Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 12) (Cymru) 2008

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 1 Awst 2008 y darpariaethau hynny yn Neddf Addysg 2002 a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn. Y rhain yw darpariaethau Rhan 7 o Ddeddf 2002 (y cwricwlwm yng Nghymru) na chawsant eu cychwyn eto ynghyd â diwygiadau a diddymiadau canlyniadol ac maent yn ymwneud â chyflwyno'r cyfnod sylfaen yng Nghymru.