthod ufuddhau i orchmynion cyfreithlon y swyddog llywyddu, caniateir symud y person hwnnw ar unwaith, ar orchymyn y swyddog llywyddu, allan o'r orsaf bleidleisio—

(a)gan gwnstabl sydd yn yr orsaf honno neu gerllaw, neu

(b)gan unrhyw berson arall a awdurdodir mewn ysgrifen gan y swyddog cyfrif i symud y person hwnnw,

a rhaid i'r person a symudir felly beidio â mynd i mewn drachefn i'r orsaf bleidleisio yn ystod y diwrnod heb ganiatâd y swyddog llywyddu.

(3Caniateir i unrhyw berson a symudir felly, os y'i cyhuddir o gyflawni tramgwydd yn yr orsaf bleidleisio, gael ei drin fel person a gymerir i'r ddalfa gan gwnstabl am dramgwydd heb warant.

(4Rhaid peidio ag arfer y pwerau a gyflwynir gan y rheol hon i atal pleidleisiwr neu ddirprwy, sydd fel arall â hawl i bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio, rhag cael cyfle i bleidleisio yn yr orsaf honno.

Selio blychau pleidleisio

23.  Yn union cyn cychwyn y pleidleisio, rhaid i'r swyddog llywyddu ddangos y blwch pleidleisio yn wag i'r personau hynny, os oes rhai, sy'n bresennol yn yr orsaf bleidleisio, fel y gallant weld ei fod yn wag, ac yna, os oes clo ar y blwch, rhaid iddo ei gloi, a gosod sêl y swyddog llywyddu ar y blwch (p'un a oes clo ar y blwch ai peidio) yn y fath fodd fel na ellir ei agor heb dorri'r sêl, yna rhaid iddo osod y blwch yng ngolwg y swyddog llywyddu, yn barod ar gyfer derbyn papurau pleidleisio, a'i gadw felly dan glo ac wedi ei selio, neu wedi ei selio (yn ôl y digwydd).

Cwestiynau i'w gofyn i etholwyr a dirprwyon

24.—(1Ar yr adeg pan wneir cais am bapur pleidleisio (ond nid wedyn), mae'r cwestiynau a bennir yn ail golofn y Tabl sy'n dilyn yn rhai —

(a)y caiff y swyddog llywyddu eu gofyn i berson sy'n gwneud cais am bapur pleidleisio ac a grybwyllir yn y golofn gyntaf, a

(b)y mae'n rhaid eu gofyn os oes llythyren “R” yn ymddangos ar ôl y cwestiwn a threfnydd deiseb yn mynnu bod y cwestiwn yn cael ei ofyn:

Rhif y C.Person sy'n gwneud cais am bapur pleidleisioCwestiwn
1Person sy'n gwneud cais fel pleidleisiwr

(a)—Ai chi yw'r person sydd wedi ei gofrestru ar y gofrestr o etholwyr llywodraeth leol fel a ganlyn?

  • darllener y cofnod cyfan o'r gofrestr [R]

(b)—A ydych eisoes wedi pleidleisio, yma neu yn rhywle arall, yn yr etholiad hwn, ar wahân i fel dirprwy dros berson arall? [R]

2Person sy'n gwneud cais fel dirprwy

(a)—Ai chi yw'r person y mae eich enw yn ymddangos fel A.B. ar y rhestr o ddirprwyon ar gyfer ardal y bleidlais hon fel rhywun sydd â hawl i fwrw pleidlais ddirprwy ar ran C.D.? [R]

(b)—A ydych eisoes wedi pleidleisio, yma neu yn rhywle arall, yn y refferendwm hwn, fel dirprwy ar ran C.D? [R]

(c)—Ai chi yw priod, partner sifil, rhiant, nain (mam-gu) neu daid (tad-cu), brawd, chwaer, plentyn, neu ŵyr neu wyres C.D? [R]

3Person sy'n gwneud cais fel dirprwy i bleidleisiwr sydd â chofnod dienw (yn lle'r cwestiynau yng nghofnod 2)

(a)—Ai chi yw'r person sydd â hawl i bleidleisio fel dirprwy ar ran yr etholwr sydd â'r rhif canlynol ar y gofrestr etholwyr ar ei gyfer (darllener y rhif)? [R]

(b)—A ydych eisoes wedi pleidleisio, yma neu yn rhywle arall, yn y refferendwm hwn, fel dirprwy ar ran yr etholwr sydd â'r rhif canlynol ar y gofrestr etholwyr ar ei gyfer (darllener y rhif)? [R]

(c)—Ai chi yw priod, partner sifil, rhiant, nain (mam-gu) neu daid (tad-cu), brawd neu chwaer, plentyn, neu ŵyr neu wyres yr etholwr sydd â'r rhif canlynol ar y gofrestr etholwyr (darllener y rhif)? [R]

4Person sy'n gwneud cais fel dirprwy pan nad atebir y cwestiwn yng nghofnod 2(c) neu 3(c) yn gadarnhaolA ydych eisoes wedi pleidleisio yn y refferendwm hwn ar ran dau berson a chithau heb fod yn briod, partner sifil, rhiant, nain (mam-gu) neu daid (tad-cu), brawd neu chwaer, plentyn, neu ŵyr neu wyres iddynt? [R]
5Person sy'n gwneud cais fel pleidleisiwr ac yntau â chofnod ar ei gyfer yn y rhestr pleidleiswyr post.

(a)—A wnaethoch gais i bleidleisio drwy'r post?

(b)—Pam na wnaethoch bleidleisio drwy'r post?

6Person sy'n gwneud cais fel dirprwy ac a enwir ar y rhestr o bleidleiswyr post fel dirprwyon

(a)—A wnaethoch wneud cais i bleidleisio drwy'r post fel dirprwy?

(b)—Pam na wnaethoch bleidleisio drwy'r post fel dirprwy?

(2Yn achos person y dyroddwyd hysbysiad mewn perthynas ag ef o dan adran 13B(3B) neu (3D) o Ddeddf 1983, mae'r cyfeiriadau at ddarllen o'r gofrestr yn y cwestiynau yng nghofnodion 1(a) a 3(a), (b) ac (c) i'w dehongli fel cyfeiriadau at ddarllen o'r hysbysiad a ddyroddwyd o dan adran 13B(3B) neu (3D) o Ddeddf 1983.

(3Rhaid peidio â chyflwyno papur pleidleisio i unrhyw berson y mae'n ofynnol iddo ateb unrhyw rai o'r cwestiynau uchod oni fydd y person hwnnw wedi ateb pob un o'r cwestiynau yn foddhaol.

(4Ac eithrio fel a awdurdodir gan y rheol hon, ni chaniateir gwneud unrhyw ymholiad ynghylch hawl person i bleidleisio.

Herio pleidleisiwr neu ddirprwy

25.  Rhaid peidio ag atal person rhag pleidleisio oherwydd, yn unig, bod—

(a)unrhyw drefnydd deiseb neu arsylwr pleidleisio y caniateir iddo fod yn bresennol yn unol â rheol 21(1) yn datgan bod ganddo achos rhesymol dros gredu bod y person dan sylw wedi cyflawni'r tramgwydd o gambersonadu, neu

(b)bod y person wedi ei arestio ar sail amheuaeth ei fod yn cyflawni neu ar fin cyflawni tramgwydd o'r fath.

Gweithdrefn bleidleisio

26.—(1Rhaid traddodi papur pleidleisio i bleidleisiwr neu ddirprwy sy'n gwneud cais am un, ac yn union cyn traddodi—

(a)rhaid dweud yn uchel rhif ac (onid yw paragraff (2) yn gymwys) enw'r pleidleisiwr fel y'i datgenir yn y copi o'r gofrestr etholwyr;

(b)rhaid marcio rhif y pleidleisiwr, fel y'i datgenir yn y gofrestr, ar y rhestr a grybwyllir yn rheol 17(3) (ch) wrth ochr rhif y papur pleidleisio sydd i'w ddyroddi i'r pleidleisiwr;

(c)rhaid rhoi marc yn y copi o'r gofrestr etholwyr gyferbyn â rhif y pleidleisiwr i nodi ei fod wedi cael papur pleidleisio, ond heb ddangos pa un oedd y papur pleidleisio penodol a gafodd; ac

(ch)yn achos person sy'n gwneud cais am bapur pleidleisio fel dirprwy, rhaid rhoi marc hefyd gyferbyn ag enw'r person hwnnw yn y rhestr o ddirprwyon.

(2Yn achos pleidleisiwr sydd â chofnod dienw, rhaid i'r pleidleisiwr ddangos cerdyn pleidleisio swyddogol y pleidleisiwr i'r swyddog llywyddu, a rhif y pleidleisiwr yn unig y mae'n rhaid ei ddweud yn uchel yn unol â pharagraff (1)(a).

(3Yn achos pleidleisiwr a ychwanegir at y rhestr yn unol â hysbysiad a ddyroddir o dan adran 13B(3B) neu (3D) o Ddeddf 1983, addesir paragraff (1) fel a ganlyn—

(a)yn is-baragraff (a), yn lle “copi o'r gofrestr etholwyr” rhodder “copi o'r hysbysiad a ddyroddwyd o dan adran 13B(3B) neu (3D) o Ddeddf 1983”;

(b)yn is-baragraff (b), yn lle “yn y gofrestr” rhodder “ar y copi o'r hysbysiad a ddyroddwyd o dan adran 13B(3B) neu (3D) o Ddeddf 1983”;

(c)yn is-baragraff (c), yn lle “yn y copi o'r gofrestr etholwyr” rhodder “ar y copi o'r hysbysiad a ddyroddwyd o dan adran 13B(3B) neu (3D) o Ddeddf 1983”.

(4Rhaid i'r pleidleisiwr neu'r dirprwy, ar ôl cael y papur pleidleisio, fynd yn syth i un o'r bythau yn yr orsaf bleidleisio ac yno, yn gyfrinachol, marcio papur y pleidleisiwr neu'r dirprwy a'i blygu er mwyn cuddio pleidlais y pleidleisiwr neu'r dirprwy, ac yna rhaid iddo ddangos cefn y papur i'r swyddog llywyddu gan ddatgelu'r rhif a'r nod adnabod unigryw arall, a rhoi'r papur pleidleisio, wedi ei blygu felly, i mewn yn y blwch pleidleisio ym mhresenoldeb y swyddog llywyddu.

(5Rhaid i'r pleidleisiwr neu'r dirprwy bleidleisio heb oedi yn ormodol, a rhaid iddo adael yr orsaf bleidleisio cyn gynted ag y bo'r papur pleidleisio wedi ei roi yn y blwch pleidleisio.

Pleidleisiau wedi eu marcio gan y swyddog llywyddu

27.—(1Rhaid i'r swyddog llywyddu, ar gais pleidleisiwr neu ddirprwy —

(a)sy'n analluog oherwydd dallineb neu anabledd arall i bleidleisio yn y modd a gyfarwyddir gan y Rheolau hyn, neu

(b)sy'n datgan ar lafar na all y pleidleisiwr neu'r dirprwy ddarllen,

ym mhresenoldeb yr arsylwyr pleidleisio (os oes rhai), achosi i bleidlais y person hwnnw gael ei marcio ar bapur pleidleisio yn y modd a gyfarwyddir gan y person hwnnw, ac i'r papur pleidleisio gael ei roi yn y blwch pleidleisio.

(2Rhaid i enw pob person y caiff ei bleidlais ei marcio yn unol â'r rheol hon, a'i rif ar y rhestr etholwyr ynghyd â'r rheswm pam y'i marciwyd felly, gael eu cofnodi ar restr (a elwir yn y Rheolau hyn “y rhestr o bleidleisiau a farciwyd gan y swyddog llywyddu”).

(3Yn achos person y dyroddwyd hysbysiad mewn perthynas ag ef o dan adran 13B(3B) neu (3D) o Ddeddf 1983, mae paragraff (2) yn gymwys fel pe bai'r geiriau “pob person y caiff ei bleidlais ei marcio yn unol â'r rheol hon a'i rif ar y rhestr etholwyr” wedi eu disodli gan “a'r rhif ar gyfer pob person y dyroddwyd hysbysiad mewn perthynas ag ef o dan adran 13B(3B) neu (3D) o Ddeddf 1983 ac y caiff ei bleidlais ei marcio yn unol â'r rheol hon”.

Pleidleisio gan bersonau ag anableddau

28.—(1Os yw pleidleisiwr neu ddirprwy yn gwneud cais i'r swyddog llywyddu am ganiatâd ar sail—

(a)dallineb neu anabledd arall, neu

(b)anallu i ddarllen,

i bleidleisio gyda chymorth person arall (y cyfeirir ato yn y Rheolau hyn fel “y cydymaith”) sy'n dod gyda'r pleidleisiwr neu'r dirprwy, rhaid i'r swyddog llywyddu ei gwneud yn ofynnol i'r pleidleisiwr neu ddirprwy ddatgan, ar lafar neu mewn ysgrifen, a yw'r pleidleisiwr neu'r dirprwy wedi ei analluogi gan ddallineb neu anabledd arall, neu'r anallu i ddarllen, i'r cyfryw raddau fel na all bleidleisio heb gymorth.

(2Os yw'r swyddog llywyddu—

(a)yn fodlon bod y pleidleisiwr neu'r dirprwy wedi ei analluogi felly, a

(b)ei fod hefyd wedi ei fodloni gan ddatganiad ysgrifenedig a wneir gan y cydymaith (y cyfeirir ato yn y Rheolau hyn fel “y datganiad a wneir gan gydymaith pleidleisiwr neu ddirprwy sydd ag anableddau”) bod y cydymaith—

(i)yn berson cymwys o fewn ystyr y rheol hon; a

(ii)nad yw eisoes wedi cynorthwyo mwy nag un pleidleisiwr neu ddirprwy ag anableddau i pleidleisio yn y refferendwm,

rhaid i'r swyddog llywyddu ganiatáu'r cais, ac yna caiff unrhyw beth o dan y Rheolau hyn sy'n ofynnol ei wneud i, neu gan, y pleidleisiwr neu'r dirprwy hwnnw mewn perthynas â bwrw pleidlais y pleidleisiwr neu'r dirprwy, ei wneud i, neu gyda chymorth, y cydymaith.

(3At ddibenion y Rheolau hyn, mae person yn bleidleisiwr neu ddirprwy ag anableddau os yw'r person hwnnw wedi gwneud y cyfryw ddatganiad fel a grybwyllir ym mharagraff (1), ac y mae person i fod yn gymwys i gynorthwyo pleidleisiwr neu ddirprwy ag anableddau i bleidleisio os yw'r person hwnnw—

(a)yn berson sydd â hawl i bleidleisio ar ran y person hwnnw ei hunan yn y refferendwm; neu

(b)yn dad, mam, brawd chwaer, priod, partner sifil, mab neu ferch y pleidleisiwr neu'r dirprwy ac wedi cyrraedd 18 oed.

(4Rhaid cofnodi enw pob person y bwrir ei bleidlais yn unol â'r rheol hon, ynghyd â'i rif ar y rhestr etholwyr ac enw a chyfeiriad y cydymaith, ar restr (a elwir yn y Rheolau hyn “y rhestr o bleidleiswyr neu ddirprwyon ag anableddau a gynorthwywyd gan gymdeithion”).

(5Yn achos person y dyroddwyd hysbysiad mewn perthynas ag ef o dan adran 13B(3B) neu (3D) o Ddeddf 1983, mae paragraff (4) yn gymwys fel pe bai'r geiriau “pob person y bwrir ei bleidlais ei yn unol â'r rheol hon a'i rif ar y rhestr etholwyr” wedi eu hamnewid gan “a'r rhif ar gyfer pob person y dyroddwyd hysbysiad mewn perthynas ag ef o dan adran 13B(3B) neu (3D) o Ddeddf 1983 ac y bwrir ei bleidlais yn unol â'r rheol hon”.

(6Rhaid i'r datganiad a wneir gan gydymaith pleidleisiwr neu ddirprwy ag anableddau—

(a)fod yn y ffurf sydd yn yr Atodiad,

(b)gael ei wneud gerbron y swyddog llywyddu ar yr adeg y mae'r pleidleisiwr neu'r dirprwy yn gwneud cais i bleidleisio gyda chymorth cydymaith, ac

(c)gael ei roi yn ddi-oed i'r swyddog llywyddu, a rhaid i'r swyddog llywyddu ei ardystio a'i gadw.

(7Ni chaniateir codi ffi nac unrhyw dâl arall mewn perthynas â'r datganiad

Papurau pleidleisio wedi eu tendro: yr amgylchiadau pan fônt ar gael

29.—(1Os yw person, sy'n honni mai ef yw—

(a)pleidleisiwr penodol a enwir ar y gofrestr ac nad yw ei enw yn y rhestr o bleidleiswyr absennol, neu

(b)person penodol a enwir yn y rhestr o ddirprwyon fel dirprwy ar gyfer pleidleisiwr ac nad oes hawl ganddo i bleidleisio drwy'r post fel dirprwy,

yn gwneud cais am bapur pleidleisio wedi i berson arall bleidleisio yn bersonol, naill ai fel y pleidleisiwr neu ddirprwy'r pleidleisiwr, mae hawl gan yr ymgeisydd, ar ôl ateb yn foddhaol y cwestiynau y mae'r gyfraith yn caniatáu eu gofyn yn ystod y pleidleisio, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau rheol 30, i farcio papur pleidleisio (y cyfeirir ato yn y Rheolau hyn fel “papur pleidleisio sydd wedi ei dendro”) yn yr un modd ag unrhyw bleidleisiwr neu ddirprwy arall.

(2Mae paragraff (4) yn gymwys os yw —

(a)y person yn gwneud cais am bapur pleidleisio gan honni mai ef yw pleidleiswyr penodol a enwir ar y gofrestr,

(b)y person wedi ei enwi hefyd yn y rhestr o bleidleiswyr post, ac

(c)y person yn honni nad yw wedi gwneud cais i bleidleisio drwy'r post yn y refferendwm.

(3Mae paragraff (4) yn gymwys hefyd os yw —

(a)y person yn gwneud cais am bapur pleidleisio gan honni mai ef yw person penodol a enwir fel dirprwy yn y rhestr o ddirprwyon,

(b)y person wedi ei enwi hefyd yn y rhestr o bleidleiswyr post fel dirprwyon, ac

(c)y person yn honni nad yw wedi gwneud cais i bleidleisio drwy'r post fel dirprwy.

(4Mae hawl gan y person, ar ôl ateb yn foddhaol y cwestiynau y mae'r gyfraith yn caniatáu eu gofyn yn ystod y pleidleisio, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau rheol 30, i farcio papur pleidleisio (y cyfeirir ato yn y Rheolau hyn fel “papur pleidleisio sydd wedi ei dendro”) yn yr un modd ag unrhyw bleidleisiwr neu ddirprwy arall.

(5Mae paragraff (6) yn gymwys os yw person yn honni, cyn bo'r pleidleisio wedi cau ond ar ôl yr amser olaf y caiff person wneud cais am bapur pleidleisio post arall, mai ef yw—

(a)pleidleisiwr penodol a enwir ar y gofrestr ac a enwir hefyd yn y rhestr pleidleiswyr post, neu

(b)person penodol a enwir fel dirprwy yn y rhestr o ddirprwyon ac a enwir hefyd yn y rhestr o bleidleiswyr post fel dirprwyon,

ac yn honni ei fod wedi colli neu heb gael ei bapur pleidlais bost.

(6Mae hawl gan y person, ar ôl ateb yn foddhaol y cwestiynau y mae'r gyfraith yn caniatáu eu gofyn yn ystod y pleidleisio, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau rheol 30, i farcio papur pleidleisio (y cyfeirir ato yn y Rheolau hyn fel “papur pleidleisio sydd wedi ei dendro”) yn yr un modd ag unrhyw bleidleisiwr neu ddirprwy arall.

Papurau pleidleisio wedi eu tendro: darpariaethau cyffredinol

30.—(1Rhaid i bapur pleidleisio sydd wedi ei dendro—

(a)fod o liw gwahanol i'r papurau pleidleisio eraill;

(b)yn hytrach na chael ei roi yn y blwch pleidleisio, gael ei roi i'r swyddog llywyddu a'i arnodi gan y swyddog llywyddu ag enw'r person a farciodd bapur pleidleisio wedi ei dendro, ynghyd â rhif y person hwnnw ar y gofrestr etholwyr, a'i roi o'r neilltu mewn pecyn ar wahân.

(2Rhaid cofnodi enw'r person a farciodd bapur pleidleisio wedi ei dendro, ynghyd â rhif y person hwnnw ar y gofrestr etholwyr, ar restr (a elwir yn y Rheolau hyn “y rhestr pleidleisiau wedi eu tendro”).

(3Yn achos person sy'n pleidleisio fel dirprwy ar ran pleidleisiwr, y rhif y mae'n rhaid ei arnodi neu ei gofnodi, ynghyd ag enw'r dirprwy, yw'r rhif sydd yn y gofrestr ar gyfer y pleidleisiwr.

(4Yn achos pleidleisiwr sydd â chofnod dienw, mae'r rheol hon a rheol 29 yn gymwys yn ddarostyngedig i'r addasiadau canlynol—

(a)ym mharagraffau (1)(b) a (2) uchod, rhaid anwybyddu'r cyfeiriadau at enw'r person a farciodd bapur pleidleisio wedi ei dendro;

(b)fel arall, rhaid dehongli cyfeiriad at berson a enwir ar gofrestr neu restr fel cyfeiriad at berson y mae ei rif yn ymddangos yn y gofrestr neu'r rhestr (yn ôl y digwydd).

(5Yn achos person y dyroddwyd hysbysiad mewn perthynas ag ef o dan adran 13B(3B) neu (3D) o Ddeddf 1983, mae'r rheol hon a rheol 29 yn gymwys fel pe bai—

(a)yn rheol 29(1)(a), (2)(a) a (5)(a), y geiriau “a enwir ar y gofrestr” wedi eu hamnewid gan “y dyroddwyd hysbysiad mewn perthynas ag ef o dan adran 13B(3B) neu (3D) o Ddeddf 1983”;

(b)ym mharagraff (1)(b) o'r rheol hon, y geiriau “â rhif y person hwnnw ar y gofrestr etholwyr” wedi eu hamnewid gan “â'r rhif mewn perthynas â'r person hwnnw ar hysbysiad a ddyroddwyd o dan adran 13B(3B) neu (3D) o Ddeddf 1983”;

(c)ym mharagraff (2) o'r rheol hon, y geiriau “â'i rif ar y gofrestr etholwyr” wedi eu hamnewid gan “â'r rhif mewn perthynas â'r person hwnnw ar hysbysiad a ddyroddwyd o dan adran 13B(3B) neu (3D) o Ddeddf 1983”.

Papurau pleidleisio a ddifethwyd

31.  Caniateir i bleidleisiwr neu ddirprwy sydd, oherwydd amryfusedd, wedi trin ei bapur pleidleisio yn y fath fodd fel na ellir ei ddefnyddio yn gyfleus fel papur pleidleisio, drwy gyflwyno'r papur i'r swyddog llywyddu a chynnig prawf digonol o'r amryfusedd i fodloni'r swyddog llywyddu, gael papur pleidleisio arall yn lle'r papur pleidleisio a gyflwynwyd felly (y cyfeirir ato yn y Rheolau hyn fel “papur pleidleisio a ddifethwyd”), a rhaid canslo ar unwaith y papur pleidleisio a ddifethwyd.

Cywiro gwallau ar ddiwrnod y pleidleisio

32.  Rhaid i'r swyddog llywyddu gadw rhestr o'r personau y traddodir papurau pleidleisio iddynt o ganlyniad i newid a wneir yn y gofrestr yn rhinwedd adran 13B(3B) neu (3D) o Ddeddf 1983 Act, sy'n cael effaith ar ddiwrnod y pleidleisio.

Gohirio pleidleisio mewn achos o derfysg

33.—(1Os torrir ar draws neu os rhwystrir y gweithrediadau mewn unrhyw orsaf bleidleisio gan derfysg neu drais agored, rhaid i'r swyddog llywyddu ohirio'r gweithrediadau tan y diwrnod canlynol a rhaid iddo hysbysu'r swyddog cyfrif yn ddi-oed.

(2Pan ohirir y pleidleisio mewn unrhyw orsaf bleidleisio—

(a)rhaid i'r oriau pleidleisio ar y diwrnod y gohiriwyd iddo fod yr un oriau ag ar y diwrnod gwreiddiol; a

(b)rhaid dehongli cyfeiriadau yn y Rheolau hyn at gau'r pleidleisio yn unol â hynny.

Gweithdrefn wrth gau'r pleidleisio

34.—(1Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cau'r pleidleisio rhaid i'r swyddog llywyddu, ym mhresenoldeb yr arsylwyr pleidleisio (os oes rhai) wneud y canlynol yn becynnau ar wahân, wedi eu selio â sêl y swyddog llywyddu ei hunan a pha bynnag seliau eraill y dymuna'r arsylwyr pleidleisio eu gosod—

(a)pob blwch pleidleisio a ddefnyddiwyd yn yr orsaf, wedi eu selio mewn ffordd sy'n atal ychwanegu unrhyw bapurau pleidleisio ychwanegol a heb eu hagor, ond gyda'r allwedd, os oes un, ynghlwm,

(b)y papurau pleidleisio nas defnyddiwyd a'r papurau a ddifethwyd, gyda'i gilydd,

(c)y papurau pleidleisio a oedd wedi eu tendro,

(ch)y copïau a farciwyd o'r gofrestr etholwyr (gan gynnwys unrhyw gopïau wedi eu marcio a ddyroddwyd o dan adran 13B (3B) neu (3D) o Ddeddf 1983) a'r rhestr o ddirprwyon,

(d)y rhestrau a baratowyd o dan reol 8, gan gynnwys y rhannau a gwblhawyd yn unol â rheol 26(1)(b) (y cyfeirir atynt gyda'i gilydd yn y Rheolau hyn fel “y rhestrau rhifau cyfatebol a gwblhawyd”),

(dd)y tystysgrifau ynglŷn â chyflogaeth ar ddyletswydd ar ddiwrnod y pleidleisio,

(e)y rhestr o bleidleisiau a oedd wedi eu tendro, y rhestr o bleidleiswyr neu ddirprwyon ag anableddau a gynorthwywyd gan gymdeithion, y rhestr o bleidleisiau a farciwyd gan y swyddog llywyddu, datganiad o nifer y pleidleiswyr a dirprwyon y marciwyd eu pleidleisiau felly gan y swyddog llywyddu o dan y penawdau “anabledd” ac “analluog i ddarllen”, y rhestr a wnaed o dan reol 32 (cywiro gwallau ar ddiwrnod y pleidleisio), a'r datganiadau a wnaed gan gymdeithion y pleidleiswyr a'r dirprwyon ag anableddau,

a rhaid iddo ddanfon y pecynnau, neu achosi iddynt gael eu danfon, at y swyddog cyfrif, er mwyn i'r swyddog cyfrif fod â gofal drostynt; ond os na ddanfonir y pecynnau gan y swyddog llywyddu yn bersonol at y swyddog cyfrif, mae'n ofynnol bod y swyddog cyfrif yn cymeradwyo'r trefniadau ar gyfer eu danfon.

(2Rhaid i'r copïau sydd wedi eu marcio o'r gofrestr etholwyr ac o'r rhestr o ddirprwyon fod mewn un pecyn, ond rhaid iddynt beidio â bod yn yr un pecyn â'r rhestrau rhifau cyfatebol a gwblhawyd, nac ychwaith yn yr un pecyn â'r tystysgrifau ynglŷn â chyflogaeth ar ddyletswydd ar ddiwrnod y pleidleisio.

(3Rhaid i ddatganiad (y cyfeirir ato yn y Rheolau hyn fel “y gyfriflen papurau pleidleisio”) a baratowyd gan y swyddog llywyddu fynd gyda'r pecynnau, gan ddangos nifer y papurau pleidleisio a ymddiriedwyd i'r swyddog llywyddu a rhoi cyfrif amdanynt o dan y penawdau o bapurau pleidleisio a ddyroddwyd ac na chyfrifir amdanynt fel arall, rhai nas defnyddiwyd, a ddifethwyd a phapurau pleidleisio wedi eu tendro.

RHAN 6Cyfrif Pleidleisiau

Presenoldeb ar gyfer cyfrif pleidleisiau

35.—(1Rhaid i'r swyddog cyfrif wneud trefniadau i gyfrif y pleidleisiau ym mhresenoldeb yr arsylwyr cyfrif cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cau'r pleidleisio, a rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig i'r arsylwyr cyfrif sy'n nodi'r amser a'r lle y bydd y swyddog cyfrif yn cychwyn cyfrif y pleidleisiau.

(2Ni chaiff neb ac eithrio—

(a)y swyddog cyfrif a chlercod y swyddog cyfrif,

(b)yr arsylwyr cyfrif,

(c)maer etholedig, os oes un, y cyngor y cynhelir y refferendwm mewn perthynas ag ef,

(ch)y trefnyddion deiseb, a

(d)personau sydd â hawl i fod yn bresennol yn rhinwedd adrannau 6A i 6D o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000,

fod yn bresennol yn ystod cyfrif y pleidleisiau, oni chaiff ganiatâd y swyddog cyfrif i fod yn bresennol.

(3Ni fydd y swyddog cyfrif yn caniatáu i berson nad oes ganddo hawl i fod yn bresennol yn y cyfrif pleidleisiau fod yn bresennol yno, oni fodlonir y swyddog cyfrif na fydd hynny yn rhwystr i gyfrif y pleidleisiau yn effeithiol.

(4Rhaid i'r swyddog cyfrif roi pa bynnag gyfleusterau rhesymol i'r arsylwyr cyfrif ar gyfer goruchwylio'r gweithrediadau, a pha bynnag wybodaeth mewn perthynas â'r gweithrediadau, ag y gall y swyddog cyfrif eu rhoi, yn gyson â chynnal y gweithrediadau yn drefnus a chyflawni dyletswyddau'r swyddog cyfrif mewn perthynas â'r gweithrediadau.

(5Yn benodol, pan fo'r pleidleisiau yn cael eu cyfrif trwy ddidoli'r papurau pleidleisio yn ôl pa ateb y pleidleisiwyd drosto ac yna cyfrif nifer y papurau pleidleisio ar gyfer bob ateb, mae hawl gan yr arsylwyr cyfrif i fodloni eu hunain bod y papurau pleidleisio wedi eu didoli yn gywir.

Y cyfrif

36.—(1Rhaid i'r swyddog cyfrif—

(a)ym mhresenoldeb yr arsylwyr cyfrif, agor pob blwch pleidleisio a chyfrif a chofnodi nifer y papurau pleidleisio sydd ynddo;

(b)ym mhresenoldeb yr arsylwyr cyfrif, gwirio pob cyfriflen papurau pleidleisio; ac

(c)cyfrif nifer y papurau pleidlais bost a ddychwelwyd yn briodol a chofnodi'r nifer a gyfrifwyd.

(2Rhaid i'r swyddog cyfrif beidio â chyfrif y pleidleisiau a roddwyd ar unrhyw bapurau pleidleisio hyd nes eu bod —

(a)yn achos papurau pleidlais bost, wedi eu cymysgu â'r papurau pleidleisio o un blwch pleidleisio, o leiaf, a

(b)yn achos papurau pleidleisio o flwch pleidleisio, wedi eu cymysgu â'r papurau pleidleisio o un blwch pleidleisio arall, o leiaf.

(3Rhaid peidio â chymryd bod papur pleidlais bost wedi ei ddychwelyd yn briodol oni bai—

(a)ei fod yn cael ei ddychwelyd yn y modd a bennir ym mharagraff (4) ac yn cyrraedd y swyddog cyfrif neu unrhyw orsaf bleidleisio yn ardal y bleidlais dan sylw cyn bod y pleidleisio'n cau;

(b)bod y datganiad pleidlais bost, wedi ei lofnodi yn briodol, hefyd yn cael ei ddychwelyd yn y modd a bennir ym mharagraff (4) ac yn cyrraedd y swyddog cyfrif neu'r cyfryw orsaf bleidleisio cyn yr amser hwnnw;

(c)bod y datganiad pleidlais bost hefyd yn nodi dyddiad geni pleidleisiwr neu ddirprwy; ac

(ch)mewn achos pan fo'r camau ar gyfer gwirio dyddiad geni a llofnod pleidleisiwr neu ddirprwy wedi eu rhagnodi gan reoliadau a wnaed o dan Ddeddf 1983(31), bod y swyddog cyfrif (ar ôl cymryd y cyfryw gamau) yn gwirio'r dyddiad geni a'r llofnod hwnnw.

(4Y dull a ganiateir ar gyfer dychwelyd unrhyw bapur pleidlais bost neu ddatganiad pleidlais bost —

(a)at y swyddog cyfrif, yw â llaw neu drwy'r post;

(b)i orsaf bleidleisio, yw â llaw.

(5Rhaid i'r swyddog cyfrif beidio â chyfrif unrhyw bapur pleidleisio sydd wedi ei dendro.

(6Rhaid i'r swyddog cyfrif, tra'n cyfrif ac yn cofnodi nifer y papurau pleidleisio ac yn cyfrif y pleidleisiau gadw'r papurau pleidleisio â'u hwynebau tuag i fyny, a chymryd pob rhagofal priodol i atal unrhyw berson rhag gweld y rhifau neu'r nodau adnabod unigryw eraill a argraffwyd ar gefn y papurau.

(7Rhaid i'r swyddog cyfrif wirio pob cyfriflen papurau pleidleisio drwy ei chymharu â nifer y papurau pleidleisio a gofnodir gan y swyddog cyfrif, a'r papurau pleidleisio nas defnyddiwyd neu a ddifethwyd sydd ym meddiant y swyddog cyfrif a'r rhestr pleidleisiau wedi eu tendro (gan agor ac ail selio'r pecynnau sy'n cynnwys y papurau pleidleisio nas defnyddiwyd ac a ddifethwyd a'r rhestr pleidleisiau wedi eu tendro) a rhaid iddo baratoi datganiad ynglŷn â chanlyniad y gwirio, y caiff unrhyw arsylwr cyfrif ei gopïo.

(8Rhaid i'r swyddog cyfrif, cyn belled ag y bo'n ymarferol, barhau yn ddi-dor i gyfrif y pleidleisiau, gan ganiatáu amser i ffwrdd ar gyfer lluniaeth yn unig, ac eithrio y caniateir i'r swyddog cyfrif hepgor yr oriau rhwng 7 yr hwyr a 9 y bore drannoeth.

(9Yn ystod y cyfnod a hepgorir felly, rhaid i'r swyddog cyfrif—

(a)osod y papurau pleidleisio a'r dogfennau eraill sydd a wnelont â'r refferendwm o dan sêl y swyddog cyfrif ei hunan; a

(b)cymryd rhagofalon priodol fel arall i ddiogelu'r papurau a'r dogfennau.

Ailgyfrif

37.—(1Caiff trefnydd deiseb, os yw'n bresennol pan gwblheir y cyfrif neu unrhyw ailgyfrif o'r pleidleisiau, ei gwneud yn ofynnol i'r swyddog cyfrif ailgyfrif y pleidleisiau neu eu hailgyfrif drachefn, ond caiff y swyddog cyfrif wrthod gwneud hynny os yw'r cais, ym marn y swyddog cyfrif, yn afresymol.

(2Rhaid peidio â chymryd unrhyw gam ar ôl cwblhau'r cyfrif neu unrhyw ailgyfrif o'r pleidleisiau cyn bo pa bynnag drefnwyr deiseb sy'n bresennol ar adeg y cwblhau wedi cael cyfle rhesymol i arfer yr hawl a roddir gan y rheol hon.

Papurau pleidleisio a wrthodir

38.—(1Mae unrhyw bapur pleidleisio—

(a)nad yw'n dwyn y nod swyddogol, neu

(b)y rhoddwyd pleidleisiau arno ar gyfer mwy nag un ateb, neu

(c)sydd ag unrhyw beth wedi ei ysgrifennu neu ei farcio arno a fyddai'n caniatáu adnabod y pleidleisiwr neu ddirprwy, ac eithrio'r rhif printiedig a'r nod adnabod unigryw arall ar y cefn, neu

(ch)sydd heb ei farcio neu'n ddi-rym oherwydd ansicrwydd,

yn ddarostyngedig i baragraff (2), yn ddi-rym, a rhaid peidio â'i gyfrif.

(2Pan fo pleidlais wedi ei marcio ar bapur pleidleisio—

(a)mewn man gwahanol i'r man priodol, neu

(b)mewn dull gwahanol i ddefnyddio croes, neu

(c)gan ddefnyddio mwy nag un marc,

rhaid peidio â'i ystyried yn ddi-rym os oes bwriad yn ymddangos yn amlwg i bleidleisio dros un ateb neu'r llall, ac os nad yw'r modd y marciwyd y papur yn ei hunan yn datgelu pwy yw'r pleidleisiwr neu ddirprwy, ac os na ddangosir bod modd adnabod y pleidleisiwr neu ddirprwy oddi wrtho.

(3Rhaid i'r swyddog cyfrif arnodi'r gair “gwrthodwyd ”(“rejected”) ar unrhyw bapur pleidleisio nas cyfrifir oherwydd y rheol hon, a rhaid ychwanegu'r geiriau “gwrthwynebwyd ei wrthod” (“rejection objected to”) at yr arnodiad os bydd arsylwr cyfrif yn gwneud unrhyw wrthwynebiad i benderfyniad y swyddog cyfrif.

(4Rhaid i'r swyddog cyfrif baratoi datganiad sy'n dangos nifer y papurau pleidleisio a wrthodwyd o dan y gwahanol benawdau—

(a)diffyg nod swyddogol;

(b)pleidleisio dros fwy nag un ateb;

(c)ysgrifen neu farc a fyddai'n caniatáu adnabod y pleidleisiwr neu ddirprwy;

(ch)dim marc neu'n ddi-rym oherwydd ansicrwydd.

Penderfyniadau ynghylch papurau pleidleisio

39.  Mae penderfyniad y swyddog cyfrif ar unrhyw gwestiwn sy'n codi mewn perthynas â phapur pleidleisio yn derfynol, ond yn ddarostyngedig i'w adolygu drwy ddeiseb refferendwm.

Pleidleisiau cyfartal

40.  Os canfyddir, ar ôl gorffen cyfrif y pleidleisiau (gan gynnwys unrhyw ailgyfrif) bod y pleidleisiau yn gyfartal rhwng yr atebion, rhaid i'r swyddog cyfrif benderfynu'r refferendwm yn ddi-oed drwy fwrw coelbren.

RHAN 7Cyhoeddi'r Canlyniad a Lleoli'r Dogfennau

Cyhoeddi'r canlyniad

41.  Pan fod canlyniad y bleidlais wedi ei ganfod rhaid i'r swyddog cyfrif wneud y canlynol yn ddi-oed—

(a)cyhoeddi canlyniad y refferendwm,

(b)rhoi gwybod i swyddog priodol yr awdurdod a gynhaliodd y refferendwm, neu y cynhaliwyd y refferendwm mewn perthynas ag ef, o ganlyniad y refferendwm,

(c)rhoi hysbysiad cyhoeddus o—

(i)ganlyniad y refferendwm,

(ii)nifer y papurau pleidleisio a gyfrifwyd,

(iii)nifer cyfanswm y pleidleisiau a fwriwyd dros bob ateb, a

(iv)nifer y papurau pleidleisio a wrthodwyd o dan bob pennawd yn y datganiad o bapurau pleidleisio a wrthodwyd.

Selio'r papurau pleidleisio

42.—(1Ar ôl cwblhau'r cyfrif mewn refferendwm, rhaid i'r swyddog cyfrif selio'r papurau pleidleisio a gyfrifwyd ac a wrthodwyd, mewn pecynnau ar wahân.

(2Rhaid i'r swyddog cyfrif beidio ag agor y pecynnau seliedig o—

(a)papurau pleidleisio a oedd wedi eu tendro,

(b)rhestrau rhifau cyfatebol a gwblhawyd,

(c)tystysgrifau ynglŷn â chyflogaeth ar ddyletswydd ar ddiwrnod y pleidleisio, neu

(ch)copïau a farciwyd o'r gofrestr etholwyr (gan gynnwys y copïau a farciwyd o hysbysiadau a ddyroddwyd o dan adran 13B(3B) neu (3D) o Ddeddf 1983) a rhestrau o ddirprwyon.

Trosglwyddo dogfennau i'r swyddog cofrestru perthnasol

43.—(1Rhaid i'r swyddog cyfrif wedyn anfon y dogfennau canlynol ymlaen at y swyddog cofrestru perthnasol—

(a)y pecynnau o bapurau pleidleisio sydd ym meddiant y swyddog cyfrif,

(b)y cyfriflenni papurau pleidleisio a'r datganiadau o bapurau pleidleisio a wrthodwyd ac o ganlyniad gwirio'r cyfriflenni papurau pleidleisio,

(c)y rhestrau o bleidleisiau sydd wedi eu tendro, y rhestrau o bleidleiswyr a dirprwyon ag anableddau a gynorthwywyd gan gymdeithion, y rhestrau o bleidleisiau a farciwyd gan y swyddog llywyddu a'r datganiadau cysylltiedig, y rhestrau a wnaed o dan reol 32, a'r datganiadau a wnaed gan gymdeithion y pleidleiswyr a dirprwyon ag anableddau,

(ch)y pecynnau o restrau rhifau cyfatebol a gwblhawyd,

(d)y pecynnau o dystysgrifau ynglŷn â chyflogaeth ar ddyletswydd ar ddiwrnod y pleidleisio, ac

(dd)y pecynnau sy'n cynnwys copïau a farciwyd o'r cofrestrau (gan gynnwys unrhyw gopïau a farciwyd o hysbysiadau a ddyroddwyd o dan adran 13B(3B) neu (3D) o Ddeddf 1983) ac o'r rhestr pleidleiswyr post, o'r rhestrau o ddirprwyon, ac o'r pleidleiswyr drwy'r post fel dirprwyon,

gan arnodi ar bob pecyn disgrifiad o'i gynnwys, dyddiad y refferendwm y mae'n ymwneud ag ef ac enw'r awdurdod lleol a gynhaliodd y refferendwm neu y cynhaliwyd y refferendwm mewn perthynas ag ef.

(2Yn y rheol hon ac yn rheolau 44 a 45 mae'r cyfeiriadau at y swyddog cofrestru perthnasol yn cyfeirio at swyddog cofrestru'r awdurdod lleol a gynhaliodd y refferendwm neu y cynhaliwyd y refferendwm mewn perthynas ag ef.

Gorchmynion i ddangos dogfennau

44.—(1Caiff llys sirol wneud gorchymyn—

(a)ar gyfer archwilio neu ddangos unrhyw bapurau pleidleisio a wrthodwyd sydd ym meddiant y swyddog cofrestru perthnasol, neu

(b)ar gyfer agor pecyn seliedig o restrau rhifau cyfatebol a gwblhawyd, neu dystysgrifau ynglŷn â chyflogaeth ar ddyletswydd ar ddiwrnod y pleidleisio, neu ar gyfer archwilio unrhyw bapurau pleidleisio a gyfrifwyd sydd ym meddiant y swyddog cofrestru perthnasol,

os bodlonir y llys, gan dystiolaeth a roddir ar lw, bod y gorchymyn yn ofynnol at y diben o gychwyn neu gynnal erlyniad am dramgwydd mewn perthynas â phapurau pleidleisio neu at ddiben deiseb refferendwm.

(2Caiff llys etholiad wneud gorchymyn ar gyfer agor pecyn seliedig o restrau rhifau cyfatebol a gwblhawyd, neu dystysgrifau ynglŷn â chyflogaeth ar ddyletswydd ar ddiwrnod y pleidleisio, neu ar gyfer archwilio unrhyw bapurau pleidleisio a gyfrifwyd sydd ym meddiant y swyddog cofrestru perthnasol.

(3Caiff y llys sy'n gwneud gorchymyn o dan y rheol hon wneud y gorchymyn yn ddarostyngedig i amodau o ran—

(a)personau,

(b)amser,

(c)lleoliad a dull yr archwilio,

(ch)dangos neu agor,

fel y gwêl y llys yn briodol.

(4Wrth wneud ac wrth weithredu gorchymyn ar gyfer agor pecyn o'r rhestrau rhifau cyfatebol a gwblhawyd, neu dystysgrifau ynglŷn â chyflogaeth ar ddyletswydd ar ddiwrnod y pleidleisio, neu ar gyfer archwilio papurau pleidleisio a gyfrifwyd, rhaid cymryd gofal i beidio â datgelu'r ffordd y pleidleisiodd unrhyw berson penodol hyd nes bo wedi ei brofi bod—

(a)pleidlais y person wedi ei bwrw; a

(b)bod y bleidlais wedi ei chyhoeddi gan lys cymwys yn bleidlais annilys.

(5Gwneir unrhyw apêl yn erbyn gorchymyn llys sirol o dan y rheol hon i'r Uchel Lys.

(6Caniateir i unrhyw bŵer a roddir o dan y rheol hon i lys sirol gael ei arfer gan unrhyw farnwr o'r llys mewn modd gwahanol i'w arfer mewn llys agored.

(7Pan wneir gorchymyn bod y swyddog cofrestru perthnasol yn dangos unrhyw ddogfen sydd yn ei feddiant mewn perthynas ag unrhyw refferendwm penodedig—

(a)mae dangos, gan y swyddog cofrestru neu gan asiant y swyddog cofrestru, y ddogfen a orchmynnwyd, mewn modd sy'n unol ag unrhyw gyfarwyddiadau yn y gorchymyn hwnnw, yn dystiolaeth derfynol bod y ddogfen yn ymwneud â'r refferendwm penodedig: a

(b)mae unrhyw arnodiad ar unrhyw becyn o bapurau pleidleisio a ddangosir felly yn dystiolaeth prima facie mai'r papurau pleidleisio hynny yw'r rhai a ddatgenir yn yr arnodiad.

(8Mae dangos, ar ôl eu cadw yn briodol—

(a)papur pleidleisio yr honnir iddo gael ei ddefnyddio mewn unrhyw refferendwm, a

(b)rhestr rhifau cyfatebol a gwblhawyd, gyda rhif wedi ei farcio mewn ysgrifen wrth ochr rhif y papur pleidleisio,

yn dystiolaeth prima facie mai'r person y bwriwyd ei bleidlais gan y papur pleidleisio hwnnw oedd y person yr oedd ei gofnod yn y rhestr etholwyr neu ar hysbysiad a ddyroddwyd o dan adran 13B(3B) neu (3D) o Ddeddf 1983, ar adeg y refferendwm yn cynnwys yr un rhif â'r rhif ysgrifenedig a grybwyllir yn is-baragraff (b) o'r paragraff hwn.

(9Ac eithrio fel a ddarperir gan y rheol hon, ni chaniateir i unrhyw berson archwilio unrhyw bapurau pleidleisio a wrthodwyd neu a gyfrifwyd, sydd ym meddiant y swyddog cofrestru perthnasol, nac agor unrhyw becynnau seiliedig o'r rhestrau rhifau cyfatebol a gwblhawyd, neu dystysgrifau ynglŷn â chyflogaeth ar ddyletswydd ar ddiwrnod y pleidleisio.

Cadw dogfennau

45.  Rhaid i'r swyddog cofrestru perthnasol gadw am un flwyddyn yr holl ddogfennau mewn perthynas â refferendwm, a anfonwyd ymlaen at y swyddog cofrestru yn unol â'r Rheolau hyn gan swyddog cyfrif, ac yna, oni chyfarwyddir yn wahanol gan orchymyn o lys sirol, Llys y Goron, llys ynadon neu lys etholiad, rhaid iddo achosi iddynt gael eu dinistrio.

RHAN 8Atodiad o Ffurfiau

Noder:— Caniateir addasu'r ffurfiau a gynhwysir yn yr Atodiad hwn cyn belled ag y bo amgylchiadau'n ei gwneud yn ofynnol i wneud hynny

Rheoliad 8

ATODLEN 4Cymhwyso, gydag Addasiadau, Deddfau ac Is-ddeddfwriaeth

Dehongli

1.—(1Mae'r darpariaethau a nodir yng ngholofn gyntaf Tablau 1 i 5 yn cael effaith yn ddarostyngedig i—

(a)unrhyw addasiadau a grybwyllir yn ail golofn y Tablau hynny, a

(b)onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, yr addasiadau a grybwyllir yn is-baragraff (2).

(2Yr addasiadau a grybwyllir yn y paragraff hwn yw—

(a)rhaid dehongli cyfeiriad at etholiad fel cyfeiriad at y refferendwm ;

(b)rhaid dehongli cyfeiriad at swyddog canlyniadau fel cyfeiriad at y swyddog cyfrif;

(c)rhaid dehongli cyfeiriad at etholaeth neu adran etholiadol fel cyfeiriad at ardal y bleidlais;

(ch)rhaid dehongli cyfeiriad at bleidleisio dros ymgeisydd neu bleidlais dros ymgeisydd fel cyfeiriad at bleidleisio dros ateb, neu bleidlais dros ateb;

(d)rhaid dehongli cyfeiriad at hyrwyddo neu beri ethol ymgeisydd, neu hybu ymgeisyddiaeth person, fel cyfeiriad at hyrwyddo neu beri canlyniad penodol yn y refferendwm;

(dd)rhaid anwybyddu cyfeiriadau at bapurau enwebu ac anwybyddu cyfeiriadau at ymgeiswyr ac eithrio fel a grybwyllir yn is-baragraffau (ch) a (d);

(e)rhaid dehongli cyfeiriad at ethol person fel cyfeiriad at ganlyniad penodol yn y refferendwm;

(f)rhaid dehongli cyfeiriad at berson yn pleidleisio fel etholwr fel person yn pleidleisio ar ei ran ei hunan;

(ff)rhaid dehongli cyfeiriad at a hawl person fel etholwr i gael pleidlais absennol fel cyfeiriad at hawl person i bleidleisio drwy'r post ar ei ran ei hunan neu drwy ddirprwy;

(g)pan fo'n ofynnol gwneud unrhyw beth ym mhresenoldeb asiantwyr etholiad, asiantwyr cyfrif, asiantwyr pleidleisio neu asiantwyr eraill rhaid anwybyddu'r cyfeiriad at bresenoldeb asiantwyr;

(ng)rhaid dehongli cyfeiriad i'r perwyl bod unrhyw beth wedi ei ragnodi fel cyfeiriad i'r perwyl y darparwyd ar ei gyfer gan ddarpariaeth mewn is-ddeddfwriaeth a gymhwysir gan y Rheoliadau hyn;

(h)ceir defnyddio ffurf y mae'n ofynnol ei defnyddio gyda pha bynnag amrywiadau ag y bo'n ofynnol o dan yr amgylchiadau;

(i)mae cyfeiriad at y swyddog cofrestru, mewn perthynas ag awdurdod lleol, yn gyfeiriad at y swyddog cofrestru perthnasol a benodwyd o dan adran 8 o Ddeddf 1983(32); ac at y diben o arfer swyddogaethau swyddog cofrestru mewn perthynas â'r refferendwm, mae adran 52(1) i (4)(33) (cyflawni swyddogaethau cofrestru) ac adran 54(1), (3) a (4)(34) (talu treuliau cofrestru) o'r Ddeddf honno yn effeithiol;

(j)rhaid dehongli cyfeiriad at ddeiseb etholiad (“election petition”) fel cyfeiriad at ddeiseb refferendwm;

(l)rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad at ddeddfiad neu offeryn a wnaed o dan ddeddfiad fel cyfeiriad at y deddfiad neu offeryn hwnnw fel y'i cymhwysir gan y Rheoliadau hyn;

(ll)rhaid anwybyddu cymaint o unrhyw ddarpariaeth ag sy'n gymwys yn unig o ran yr Alban, Lloegr neu Ogledd Iwerddon.

Tabl 1 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983(35)

(1) Darpariaeth(2) Addasiad
Adran 13B (newid cofrestrau: ar gyfer etholiadau sydd ar ddigwydd) (36)

Ar ôl “election”, ym mhob lle, mewnosoder “or referendum”.

Ar ôl is-adran(4) rhodder—

(4A) This section also applies to referendums.

Adran 31 (dosbarthau a gorsafoedd pleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol)(37)

Yn is-adran (1A) yn lle “elections of county councillors” rhodder “referendums by or in respect of a county or county borough”.

Yn is-adran (3) yn lle “local government elections” rhodder “referendums”.

Adran 35(4) (penodiadau gan swyddogion canlyniadau)
Adran 36(4) a (6) (gwariant y swyddog canlyniadau mewn etholiad lleol)(38) officer

Yn is-adran (4) yn lle'r geiriau o “by a returning officer” hyd at “London borough)” rhodder “by a counting for a voting area in relation to the holding of a referendum”.

Yn is-adran (6) yn lle'r geiriau o'r dechrau hyd at “councillor, the council” rhodder “Before a poll is taken at such a referendum as is referred to in subsection (4), the authority”.

Nid yw paragraff 1(2)(b) o'r Atodlen hon yn cael effaith mewn perthynas â'r cyfeiriad cyntaf yn is-adran (6) at y swyddog canlyniadau.

Adran 47 (benthyg cyfarpar ar gyfer etholiadau lleol)(39)

Yn is-adran (1) yn lle “the returning officer at a local government election” rhodder “the counting officer at a referendum”.

Yn is-adran (2)—

(j)

dileer y geiriau o “, or” ar ddiwedd paragraff (a) hyd at “as the case may be”;

(k)

yn lle “an election held under those Acts” rhodder “a referendum”.

Adran 49(4) a (5) (effaith cofrestrau)(40)Yn is-adran (5) hepgorer “prevent the rejection of the vote on a scrutiny or”.
Adran 60 (cambersonadu)Yn is-adran (2) hepgorer “parliamentary or”.
Adran 61 (tramgwyddau eraill sy'n ymwneud â phleidleisio)(41)

Yn is-adran (1) ar ôl “local government election” a “local government elections”, ym mhob lle, mewnosoder “or referendum” or “or referendums” yn eu trefn.

Yn lle is-adrannau (2) i (4) rhodder—

(2) A person shall be guilty of an offence if—

(a)that person votes on their own behalf otherwise than by proxy—

(i)more than once in the same voting area,

(ii)in more than one voting area, or

(iii)in any voting area where there is in force an appointment of a person to vote as that person’s proxy in the referendum in another voting area, or

(b)that person votes on their own behalf in person and is entitled to vote by post, or

(c)that person votes on their own behalf in person knowing that a person appointed to vote as their proxy has already voted in person or is entitled to vote by post, or

(d)that person applies for a person to be appointed as their proxy to vote for them without applying for the cancellation of a previous appointment of a third party then in force or without withdrawing a pending application for such an appointment.

(3) A person shall be guilty of an offence if—

(a)that person votes as proxy for the same person either—

(i)more than once in the same voting area, or

(ii)in more than one voting area, or

(b)that person votes in person as proxy for a person and is entitled to vote by post as proxy for that person, or

(c)that person votes in person as proxy for someone whom that person knows already to have voted in person.

(4) A person shall also be guilty of an offence if that person votes as proxy in any voting area for more than two persons of whom that person is not the spouse, civil partner, parent, grandparent, brother, sister, child or grandchild.

Yn lle is-adran (6A) rhodder—

(6A) A person is not guilty of an offence under subsection (2)(b) only by reason of that person having marked a tendered ballot paper in pursuance of rule 29 of the Local Government Act Referendums Rules within the meaning of the Local Authorities (Conduct of Referendums) (Wales) Regulations 2008.

Adran 62A (tramgwyddau mewn perthynas â cheisiadau am bleidleisiau post a phleidleisiau drwy ddirprwy)(42)Yn is-adran (1)(a) ar ôl “election” mewnosoder “or referendum”.
Adran 63 (tor-ddyletswydd swyddogol)(43)

Yn is-adran (3) ar ôl “local government election” yn y ddau le mewnosoder “or referendum”.

Yn is-adran (4)(a) ar ôl “election” rhodder “or referendum”.

Adran 65 (ymyrryd â phapurau pleidleisio, etc.)(44)

Yn is-adran (1)—

(a)

ar ôl “election”, lle mae'n digwydd gyntaf, rhodder “or referendum”, a

(b)

hepgorer paragraff (a).

Yn is-adran (3) yn lle “clerk” rhodder “person”.

Adran 66 (gofyniad am gyfrinachedd)(45)

Yn lle is-adran (1)(b) rhodder—

(b)every polling observer, so attending,.

Adran 66A (gwahardd cyhoeddi polau ymadael)(46)

Yn is-adran (2) hepgorer yr “and” sy'n rhagflaenu paragraff (b) ac ar ôl y paragraff hwnnw mewnosoder—

; and

(c)any referendum.

Adran 92 (darlledu o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig)(47)Yn is-adran (1) ar ôl “local government election” mewnosoder “or referendum”.
Adran 94 (cardiau pleidleisio ffug)(48)

Yn is-adran (2)—

(a)

ar ôl “section 36” mewnosoder “above, or regulations made under section 45 of the Local Government Act 2000”, a

(b)

ar ôl “the rules”, mewnosoder “or, as the case may be, the regulations”.

Adran 96 (ysgolion ac ystafelloedd ar gyfer cyfarfodydd etholiadau lleol)(49)

Yn lle is-adran (1) rhodder—

(1) Subject to the provisions of this section, any person is entitled, for the purpose of holding a public meeting to promote a particular result in the referendum, to use free of charge at reasonable times during the campaign period any meeting room to which this section applies.

(1A) In subsection (1), “the campaign period” means the period of 25 days ending with the day before the date of the referendum.

Hepgorer is-adran (2).

Yn is-adran (3)—

(a)

yn lle'r geiriau o “electoral area for which” hyd at “that electoral area” rhodder “voting area”, a

(b)

hepgorer paragraff (b).

Yn is-adran (4)—

(a)

hepgorer y geiriau “and paragraph 1(1) of Schedule 5 to this Act”,

(b)

ar ôl y geiriau “that section” mewnosoder “subject to the substitution in subsection (5) of that section, for the word “candidate” of the word “person”, ac

(c)

hepgorer y geiriau o “and any person” hyd y diwedd.

Ar ôl is-adran (4) mewnosoder—

(5) The lists maintained by a county or county borough council of meeting rooms which candidates at a parliamentary election in any constituency are entitled to use shall have effect for the purposes of the referendum; and any person shall, before the referendum, be entitled at all reasonable hours to inspect those lists or a copy of them.

Adran 97 (terfysgoedd mewn cyfarfodydd etholiad)(50)

Yn lle is-adran (2) rhodder—

(2) This section applies to a meeting in connection with a referendum held during the campaign period.

(2A) In subsection (2) “the campaign period” means the period of 25 days ending with the day before the date of the referendum.

Adran 100(1) and (2) (canfasio anghyfreithlon gan swyddogion yr heddlu)(51)Yn is-adran (1) Yn lle'r geiriau o “ from giving his vote” hyd y diwedd rhodder “from giving his vote in the referendum in a voting area wholly or partly within the police area”.
Adran 109 (taliadau am arddangos hysbysiadau etholiad)
Adran 110 (manylion sydd i ymddangos ar gyhoeddiadau etholiad)(52)
Adran 111 (gwahardd talu canfaswyr)
Adran 112 (darparu arian at ddibenion anghyfreithlon)
Adran 113 (llwgrwobrwyo)(53)
Adran 114 (tretio)
Adran 115 (dylanwad gormodol)(54)
Adran 116 (hawliau credydwyr)Hepgorer paragraffau (b) ac (c).
Adran 118 (dehongli Rhan 2)(55)
Adran 119 (cyfrif amser at ddibenion Rhan 2)(56)

Yn is-adran (1)(b) ar ôl “disregarded” mewnosoder—

; and

(c)in computing any period referred to in section 96(1A) or 97(2A), as applied for the purposes of a referendum, any of the days so mentioned shall be disregarded.

Adran 167 (cais am ryddhad)(57)
Adran 168 (erlyniadau am arferion llwgr)(58)
Adran 169 (erlyniadau am arferion anghyfreithlon)(59)
Adran 170 (collfarn am arfer anghyfreithlon ar gyhuddiad o arfer llwgr, etc.
Adran 173(1)(a)(i), (2) a (3) (analluoedd yn dilyn collfarn o arfer llwgr neu anghyfreithlon) (60)Yn is-adran (1)(a)(i) ar ôl “Great Britain” mewnosoder “or at any referendum”.
Adran 174 (lliniaru a dileu etc.)(61)
Adran 175 (taliadau anghyfreithlon etc.)(62)Hepgorer is-adran (2).
Adran 176 (terfyn amser ar gyfer erlyniadau)
Adran 177 (treial diannod)

Yn lle “the local government Act” rhodder “the Local Authority (Conduct of Referendums) (Wales) Regulations 2008”.

Yn is-adran (1)(a) yn lle'r geiriau o “in the county” hyd at “adjoins”, rhodder “for the voting area in which the offence is alleged to have been committed”.

Adran 178 (erlyn am dramgwyddau a gyflawnir y tu allan i'r Deyrnas Unedig)(63)
Adran 179 (tramgwyddau gan gymdeithasau)
Adran 181(1) (Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus)(64)
Adran 185 (dehongli Rhan 3)(65)
Adran 199B (cyfieithiadau o ddogfennau penodol)(66)Yn is-adrannau (1), (5) a (7) ar ôl “local government election” rhodder “or referendum”. Hepgorer is-adran (4)(a).
Adran 200(1A) and (2) (hysbysiadau cyhoeddus, a datganiadau)(67)
Adran 202 (dehongli)(68)

Tabl 2 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000(69)

(1) Darpariaeth(2) Addasiad
Adran 10 (cynlluniau peilot ar gyfer etholiadau lleol yng Nghymru a Lloegr)(70)

Yn is-adran (2)—

(a)

ar ôl “Representation of the People Acts”, mewnosoder “or the Local Government Act 2000”, a

(b)

ym mharagraff (c) yn lle “candidates” rhodder “any campaign organiser within the meaning of regulation 6 of the Local Authorities (Conduct of Referendums) (Wales) Regulations 2008”.

Yn is-adran (3)—

(a)

ym mharagraff (b) yn lle “candidates” rhodder “campaign organisers”, a

(b)

yn lle “section 75(1) of the 1983 Act (restriction on third party election expenditure)” rhodder “regulation 6 of the Local Authorities (Conduct of Referendums) (Wales) Regulations 2008”.

Hepgorer is-adran (4).

Ar ddiwedd is-adran (7)(a) mewnosoder “or the Local Government Act 2000”.

Yn is-adran (11) yn lle'r geiriau ar ôl “means”, rhodder “a county or county borough council.”

Adran 12 (newidiadau mewn perthynas â phleidleisio absennol mewn etholiadau ym Mhrydain Fawr)Yn is-adran (1) ar y diwedd mewnosoder “; and as regards referendums”.
Atodlen 4 (pleidleisio absennol ym Mhrydain Fawr)(71)

Ym mharagraff 1(1), yn y diffiniad o “the appropriate rules” ar ddiwedd paragraff (b), mewnosoder—

, and

(c)in the case of a referendum, the Local Government Act Referendums Rules within the meaning of the Local Authorities (Conduct of Referendums) (Wales) Regulations 2008.

Ym mharagraffau 2 i 7, 7C a 7D, ac eithrio ym mharagraffau 3(1), 3(2), 3(4)(a)(i), 6(7), 7(4)(a) a 7(6)(a)(i), ar ôl “local government election”, “local government elections”, “elections” ac “election”, mewnosoder, fel y bo'r cyd-destun yn mynnu, “or a referendum”, “or referendums”, neu “or the referendum”.

Ym mharagraffau 3(1) a 3(2) yn lle “or at both” rhodder “or at referendums”.

Ym mharagraffau 3(4)(a)(i) a 7(6)(a)(i) yn lle “or both” rhodder “or referendums”.

Ym mharagraffau 6(7) a 7(4)(a) yn lle “or at both” rhodder “or at referendums”.

Tabl 3 Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000(72)

(1) Darpariaeth(2) Addasiad
Adran 6A (presenoldeb cynrychiolwyr y Comisiwn mewn etholiadau etc.)

Ar ôl is-adran (1)(b) mewnosoder—

;

(c)proceedings relating to a referendum under the Local Authorities (Conduct of Referendums) (Wales) Regulations 2008 which are the responsibility of the counting officer.

Adran 6B (arsylwi ar arferion gwaith gan gynrychiolwyr y Comisiwn)

Ar ôl is-adran (2) mewnosoder—

(2A) A representative of the Commission may also observe the working practices of a counting officer at a referendum under the Local Authorities (Conduct of Referendums) (Wales) Regulations 2008, and any person acting under the counting officer’s direction.

Adran 6C (arsylwyr achrededig: unigolion)Yn is-adran (1) ar ôl “applies” mewnosoder “or which is held under the Local Authorities (Conduct of Referendums) (Wales) Regulations 2008”.
Adran 6D (arsylwyr achrededig: sefydliadau)Yn is-adran (1) ar ôl “applies” mewnosoder “or which is held under the Local Authorities (Conduct of Referendums) (Wales) Regulations 2008”.
Adran 6E (presenoldeb ac ymddygiad arsylwyr)

Yn lle is-adran (4)(c) rhodder—

(c)in the case of any other proceedings at a referendum to which Part 7 applies, the relevant counting officer (within the meaning of section 6A);

(ca)in the case of any other proceedings at a referendum under the Local Authorities (Conduct of Referendums) (Wales) Regulations 2008, the counting officer;

Yn is-adran (4) yn lle “or (c)” rhodder “, (c) or (ca)”.

Tabl 4 Deddf Gweinyddu Etholiadau 2006(73)

(1) Darpariaeth(2) Addasiad
Adran 42 (mynediad at ddogfennau etholiad eraill)
Adran 43 (mynediad at ddogfennau etholiad eraill: torri rheoliadau)Yn is-adran (1)(a) ar ôl “section 42” mewnosoder “as applied by the Local Authorities (Conduct of Referendums) (Wales) Regulations 2008”.
Adran 44 (mynediad at ddogfennau etholiad eraill: atodol)

Yn is-adran (5) yn lle'r geiriau o “election documents” hyd at “Northern Ireland)” rhodder “referendum documents are such documents relating to a referendum”.

Ar ôl is-adran (7)(e) mewnosoder—

;

(f)in relation to a referendum, a voting area within the meaning of the Local Authorities (Conduct of Referendums) (Wales) Regulations 2008.

Adran 46 (swyddogion canlyniadau: cywiro gwallau gweithdrefnol)

Ar ôl is-adran (3)(b) mewosoder—

;

(c)a referendum.

Hepgorer is-adran (6).

Adran 69 (annog cyfranogi etholiadol)

Ar ôl is-adran (8)(b) mewnosoder—

;

(c)a counting officer at a referendum.

Tabl 5 Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001(74)

(1) Darpariaeth(2) Addasiad
Rheoliad 3 (dehongli)(75)

Ar ddiwedd paragraff (2)(b) mewnosoder—

, or

(c)in the case of a referendum, the corresponding rule in the Local Government Act Referendums Rules within the meaning of the Local Authorities (Conduct of Referendums) (Wales) Regulations 2008.

Rheoliad 4(1)(b) (ffurfiau) ac, i'r graddau â Ffurflen E yn Atodlen 3, (2)
Rheoliad 5 (cyfathrebu ceisiadau, hysbysiadau, etc.)(76)
Rheoliad 6 (llofnodion electronig a thystysgrifau cysylltiedig)(77)
Rheoliad 7 (copïau o ddogfennau)(78)
Rheoliad 8 (amser)(79)
Rheoliad 11 (ymyrryd â hysbysiadau)
Rheoliad 50 (dehongli Rhan 4)(80)
Rheoliad 51 (gofynion cyffredinol ar gyfer pleidlais absennol)(81)

Yn lle paragraff (4)(b) rhodder—

(b)whether it is made for all or any of parliamentary elections, local government elections or referendums.

Ym mharagraff (5)—

(a)

ar ôl “election”, ym mhob lle, mewnosoder “or referendum”, a

(b)

hepgorer “elections”.

Rheoliad 51A (darpariaeth ychwanegol ynglŷn â'r gofyniad bod rhaid i gais am bleidlais absennol gael ei lofnodi gan yr ymgeisydd)(82)
Rheoliad 51AA (gofyniad ychwanegol ar gyfer ceisiadau i bapurau pleidleisio gael eu hanfon i gyfeiriad gwahanol i'r un a nodir yn y cais)(83)
Rheoliad 51B (gofyniad ychwanegol ar gyfer ceisiadau i bapurau pleidleisio gael eu hanfon i gyfeiriad gwahanol i'r un a ddangosir yn y cofnod a gadwyd o dan baragraff 3(4) neu 7(6) o Atodlen 4)(84)
Rheoliad 52 (gofynion ychwanegol ar gyfer ceisiadau i benodi dirprwy)
Rheoliad 55 (gofynion ychwanegol ar gyfer ceisiadau am bleidlais drwy ddirprwy mewn perthynas ag etholiad penodol )(85)
Rheoliad 56 (dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau)(86)Ym mharagraffau (1) i (5) a (7)(b) ar ôl “election”, ym mhob lle, mewnosoder “or referendum”.
Rheoliad 57 (caniatáu neu wrthod ceisiadau)(87)Ym mharagraff (5) ar ôl “election” mewnosoder “or referendum”.
Rheoliad 58 (hysbysiad o apêl)
Rheoliad 59 (canslo penodiad dirprwy)
Rheoliad 61B (cofnod dulliau adnabod personol) (88)Ym mharagraff (3)(a) yn lle “any candidate or agent” rhodder “those”.
Rheoliad 62 (cofrestr a farciwyd ar gyfer gorsafoedd pleidleisio)(89)
Rheoliad 64 (dehongli Rhan 5)(90)Hepgorer y diffiniad o “agent”.
Rheoliad 66 (ffurf y datganiad pleidlais bost)Hepgorer paragraff (a).
Rheoliad 67 (personau sydd â hawl i fod yn bresennol mewn gweithrediadau pan ddyroddir papurau pleidlais bost)(91)
Rheoliad 68 (personau sydd â hawl i fod yn bresennol mewn gweithrediadau pan dderbynnir papurau pleidlais bost)(92)

Pan nad yw'r gweithrediadau ar gyfer pan ddyroddir pleidleisiau post a phan ddeuant i law yn cael eu cynnal ar y cyd rhwng rhagor nag un pôl yn unol â rheoliad 65 o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl fel y'i cymhwysir gan y Rheoliadau hyn:

Yn lle paragraffau (a) i (d) rhodder:

(a)the counting officer and his clerks,

(b)persons who by virtue of rule 35(2)(a) to (e) of the Local Government Referendums Rules within the meaning of the Local Authorities (Conduct of Referendum) (Wales) Regulations 2008 are entitled to attend at the counting of the votes.

Rheoliad 69 (asiantau ymgeiswyr y caniateir iddynt fod yn bresennol mewn gweithrediadau pan dderbynnir papurau pleidlais bost )

Ym mharagraff (8) yn lle “candidates or their agents” rhodder “persons entitled to be present by virtue of regulation 68”.

Pan nad yw'r gweithrediadau ar gyfer pan ddyroddir pleidleisiau post a phan ddeuant i law yn cael eu cynnal ar y cyd rhwng rhagor nag un pôl yn unol â rheoliad 65 o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl fel y'i cymhwysir gan y Rheoliadau hyn:

Hepgorer paragraffau (1) i (7).

Rheoliad 70 (hysbysu'r gofyniad am gyfrinachedd)
Rheoliad 71 (amser pan ddyroddir papurau pleidlais bost)
Rheoliad 72 (y weithdrefn pan ddyroddir papur pleidlais bost)(93)
Rheoliad 73 (gwrthod dyroddi papur pleidlais bost)(94)
Rheoliad 74 (amlenni)(95)
Rheoliad 75 (selio'r rhestrau rhifau cyfatebol a gwblhawyd, a diogelwch y rhestrau arbennig)(96)
Rheoliad 76 (Danfon allan y papurau pleidlais bost)
Rheoliad 77 (papurau pleidlais bost a ddifethir)(97)
Rheoliad 78 (papurau pleidlais bost a gollir)(98)
Rheoliad 79(3) i (5) (dulliau amgen o ddychwelyd y papurau pleidlais bost neu'r datganiad pleidlais bost)(99)Ym mharagraff (5) yn lle “polling agents” rhodder “polling observers (if any)”.
Rheoliad 80 (hysbysiad o agor amlenni papurau pleidlais bost)

Pan nad yw'r gweithrediadau ar gyfer pan ddyroddir pleidleisiau post a phan ddeuant i law yn cael eu cynnal ar y cyd rhwng rhagor nag un pôl yn unol â rheoliad 65 o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl fel y'i cymhwysir gan y Rheoliadau hyn:

Ym mharagraff (1) yn lle “each candidate” rhodder “those persons who by virtue of rule 35(2)(a) to (e) of the Local Government Act Referendums Rules within the meaning of the Local Authorities (Conduct of Referendums) (Wales) Regulations 2008 are entitled to attend at the counting of the votes”.

Hepgorer paragraff (2)(b).

Rheoliad 81 (blychau a chynwysyddion pleidleisiau post)(100)Ym mharagraffau (3) a (4) yn lle “the agents” rhodder “those”.
Rheoliad 82 (derbyn y prif amlenni)
Rheoliad 83 (agor blwch pleidleisio y pleidleiswyr drwy'r post)Ym mharagraff (1) yn lle “the agents” rhodder “such of those who are entitled to attend as are present”.
Rheoliad 84 (agor y prif amlenni)(101)
Rheoliad 84A (cadarnhau bod y datganiadau pleidlais bost wedi dod i law)(102)
Rheoliad 85 (gweithdrefn mewn perthynas â datganiadau pleidlais bost)(103)Ym mharagraff (3) yn lle “agents” rhodder “counting observers or agents or both (as the case may be)”.
Rheoliad 85A (gweithdrefn mewn perthynas â datganiadau pleidlais bost: gwirio'r moddion adnabod personol)(104)Ym mharagraff (4) yn lle “agents” rhodder “counting observers or agents or both (as the case may be)”.
Rheoliad 85B (Datganiadau Pleidlais Bost: gwirio moddion adnabod personol ychwanegol)(105)Ym mharagraffau (3)(a) ac (c) a (4) yn lle“agents” rhodder “counting observers or agents or both (as the case may be)”.
Rheoliad 86 (agor yr amlenni papurau pleidleisio)
Rheoliad 86A (adfer y papurau pleidlais bost sydd wedi eu canslo)(106)Ym mharagraff (2)(b) ac (f) yn lle “agents” rhodder “counting observers or agents or both (as the case may be)”.
Rheoliad 87 (rhestrau o'r papurau pleidlais bost a wrthodwyd)
Rheoliad 88 (gwirio'r rhestrau a gedwir o dan reoliad 87)
Rheoliad 89 (selio cynwysyddion)(107)
Rheoliad 91 (anfon dogfennau ymlaen)(108)

Ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

(2A) In the case of a referendum, the documents to be forwarded under paragraph (1) are to be forwarded to the registration officer of the local authority by or in respect of which the referendum is held.

Rheoliad 116 (dehongli Rhan 7)(109)
Rheoliad 118 (archwilio dogfennau sy'n agored i'w harchwilio gan y cyhoedd)(110)
Rheoliad 119 (amodau ar ddefnyddio, cyflenwi a datgelu dogfennau sy'n agored i'w harchwilio gan y cyhoedd)(111)
Yn Atodlen 3, Ffurf E(112)

Yn lle “REPRESENTATION OF THE PEOPLE ACTS” rhodder “*[[insert name of council] REFERENDUM]”.

Hepgorer “Constituency” a “Polling District”.

Yn lle “European Parliamentary electoral region” rhodder “Referendum voting area ... ... ... ...”.

Yn lle'r geiriau o “*[who qualifies” hyd at “electoral region]]”, rhodder “to vote for that person at the referendum on (insert date)”.

Hepgorer “*This proxy appointment is not valid until ... ... ... ...]” a “*[This proxy appointment remains valid until ... ... ... ...]”.

Yn lle paragraff 2 o'r nodyn rhodder—

2.  Your appointment as proxy will be for the referendum only. You have the right to vote as proxy only at the referendum specified in the proxy paper..

Rheoliad 11

ATODLEN 5Cymhwyso, gydag addasiadau pellach, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 mewn perthynas â Deisebau Refferendwm

(1) Darpariaeth(2) Addasiadau pellach
Adran 128 (cyflwyno deiseb sy'n cwestiynu etholiad lleol)(113)

Yn is-adran (1)—

(a)

yn lle “under the local government Act” rhodder “under the Local Authorities (Conduct of Referendums) (Wales) Regulations 2008”, a

(b)

hepgorer “either” a'r geiriau o “, or by a person” hyd y diwedd.

Yn is-adran (2), yn lle'r geiriau o'r dechrau hyd at “any” rhodder “Any”.

Adran 129 (amser ar gyfer cyflwyno neu ddiwygio deiseb sy'n cwestiynu etholiad lleol)

Yn is-adran (1) yn lle “under the local government Act” rhodder “under the Local Authorities (Conduct of Referendums) (Wales) Regulations 2008”.

Yn is-adran (2)(b) yn lle “a candidate elected at the election” rhodder “any person”.

Yn is-adran (3)(b) yn lle “the candidate elected at the election, or by an agent of the candidate or with the privity of the candidate or his election agent” rhodder “any person”.

Hepgorer is-adrannau (4) a (5).

Yn lle is-adran (7) rhodder—

(7) Subsections (3) and (6) apply notwithstanding that the act constituting the alleged illegal practice amounted to a corrupt practice.

Hepgorer is-adran (9).

Adran 130 (llys etholiad ar gyfer etholiad lleol yng Nghymru a Lloegr, a man cynnal prawf )(114)

Yn is-adran (1) yn lle “in England and Wales under the local government Act” rhodder “in Wales under the Local Authorities (Conduct of Referendums) (Wales) Regulations 2008”.

Yn is-adran (3)(a) yn lle “in England and Wales under the local government Act” rhodder “in Wales under the Local Authorities (Conduct of Referendums) (Wales) Regulations 2008”.

Adran 131 (llety ar gyfer y llys a phresenoldeb yn y llys)
Adran 132 (tâl a lwfansau)
Adran 133 (ad-daliadau o dan adrannau 131 a 132)
Adran 136 (sicrwydd ar gyfer costau)(115)Yn is-adran (2)(b) yn lle “petition questioning an election under the local government Act” rhodder “referendum petition within the meaning of regulation 11 of the Local Authorities (Conduct of Referendums) (Wales) Regulations 2008”.
Adran 137 (deiseb yn bwnc dadl)(116)
Adran 138 (rhestr o ddeisebau)(117)

Yn is-adran (1)(a) yn lle “all election petitions” rhodder “all referendum petitions within the meaning of regulation 11 of the Local Authorities (Conduct of Referendums) (Wales) Regulations 2008.

Yn is-adran (3) yn lle'r geiriau o'r dechrau hyd at “candidates” rhodder “Two or more persons”.

Yn is-adran (4)—

(a)

yn lle “the same election or to elections under the local government Act” rhodder “the same referendum or referendums under the Local Authorities (Conduct of Referendums) (Wales) Regulations 2008”, a

(b)

yn lle “the election list”, yn y ddau le, rhodder “the list made out under subsection (1)”.

Adran 139 (profi deiseb)

Yn is-adran (1) hepgorer “, in the case of a parliamentary election petition, 14 days and in any other case,”.

Hepgorer is-adran (3).

Yn lle is-adran (5) rhodder—

(5) On the trial of a petition, the respondent may give evidence in the same manner as if he had presented a petition against the referendum.

Yn lle is-adran (6) rhodder—

(6) Where the petition relates to a referendum as regards which, by reason of an equality of votes found at the count, the result was determined by lot, that determination is to be effective also for the purposes of the petition unless subsection (6A) applies.

(6A) This subsection applies where the court disallows any vote cast in the referendum; and in any such case—

(a)the determination referred to in subsection (6) is to have no effect, and

(b)the court is to declare the result of the referendum.

(6B) Where—

(a)the petition relates to a referendum at which no equality of votes was found at the count, and

(b)the court—

(i)disallows any vote cast in the referendum, and

(ii)determines that an equality of votes was cast in the referendum,

the result of the referendum is to be determined by the court by lot..

Adran 140 (tystion)(118)
Adran 141 (dyletswydd i ateb cwestiynau perthnasol)(119)
Adran 143 (treuliau tystion)
Adran 145 (cau treial deiseb etholiad lleol)(120)

Yn lle is-adran (1) rhodder—

(1) At the conclusion of the trial of a petition questioning a referendum under the Local Authorities (Conduct of Referendums) (Wales) Regulations 2008 the election court is to determine—

(a)in the case of a petition presented on the ground mentioned in regulation 11(1)(a) of those Regulations, whether the result of the referendum was or was not in accordance with the votes cast in the referendum,

(b)in the case of a petition presented on the ground mentioned in regulation 11(1)(b) or (c) of those Regulations, whether the referendum was void.

(1A) Following a determination under subsection (1)(a), the election court must, as the circumstances require, confirm or reverse the result of the referendum.

Yn is-adran (3)—

(a)

yn lle “sections 158 and” rhodder “section”, a

(b)

yn lle'r geiriau o “for which” hyd y diwedd rhodder “by which or in respect of which the referendum was held”.

Yn is-adran (6) yn lle “for which the election was held” rhodder “by which or in respect of which the referendum was held”.

Adran 146 (achos arbennig i'w benderfynu gan yr Uchel Lys)

Hepgorer is-adran (2).

Yn is-adran (3) yn lle'r geiriau o'r dechrau hyd at “local government Act” rhodder—

(3) In the case of a referendum petition under the Local Authorities (Conduct of Referendums) (Wales) Regulations 2008,.

Adran 147 (tynnu deiseb yn ôl)
Adran 154 (costau deiseb)
Adran 155 (esgeuluso neu wrthod talu costau)
Adran 156 (darpariaeth bellach ynghylch costau)(121)
Adran 157 (apeliadau ac awdurdodaeth)(122)Hepgorer is-adran (4).
Adran 160(1) a (3) (personau yr adroddir eu bod yn euog yn bersonol o arferion llwgr)(123)Hepgorer is-adran (1)(b).
Adran 161 (Ynadon Heddwch)(124)
Adran 162 (aelod o'r proffesiwn cyfreithiol a phroffesiynau penodol eraill)(125)
Adran 163 (deiliad trwydded neu dystysgrif o dan y Deddfau Trwyddedu)(126)
Adran 164(1) and (2) (dirymu etholiad oherwydd llygredd cyffredinol etc.)

Yn is-adran (1)—

(a)

yn lle “election”, yn y ddau le cyntaf y mae'r gair hwnnw yn ymddangos, rhodder “referendum”,

(b)

yn lle “the election of any person at that election” rhodder “a particular outcome in relation to the question asked in the referendum”, ac

(c)

ym mharagraffau (a) a (b) mewnosoder “, the referendum, if that outcome was achieved, is void”.

Yn is-adran (2) yn lle “An election” rhodder “A referendum”.

Adran 167 (cais am ryddhad)(127)
Adran 180 (tystiolaeth drwy dystysgrif o gynnal etholiad)Hepgorer is-baragraff (ii) a'r gair yn union o'i flaen.
Adran 183 (costau)(128)
Adran 184 (cyflwyno hysbysiadau)(129)
Adran 185 (dehongli Rhan 3)(130)

Rheoliad 11

ATODLEN 6Addasiadau i'r Rheolau Deisebau Etholiadau 1960

(1) darpariaeth a addesir(2) Addasiad
Rheol 2(2)(131)

Ar ôl y diffiniad o “the Act” mewnosoder—

“the 2008 Regulations” means the Local Authorities (Conduct of Referendums) (Wales) Regulations 2008;.

Ar ôl y diffiniad o “local election petition” mewnosoder—

“referendum petition” means a petition under the 2008 Regulations;.

Yn y diffiniad o “petition” ar y diwedd mewnosoder “or a referendum petition”.

Yn lle'r diffiniad o “constituency” rhodder—

“constituency” in relation to—

(a)

a local election petition, means the local government area to which the petition relates;

(b)

a referendum petition, means the local government area in which the referendum is held;.

Ar ôl y diffiniad o “returning officer” mewnosoder “and, in relation to a referendum petition, any reference to a provision of the Act must be construed as a reference to that provision as applied by the 2008 Regulations.”

Rheol 2(3)(132)Ar ôl “local government Act” mewnosoder “and referendums under the 2008 Regulations”.
Rheol 4(1)(133)

Hepgorer is-baragraff (a).

Yn lle is-baragraff (b) rhodder—

(b)the date and result of the referendum to which the petition relates;.

Yn is-baragraff (c) yn lle'r geiriau o “petition” hyd at “the Act” rhodder “referendum petition”.

Rheol 10(134)Hepgorer.
Rheol 12(3)(135)Yn lle “the election” rhodder “the referendum”.
Rheol 14(2)(136)Yn lle “the election may” rhodder “the referendum may”.
Rheol 16(3)(137)Yn lle “the election may” rhodder “the referendum may”.
Rheol 18(138)Ar ôl “local election petition” mewnosoder “or a referendum petition”.
Yr Atodlen(139)

Yn lle “a Parliamentary (or Local Government) Election for (state place) ... ... ... ...” rhodder “a referendum in (state area)”.

Ym mharagraff 1—

(a)

yn lle “election”, yn y man cyntaf y mae'r gair hwnnw yn digwydd, rhodder “referendum”,

(b)

hepgorer “(or was a candidate at the above election) (or in the case of a parliamentary election claims to have had a right to be elected or returned at the above election)”.

Yn lle paragraff 2 rhodder—

2.  That referendum was held on the [insert day] day of [insert month] [insert year].

Ym mharagraff 4 hepgorer “in the case of a petition mentioned in section 122(2) or (3) or”.

Yn lle paragraff (1) o'r Deisyfiad rhodder—

(1) That it may be determined [that the result of the referendum was not in accordance with the votes cast]* [that the referendum is avoided]* [that the referendum is tainted as mentioned in regulation 13(3) of the 2008 Regulations]*.

  • * Include or omit as the circumstances require.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn ailddeddfu rheoliadau o'r un enw a wnaed yn 2004 (O.S. 2004/870 (Cy.85)) (“Rheoliadau 2004”), gyda diwygiadau angenrheidiol i ddarparu ar gyfer cynnal refferenda sydd i'w cynnal o dan adran 27 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22) (“Deddf 2000”), neu yn rhinwedd rheoliadau neu orchymyn a wneir o dan unrhyw ddarpariaeth o Ran II o Ddeddf 2000. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru. Bydd y refferenda yn ymwneud â'r cwestiwn p'un ai trefniadau gweithrediaeth o faer a chabinet, gweithrediaeth o faer a rheolwr y cyngor neu weithrediaeth o arweinydd a chabinet y dylai cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol eu mabwysiadu. Mae'r Rheoliadau hefyd yn rhagnodi ffurfiau penodol sydd i'w defnyddio mewn refferendwm o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993.

Y prif newidiadau a wneir yn Rheoliadau 2004 yw, yn gyntaf, gwneud y newidiadau angenrheidiol i gyflawni'r newidiadau a wnaed gan Ddeddf Gweinyddu Etholiadau 2006 (p. 22) (“Deddf 2006”) yn y cyd-destun hwn, ac yn ail, pennu'r rheolau yn llawn ar gyfer cynnal refferenda.

Mae rheoliad 3 ac Atodlen 1 yn pennu ffurf y geiriau yn y datganiad a'r cwestiwn sydd i'w ofyn yn y refferendwm.

Mae rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol rhoi hysbysiad cyhoeddus o gynigion yr awdurdod lleol o dan adran 25 o Ddeddf 2000 neu, yn ôl y digwydd, o dan reoliad 17 neu 19 o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Refferenda) (Deisebau a Chyfarwyddiadau) (Cymru) 2001 (“y Rheoliadau Deisebau a Chyfarwyddiadau”), o dan reoliadau o dan adran 30 neu 33 o Ddeddf 2000, neu o dan orchymyn o dan adran 36 o'r Ddeddf honno. Rhaid i'r hysbysiad bennu dyddiad y refferendwm, amryw o faterion sy'n gysylltiedig â chynnal y refferendwm a'r modd y bydd cynigion yr awdurdod lleol ar gael i'w harchwilio gan y cyhoedd. Mae'r rheoliad hwn hefyd yn caniatáu i awdurdodau lleol ddarparu gwybodaeth ffeithiol am eu cynigion, amlinelliad o'r cynigion wrth gefn sydd ganddynt a'r refferendwm cyn belled â bod yr wybodaeth wedi ei chyflwyno yn deg.

Mae rheoliad 5 yn gosod cyfyngiadau ar y deunydd y gellir ei gyhoeddi, ei arddangos neu ei ddosbarthu gan neu ar ran yr awdurdod yn ystod y cyfnod o 28 diwrnod cyn dyddiad y refferendwm

Mae rheoliad 6 yn gosod “cyfyngiad treuliau refferendwm” ar y swm y bydd modd ei wario fel “treuliau refferendwm” (diffinnir y ddau derm yn rheoliad 6(1), y mae Atodlen 2 yn berthnasol iddo). Mae swm y treuliau refferendwm yn cael ei uwchraddio i adlewyrchu'r chwyddiant rhwng gwneud Rheoliadau 2004 a gwneud y Rheoliadau hyn. O dan reoliad 6(3) mae'n dramgwydd gwario dros ben y cyfyngiad treuliau refferendwm.

Mae rheoliad 7 yn darparu bod symiau sy'n berthnasol i ddefnyddio rhai mathau o eiddo, gwasanaethau a chyfleusterau i'w trin fel pe baent wedi eu gwario fel treuliau refferendwm at ddibenion rheoliad 6.

Mae rheoliad 8 yn darparu ar gyfer cynnal refferendwm. At y diben hwn yr oedd Rheoliadau 2004 yn cymhwyso Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) 1986 (O.S. 1986/2214) gydag addasiadau. Mae'r Rheoliadau hyn yn nodi'r rheolau ar gyfer cynnal refferendwm yn llawn (Rheolau Refferenda'r Ddeddf Llywodraeth Leol), yn Atodlen 3. Rhoddir crynodeb o'r newidiadau sy'n adlewyrchu Deddf 2006 ar ddiwedd y nodyn hwn. Cymhwysir deddfwriaeth etholiadol arall, gydag addasiadau, i hwyluso'r modd y cynhelir refferenda (fel a nodir yn Nhablau 1 i 5 o Atodlen 4).

Mae rheoliad 9 yn pennu pwy sydd i fod yn swyddog cyfrif yn y refferendwm.

Mae rheoliad 10 yn ymdrin â chanlyniad y refferendwm, yn ddarostyngedig i'r darpariaethau sy'n caniatáu herio canlyniad y refferendwm.

Mae rheoliad 11 yn pennu'r seiliau dros herio a'r cyfnod y bydd yn rhaid gwneud unrhyw ddeiseb refferendwm oddi mewn iddo. Mae hefyd yn nodi'r gweithdrefnau sy'n gymwys i ddeisebau refferendwm ac yn cymhwyso gydag addasiadau, drwy Atodlenni 5 a 6, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 a Rheolau Deisebau Etholiadau 1960. Mae rheoliad 12 yn ymdrin â chanlyniadau di-oed dwyn deiseb refferendwm (p'un a gaiff yr awdurdod gweithredu neu barhau i weithredu trefniadau gweithrediaeth newydd yn unol â'r refferendwm ai peidio). Mae rheoliad 13 yn darparu ar gyfer y sefyllfa wedi i lys etholiad benderfynu deiseb refferendwm.

Mae rheoliad 14 yn darparu ar gyfer anwybyddu diwrnodau penodol wrth gyfrifo cyfnodau penodol o amser at ddibenion y Rheoliadau hyn.

Mae rheoliad 15 yn eithrio hysbysebion sy'n ymwneud yn benodol â'r refferendwm rhag rheoliadau o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8) sy'n rheoli arddangos hysbysebion.

Mae rheoliad 16 yn darparu bod mangreoedd a ddefnyddir mewn perthynas â'r refferendwm ar gyfer cyfarfodydd cyhoeddus neu ar gyfer cymryd y bleidlais i'w trin fel mangreoedd heb eu meddiannu at ddibenion trethu.

Mae Atodlen 1 yn rhagnodi'r datganiad a ffurf y cwestiwn sydd i'w ofyn yn y refferendwm.

Mae Atodlen 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch materion sy'n berthnasol i dreuliau refferendwm.

Mae Atodlen 3 yn cynnwys Rheolau Refferenda'r Ddeddf Llywodraeth Leol.

Mae Atodlen 4 yn cymhwyso deddfwriaeth etholiadol gydag addasiadau i hwyluso'r modd y cynhelir refferenda. Cymhwysir darpariaethau o'r deddfiadau a'r is-ddeddfwriaeth canlynol: Deddfau Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (p. 2), 1985 (p. 50) a 2000 (p. 2), Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (p. 41), Deddf 2006 a Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 (O.S. 2001/341).

Mae Atodlen 5 yn cymhwyso gydag addasiadau ddarpariaethau Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 at ddibenion dwyn deiseb refferendwm i herio'r canlyniad mewn refferendwm.

Mae Atodlen 6 yn gwneud addasiadau yn Rheolau Deisebau Etholiadau 1960, pan gymhwysir hwy i refferenda gan reoliad 11(9).

Mae'r darpariaethau yn y Rheolau Refferenda'r Ddeddf Llywodraeth Leol (“y Rheolau”) sy'n adlewyrchu newidiadau a wnaed gan Ddeddf 2006 yn cynnwys y canlynol.

Mae'r Rheolau'n adlewyrchu mesurau diogelwch newydd a gyflwynwyd gan Ddeddf 2006. Darperir ar gyfer nodau diogelwch ar bapurau pleidleisio, yn ogystal â nodau adnabod unigryw. Disodlir bonion papurau pleidleisio gan restrau rhifau cyfatebol. Gosodir gofynion bod pleidleiswyr post a dirprwyon sy'n pleidleisio drwy'r post yn darparu eu llofnod a'u dyddiad geni wrth ddychwelyd papurau pleidlais bost.

Mae'r Rheolau'n adlewyrchu newidiadau yn yr amgylchiadau pan ganiateir i berson roi pleidlais sydd wedi ei thendro. Cyflwynir gofynion newydd o ran yr wybodaeth a hygyrchedd yr wybodaeth sydd i'w darparu gan swyddogion cyfrif i bleidleiswyr.

Mae'r Rheolau yn adlewyrchu newidiadau a wnaed ynglŷn â'r personau y caniateir mynediad iddynt i orsaf bleidleisio ac i'r cyfrif i arsylwi ar refferenda.

Gwneir diwygiadau i ddarparu ar gyfer trosglwyddo gwybodaeth i swyddog llywyddu am newidiadau yn y gofrestr etholwyr sy'n dod i rym ar ddiwrnod y pleidleisio. Gwneir diwygiadau o ganlyniad i gyflwyno cynllun ar gyfer cofrestru etholwyr penodol yn ddienw.

Mae'r Rheolau yn adlewyrchu newidiadau a wnaed ynglŷn â chadw ac archwilio dogfennau refferendwm ar ôl y pleidleisio.

Mae'r ffurflenni newydd a atodir i'r Rheolau yn adlewyrchu'r newidiadau a wnaed gan Ddeddf 2006.

Paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn ac y mae ar gael o'r Is-adran Polisi Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

(2)

2000 p.22; mewnosodwyd adrannau 45(8A) i (8D) a diwygiwyd adran 45(9) gan baragraff 18 o Atodlen 21 i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (p.41); diwygiwyd adran 105(6) a mewnosodwyd adran 105(6A) gan baragraff 14 o Atodlen 3 i Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (p.26).

(3)

Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

(10)

Gweler Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Newid Trefniadau Gweithrediaeth a Threfniadau Amgen) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/3158 (Cy.275)).

(12)

1985 c. 50; diwygiwyd y diffiniadau gan adran 3 o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd (Diwygio) 1986 (p.58) o ganlyniad i ailenwi Cynulliad Ewrop yn Senedd Ewrop.

(14)

O.S. 2001/2292 (Cy.180) fel y'i diwygiwyd gan O.S.2003/398 (Cy.55).

(15)

1972 p.70.

(16)

Ceir diffiniad o “petition organiser” yn rheoliad 3 o'r Rheoliadau Deisebau a Chyfarwyddiadau. O ran dilysrwydd deisebau, gweler rheoliad 9(1) o'r Rheoliadau hynny. O ran deisebau cyfunedig, deisebau cyfansoddol a deisebau wedi'r cyhoeddiad, ceir diffiniadau perthnasol yn rheoliad 3 o'r Rheoliadau hynny.

(17)

1990 p.42. Diwygiwyd adran 201, sy'n cynnwys y diffiniad o “programme service”, gan adran 360 o Ddeddf Cyfathrebu 2003 (p.21) ac Atodlen 19 i'r Ddeddf honno.

(18)

1983 p.2; rhoddwyd adran 13 yn lle adran 13 fel y'i deddfwyd yn wreiddiol, gan baragraff 6 o Atodlen 1 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000 (p.2).

(19)

Rhoddwyd adran 10 yn ogystal ag adran 10A yn lle adran 10 fel y'i deddfwyd yn wreiddiol, gan baragraff 4 o Atodlen 1 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000 (p.2) a diwygiwyd hi gan baragraffau 5 a 105 o Atodlen 1 i Ddeddf Gweinyddu Etholiadau 2006 (p.22).

(20)

2003 p.44.

(21)

1983 p.2; mewnosodwyd is-adran (1A) gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994, adran 66(6), Atodlen 16, paragraff 68(7).

(23)

1971 p.80.

(24)

O.S. 1992/666 fel y'i diwygiwyd gan baragraff 233 o Atodlen 22 i Ddeddf Amgylchedd 1995 (p.25) ac O.S. 1994/2351, 1996/525, 1997/2971, 1999/1810, 2001/1149, 2001/4050, 2003/2155 a 2005/3050.

(25)

1988 p.41.

(26)

Gweler Rheoliadau Deddf Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 O.S. 2001/341 (diwygiwyd gan O.S. 2001/1700, 2002/1871, 2004/226, 2006/752 a 2006/2910).

(27)

Mewnosodwyd adran 13B o Ddeddf 1983 gan baragraff 6 o Atodlen 1 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000 (p.2) a diwygiwyd yr adran honno gan adran 11(3) o Ddeddf Gweinyddu Etholiadau 2006 (p.22). Mewnosodwyd is-adrannau (3B) a (3D) o adran 13B gan adran 11(4) o Ddeddf Gweinyddu Etholiadau 2006 (p.22).

(28)

Diwygiwyd is-adrannau (1), (2) a (3) o adran 66 o Ddeddf 1983 gan baragraffau 69, 82, 86(a) a (b) a 96 o Atodlen 1 i Ddeddf Gweinyddu Etholiadau 2006 (p.22); diwygiwyd is-adran (6) gan baragraff 3 o Atodlen 3 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985 (p.50).

(29)

Gweler rheoliad 84A o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 O.S. 2001/341 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2006/2901.

(30)

Mewnosodwyd adrannau 6A i 6F o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (p.41) gan adran 29 o Ddeddf Gweinyddu Etholiadau 2006 (p.22).

(31)

Gweler rheoliadau 85 ac 85A o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 (O.S. 2001/341), a fewnosodwyd gan O.S. 2006/2910.

(32)

1983 p.2.

(33)

Fel y'i diwygiwyd gan baragraff 12 o Atodlen 4 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985 (p.50), paragraff 68 o Atodlen 16, ac Atodlen 18, i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p.19) a pharagraff 6 o Atodlen 21 i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (p.41).

(34)

Fel y'i diwygiwyd gan baragraff 14 o Atodlen 4 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985 (p.50).

(35)

1983 p.2.

(36)

Rhoddwyd Adran 13B (ynghyd ag adrannau 13 ac 13A) yn lle adran 13 fel y'i deddfwyd yn wreiddiol gan baragraff 6 o Atodlen 1 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000 (p.2); diwygiwyd adran 13B gan adran 11 o Ddeddf Gweinyddu Etholiadau 2006 (p.22).

(37)

Diwygiwyd adran 31 gan Atodlen 17 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1985 (p.50), adran 66(6) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 a pharagraff 68 o Atodlen 16 i'r Ddeddf honno, adran 237 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (p.40) a Rhan I o Atodlen 13 iddi, paragraff 2 o Atodlen 3 i Ddeddf Awdurdod Llundain Fwyaf 1999 (p.29) a pharagraff 108 o Atodlen 1 i Ddeddf Gweinyddu Etholiadau 2006 (p.22).

(38)

Diwygiwyd is-adran (4) gan Atodlen 17 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1985 (p.51) a chan adran 66 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 a pharagraff 68(9) o Atodlen 16 i'r Ddeddf honno.

(39)

Diwygiwyd adran 47 gan O.S. 1991/1728 a pharagraff 6 o Atodlen 21 i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (p.41).

(40)

Mewnosodwyd is-adran (4A) gan baragraff 7 o Atodlen 1 i Ddeddf Gweinyddu Etholiadau 2006 (p.22); amnewidiwyd is-adran (5) gan O.S. 1995/1948 a'i diwygio gan baragraff 12 o Atodlen 1 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000 (p.2).

(41)

Diwygiwyd adran 61 gan baragraff 2 of Atodlen 2, ac Atodlen 5, i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985 (p.50), paragraff 10 o Atodlen 3 i Ddeddf Awdurdod Llundain Fwyaf 1999 (p.29), paragraff 83 o Atodlen 27 i Ddeddf Partneriaethau Sifil 2004 (p.33) ac adran 38(3) o Ddeddf Gweinyddu Etholiadau 2006 (p.22).

(42)

Mewnosodwyd adran 62A gan adran 40 o Ddeddf Gweinyddu Etholiadau 2006 (p.22).

(43)

Amnewidiwyd adran 63 gan baragraff 19 o Atodlen 4 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985 (p.50) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2001/1149 ac adrannau 7, 41(8) a 46(6) o Ddeddf Gweinyddu Etholiadau 2006 (p.22).

(44)

Diwygiwyd adran 65 gan baragraff 2 o Atodlen 3 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985 (p.50) a pharagraffau 72 a 96 o Atodlen 1 i Ddeddf Gweinyddu Etholiadau 2006 (p.22).

(45)

Diwygiwyd adran 66 gan baragraff 3 o Atodlen 3 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985 (p.50), paragraff 11 o Atodlen 3 i Ddeddf Awdurdod Llundain Fwyaf 1999 (p.29) a pharagraffau 82, 86 a 96 o Atodlen 1 i Ddeddf Gweinyddu Etholiadau 2006 (p.22).

(46)

Mewnosodwyd adran 66A gan baragraffau 3 a 6 o Atodlen 6 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000 (p.2).

(47)

Diwygiwyd adran 92 gan baragraff 35 o Atodlen 20 i Ddeddf Darlledu 1990 (p.42) a pharagraff 61 o Atodlen 17 i Ddeddf Cyfathrebu 2003 (p.21).

(48)

Diwygiwyd 94 gan baragraff 36 o Atodlen 4 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985 (p.50).

(49)

Rhoddwyd adran 96 yn lle adran 96 fel y'i deddfwyd yn wreiddiol, gan baragraff 38 o Atodlen 4 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985 (p.50), a diwygiwyd hi gan baragraff 11 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31) a pharagraff 29 o Atodlen 3 i Ddeddf Awdurdod Llundain Fwyaf 1999 (p.29).

(50)

Diwygiwyd adran 97 gan baragraff 39 o Atodlen 4 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985 (p.50) a Rhan 1 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 (p.60).

(51)

Diwygiwyd is-adran (2) gan baragraff 5 o Atodlen 3 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985 (p.50).

(52)

Rhoddwyd adran 110 yn lle adran 110 fel y'i deddfwyd yn wreiddiol, gan baragraff 14 of Atodlen 18 i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (p.41).

(53)

Diwygiwyd adran 113 gan baragraff 30 of Atodlen 3 i Ddeddf Awdurdod Llundain Fwyaf 1999 (p.29).

(54)

Diwygiwyd adran 115 gan adran 39(1) o Ddeddf Gweinyddu Etholiadau 2006 (p.22).

(55)

Diwygiwyd adran 118 gan baragraff 43 o Atodlen 4 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985 (p.50), adran 135 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (p.41) a pharagraff 15 o Atodlen 18 i'r Ddeddf honno, a pharagraffau 119 a 133 o Atodlen 1 i Ddeddf Gweinyddu Etholiadau 2006 (p.22).

(56)

Diwygiwyd adran 119 gan adran 19(4) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985 (p.50) a pharagraffau 49 a 51(1) o Atodlen 1 i Ddeddf Gweinyddu Etholiadau 2006 (p.22).

(57)

Diwygiwyd adran 167 gan baragraff 56 o Atodlen 4 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985 (p.50) a pharagraff 18 o Atodlen 18 i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (p.41).

(58)

Diwygiwyd adran 168 gan baragraff 8 o Atodlen 3 a pharagraff 57 o Atodlen 4 ac Atodlen 5 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985 (p.50) a pharagraff 121 o Atodlen 1 i Ddeddf Gweinyddu Etholiadau 2006 (p.22).

(59)

Diwygiwyd adran 169 gan baragraff 9 o Atodlen 3 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985 (p.50).

(60)

Rhoddwyd adran 173 yn lle'r adran 173 fel y'i deddfwyd yn wreiddiol, gan adran 136 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (p.41), a diwygiwyd hi gan baragraff 122 o Atodlen 1 i Ddeddf Gweinyddu Etholiadau 2006 (p.22).

(61)

Diwygiwyd adran 174 gan baragraff 18 o Atodlen 18 i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (p.41).

(62)

Diwygiwyd adran 175 gan baragraff 10 o Atodlen 3 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985 (p.50) a pharagraff 6 o Atodlen 21 i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (p.41).

(63)

Rhoddwyd adran 178 yn lle adran 178 fel y'i deddfwyd yn wreiddiol, gan baragraff 62 o Atodlen 4 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985 (p.50).

(64)

Diwygiwyd is-adran (1) gan baragraff 63 o Atodlen 4 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985 (p.50).

(65)

Diwygiwyd adran 185 gan baragraff 10 o Atodlen 17 i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (p.41) a pharagraffau 86 ac 87 o Atodlen 6 i Ddeddf Trwyddedu 2003 (p.17).

(66)

Mewnosodwyd adran 199B gan adran 36 o Ddeddf Gweinyddu Etholiadau 2006 (p.22).

(67)

Rhoddwyd is-adran (1A), ynghyd ag is-adran (1) yn lle is-adran (1) fel y'i deddfwyd yn wreiddiol, gan baragraff 68 o Atodlen 4 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985 (p.50).

(68)

Diwygiwyd adran 202 gan Ran 1 o Atodlen 2 a pharagraff 70 o Atodlen 4 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985 (p.50), Deddf Cyfraith Statud (Diddymiadau) 1993 (p.50), O.S. 1995/1948, yr Atodlen i Ddeddf Swyddogion y Gyfraith 1997 (p.60), paragraff 38 o Atodlen 3 i Ddeddf Awdurdod Llundain Fwyaf 1999 (p.29), paragraff 22 o Atodlen 1 a pharagraffau 3 a 9 o Atodlen 6 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000 (p.2), paragraff 19 o Atodlen 18 a pharagraff 6 o Atodlen 21 i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (p.41), O.S. 2001/1149 ac adran 73 a pharagraffau 13, 76 ac 128 o Atodlen 1 i Ddeddf Gweinyddu Etholiadau 2006 (p.22).

(69)

2000 p.2.

(70)

Diwygiwyd adran 10 gan baragraff 16 o Atodlen 21 i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (p.41).

(71)

Diwygiwyd Atodlen 4 gan baragraff 164 o Atodlen 27 i Ddeddf Partneriaethau Sifil 2004 (p.33), ac adrannau 5, 14, 35 a 38 o Ddeddf Gweinyddu Etholiadau 2006 (p.22) a pharagraffau 19, 20 ac 137 o Atodlen 1 i'r Ddeddf honno

(72)

2000 p.41. Mewnosodwyd yr holl ddarpariaethau a grybwyllir yn y Tabl hwn gan adran 29 o Ddeddf Gweinyddu Etholiadau 2006 (p.22).

(73)

2006 p.22.

(75)

Fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2001/1700, 2002/1871 a 2006/2910.

(76)

Fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2006/2910.

(77)

Fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2006/2910.

(78)

Fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/1871 a 2006/2910.

(79)

Fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2006/2910.

(80)

Fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2006/2910.

(81)

Fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2006/752 a 2006/2910.

(82)

Mewnosodwyd gan O.S. 2006/752 a diwygiwyd gan O.S. 2006/2910.

(83)

Mewnosodwyd gan O.S. 2006/2910.

(84)

Mewnosodwyd gan O.S. 2006.752 a diwygiwyd gan O.S. 2006/2910.

(85)

Amnewidiwyd gan O.S. 2006/752 a diwygiwyd gan O.S. 2006/2910.

(86)

Diwygiwyd gan O.S. 2006/752 a 2006/2910.

(87)

Diwygiwyd gan O.S. 2006/752 a 2006/2910.

(88)

Mewnosodwyd gan O.S. 2006/2910.

(89)

Diwygiwyd gan O.S. 2006/2910.

(90)

Diwygiwyd gan O.S. 2006/2910.

(91)

Diwygiwyd gan O.S. 2006/2910.

(92)

Diwygiwyd gan O.S. 2006/2910.

(93)

Diwygiwyd gan O.S. 2002/1871, 2006/752 a 2006/2910.

(94)

Diwygiwyd gan O.S. 2006/2910.

(95)

Diwygiwyd gan O.S. 2006/2910.

(96)

Diwygiwyd gan O.S. 2006/2910.

(97)

Diwygiwyd gan O.S. 2006/752 a 2006/2910.

(98)

Diwygiwyd gan O.S. 2006/752 a 2006/2910.

(99)

Diwygiwyd gan O.S. 2006/752 a 2006/2910.

(100)

Diwygiwyd gan O.S. 2006/2910.

(101)

Diwygiwyd gan O.S. 2006/2910.

(102)

Mewnosodwyd gan O.S. 2006/2910.

(103)

Diwygiwyd gan O.S. 2002/1871 a 2006/2910.

(104)

Mewnosodwyd gan O.S. 2006/2910.

(105)

Mewnosodwyd gan O.S. 2006/2910.

(106)

Mewnosodwyd gan O.S. 2006/2910.

(107)

Mewnosodwyd gan O.S. 2006/2910.

(108)

Diwygiwyd gan O.S. 2006/752 a 2006/2910.

(109)

Mewnosodwyd gan O.S. 2006/2910 a diwygiwyd gan O.S. 2007/1025.

(110)

Mewnosodwyd gan O.S. 2006/2910.

(111)

Mewnosodwyd gan O.S. 2006/2910.

(112)

Diwygiwyd gan O.S. 2005/2114.

(113)

1983 p.2; diwygiwyd adran 128 gan baragraff 12 o Atodlen 1 i Ddeddf Gweinyddu Etholiadau 2006 (p.22).

(114)

Diwygiwyd adran 130 gan baragraff 50 o Atodlen 10 i Ddeddf y Llysoedd a Gwasanaethau Cyfreithiol 1990 (p.41) a pharagraff 2 o Atodlen 17 i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (p.41).

(115)

Diwygiwyd adran 136 gan baragraff 48 o Atodlen 4 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985 (p.50) a pharagraff 19 o Atodlen 18 i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (p.41).

(116)

Rhoddwyd adran 137 yn lle adran 137 fel y'i deddfwyd yn wreiddiol, gan baragraff 3 o Atodlen 17 i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (p.41).

(117)

Diwygiwyd adran 138 gan baragraff 4 o Atodlen 17 i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (p.41).

(118)

Diwygiwyd adran 140 gan baragraff 49 o Atodlen 4 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985 (p.50).

(119)

Diwygiwyd adran 141 gan baragraff 50 o Atodlen 4 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985 (p.50) a pharagraff 84 o Atodlen 27 i Ddeddf Partneriaethau Sifil 2004 (p.33).

(120)

Diwygiwyd adran 145 gan baragraff 33 o Atodlen 3 i Ddeddf Awdurdod Llundain Fwyaf 1999 (p.29).

(121)

Diwygiwyd adran 156 gan baragraff 51 o Atodlen 4 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985 (p.50).

(122)

Diwygiwyd adran 157 gan baragraff 6 o Atodlen 17 i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (p.41) a pharagraff 28 o Atodlen 11 i Ddeddf Diwygio Cyfansoddiadol 2005 (p.4).

(123)

Diwygiwyd is-adran (1) gan baragraff 52 o Atodlen 4 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985 (p.50), a rhoddwyd is-adran (3) bresennol yn lle is-adran (3) fel y'i deddfwyd yn wreiddiol, gan y paragraff hwnnw.

(124)

Diwygiwyd adran 161gan baragraff 53 o Atodlen 4, ac Atodlen 5, i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985 (p.50) a pharagraff 149 o Atodlen 4 i Ddeddf Diwygio Cyfansoddiadol 2005 (p.4).

(125)

Diwygiwyd adran 162 gan baragraff 54 o Atodlen 4 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985 (p.50).

(126)

Diwygiwyd adran 163 gan baragraff 55 o Atodlen 4 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985 (p.50).

(127)

Diwygiwyd adran 167 gan baragraff 56 o Atodlen 4 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985 (p.50) a pharagraff 18 o Atodlen 18 i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (p.41).

(128)

Diwygiwyd adran 183 gan baragraff 28 o Atodlen 11 i Ddeddf Diwygio Cyfansoddiadol 2005 (p.4).

(129)

Diwygiwyd adran 184 gan baragraff 19 o Atodlen 18 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (p.41) ac O.S. 2001/1149.

(130)

Diwygiwyd adrannau 185 gan baragraff 10 o Atodlen 17 i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (p.41) a pharagraffau 86 a 87 o Atodlen 6 i Ddeddf Trwyddedu 2003 (p.17).

(131)

Diwygiwyd gan O.S. 1985/1278.

(132)

Diwygiwyd gan O.S. 1985/1278.

(133)

Diwygiwyd gan O.S. 1985/1278.

(134)

Diwygiwyd gan O.S. 1985/1278.

(135)

Diwygiwyd gan O.S. 1999/1352.

(136)

Diwygiwyd gan O.S. 1999/1352.

(137)

Diwygiwyd gan O.S. 1999/1352.

(138)

Diwygiwyd gan O.S. 1985/1278.

(139)

Diwygiwyd gan O.S. 1985/1278.