xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
Gwnaed
1 Gorffennaf 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol
3 Gorffennaf 2008 Cymru
Yn dod i rym
Yn unol â rheoliad 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 112 a 210 o Ddeddf Addysg 2002(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy(2), ac wedi gwneud trefniadau y maent yn eu hystyried yn briodol ar gyfer ymgynghori ynghylch y cynigion yn unol ag adran 117 o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Datgymhwyso Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru yng Nghyfnod Allweddol 1) (Cymru) 2008.
(2) Daw darpariaethau'r Rheoliadau hyn i rym—
(a)ar 1 Awst 2010 o ran disgyblion yn nhrydedd flwyddyn y cyfnod sylfaen; a
(b)ar 1 Awst 2011 o ran disgyblion ym mhedwaredd flwyddyn y cyfnod sylfaen.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
mae “cyfnod allweddol cyntaf” (“first key stage”) i'w ddehongli yn unol ag adran 103(1) o Ddeddf 2002;
ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002; a
mae cyfeiriadau at y cyfnod sylfaen i'w dehongli'n unol ag adran 102 o Ddeddf 2002.
3. Nid yw gofynion Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru ar gyfer y cyfnod allweddol cyntaf fel y'u gosodir yn adran 105(1), (2), a (3) ac yn y Gorchmynion a wneir o dan adran 108(3)(3) o Ddeddf 2002 i fod yn gymwys o ran disgyblion mewn ysgolion a gynhelir yn ystod y blynyddoedd ysgol 2010 i 2011 a 2011 i 2012.
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
1 Gorffennaf 2008
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Mae'r Rheoliadau hyn a wneir o dan Ddeddf Addysg 2002 yn darparu ar gyfer datgymhwyso gofynion Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru a bennir ar gyfer y cyfnod allweddol cyntaf yn adran 105(1), (2), a (3), a Gorchmynion a wneir o dan adran 108(3) o Ddeddf Addysg 2002 ar gyfer disgyblion mewn ysgolion a gynhelir am y blynyddoedd ysgol 2010 i 2011 a 2011 i 2012.
Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar yr un pryd ag y cyflwynir y cyfnod sylfaen. Cyflwynir y cyfnod sylfaen ar gyfer blwyddyn gyntaf y cyfnod sylfaen ar 1 Awst 2008 i'r disgyblion hynny sy'n 3 i 4 oed, ar gyfer ail flwyddyn y cyfnod sylfaen ar 1 Awst 2009 i'r disgyblion hynny sy'n 4 i 5 oed, ar gyfer trydedd flwyddyn y cyfnod sylfaen ar 1 Awst 2010 i'r disgyblion hynny sy'n 5 i 6 oed ac ar gyfer pedwaredd flwyddyn y cyfnod sylfaen ar 1 Awst 2011 i'r disgyblion hynny sy'n 6 i 7 oed.
Cafodd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan yr adrannau hyn eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru o dan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).