Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd-ddwyrain Cymru (Trosglwyddo Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau) 2008
Enwi, cychwyn a dehongli1.
(1)
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd-ddwyrain Cymru (Trosglwyddo Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau) 2008 a daw i rym ar 1 Gorffennaf 2008.
(2)
Yn y Gorchymyn hwn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall:
ystyr “y dyddiad trosglwyddo” (“the transfer date”) “yw 1 Gorffennaf 2008;
ystyr “yr hen ymddiriedolaeth” (“the old trust”) yw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd-ddwyrain Cymru a sefydlwyd ar 4 Ionawr 1999;
ystyr “yr ymddiriedolaeth newydd” (“the new trust”) yw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd Cymru a sefydlwyd ar 25 Mehefin 2008.
Trosglwyddo cyflogeion i'r trosglwyddai2.
(1)
Yn ddarostyngedig i baragraff (3), trosglwyddir contract cyflogaeth unrhyw berson a oedd yn union cyn y dyddiad trosglwyddo yn cael ei gyflogi gan yr hen ymddiriedolaeth i'r ymddiriedolaeth newydd ar y dyddiad trosglwyddo a bydd y contract hwnnw'n effeithiol fel pe bai wedi'i wneud yn wreiddiol rhwng y person a gyflogir felly a'r ymddiriedolaeth newydd.
(2)
Heb ragfarnu paragraff (1) uchod—
(a)
yn rhinwedd yr erthygl hon, trosglwyddir yr holl hawliau, pwerau, dyletswyddau a rhwymedigaethau o dan gontract neu mewn cysylltiad â chontract y mae'r paragraff hwnnw'n gymwys iddo i'r ymddiriedolaeth newydd ar y dyddiad trosglwyddo;
(b)
bernir bod unrhyw beth a wnaed cyn y dyddiad hwnnw gan yr hen ymddiriedolaeth neu mewn perthynas â hi ynglŷn â'r contract hwnnw neu'r cyflogai hwnnw, o'r dyddiad trosglwyddo ymlaen wedi'i wneud gan yr ymddiriedolaeth newydd neu mewn perthynas â hi.
(3)
Nid yw paragraffau (2) a (3) uchod yn rhagfarnu unrhyw hawl sydd gan unrhyw gyflogai i derfynu ei gontract cyflogaeth os gwneir newid sylweddol er niwed i'r cyflogai yn ei amodau gwaith, ond ni fydd unrhyw hawl o'r fath yn codi yn unig oherwydd y newid mewn cyflogwr a bernir gan yr erthygl hon.
Trosglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau3.
Ar y dyddiad trosglwyddo trosglwyddir holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau'r hen ymddiriedolaeth, sydd heb eu crybwyll yn erthygl 2 uchod, i'r ymddiriedolaeth newydd gan gynnwys heb gyfyngiad—
(a)
y ddyletswydd i baratoi'r cyfrifon sydd heb eu cwblhau gan yr hen ymddiriedolaeth a chyflawni'r holl ddyletswyddau statudol mewn perthynas â'r cyfrifon hynny;
(b)
eiddo ymddiriedol yr hen ymddiriedolaeth a restrir yn Atodlen 1.
(c)
elusennau'r hen ymddiriedolaeth a restrir yn Atodlen 2.
Trosglwyddo swyddogaethau'r hen ymddiriedolaeth i'r ymddiriedolaeth newydd4.
Trosglwyddir holl swyddogaethau'r hen ymddiriedolaeth i'r ymddiriedolaeth newydd a byddant yn cael effaith o'r dyddiad trosglwyddo ymlaen.
ATODLEN 1
Eiddo | Deiliadaeth | Rhif Teitl os yw'n gymwys |
|---|---|---|
Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd-ddwyrain Cymru | ||
Ysbyty Maelor, Ffordd Croesnewydd, Wrecsam, LL13 7TD | Rhydd-ddaliad | WA870737 CYM42719 CYM237895 CYM338301 CYM402467 |
ALAC, Ffordd Croesnewydd, Wrecsam, LL13 7TD | Les-ddaliad | WA577800 |
Athrofa Feddygol Wrecsam, Parc Technoleg Wrecsam, Ffordd Croesnewydd, Wrecsam, LL13 7TD | Les-ddaliad | WA735281 |
Ysbytai Cymuned | ||
Ysbyty Cymuned Y Waun, Oddi ar Stryd St John, Y Waun, LL14 5LN | Rhydd-ddaliad | WA690433 |
Ysbyty Cymuned Glannau Dyfrdwy, Lon yr Aradr, Glannau Dyfrdwy, CH5 1XS | Rhydd-ddaliad | WA665892 WA665897 WA665896 WA8800203 |
Ysbyty Cymuned y Fflint, Hen Ffordd Llundain, Fflint, CH6 5HG | Rhydd-ddaliad | WA703713 |
Ysbyty Cymuned yr Wyddgrug, Llwyn Onn, Yr Wyddgrug, CH7 1XG | Rhydd-ddaliad | WA690437 |
Ysbyty Cymuned Treffynnon, Ffordd Helygain, Treffynnon, CH8 7TZ | Rhydd-ddaliad | WA703333 |
Ysbyty Pwylaidd Llannerch Banna, Ffordd Whitchurch, Llannerch Banna, LL13 0LH | Rhydd-ddaliad | CYM128343 |
Coed Celyn, a Sŵn Y Coed, Ffordd y Gelli, Wrecsam, LL11 1DY, | Rhydd-ddaliad | WA784910 |
Ysbyty Treffynnon (Y Bwthyn), Pen-y-Maes, Treffynnon, CH8 7UH | Rhydd-ddaliad | WA690436 |
Clinigau/ Canolfannau Iechyd | ||
Clinig Cefn Mawr Cefn Mawr, Rhiwabon, LL14 3AE | Rhydd-ddaliad | WA693355 |
Canolfan Iechyd Rhosllannerchrugog Rhodfa'r Ffawydden, Rhosllannerchrugog, LL14 1AA | Rhydd-ddaliad | WA701596 |
Clinig Rhiwabon Stryd Fawr, Rhiwabon, LL14 6NH | Rhydd-ddaliad | WA690464 |
Canolfan Iechyd Brymbo, Stryd Offa, Brymbo, LL11 5AG | Rhydd-ddaliad | WA690452 |
Clinig Brynteg, Ffordd Darby, Brynteg, Wrecsam, LL11 6RN | Rhydd-ddaliad | WA690453 |
Clinig Coedpoeth, Ffordd yr Efail, Coedpoeth, Wrecsam, LL11 3NS | Rhydd-ddaliad | WA704909 |
Canolfan Iechyd Gresffordd, Rhodfa Poplys, Gresffordd, LL12 8EP | Rhydd-ddaliad | WA690474 |
Clinig Ffordd y Gelli Wrecsam, LL11 1DY | Rhydd-ddaliad | WA784910 |
Canolfan Iechyd Llai Lôn yr Ysgol, Llai LL12 0TR | Rhydd-ddaliad | WA703720 |
Clinig Ffordd Tywysog Charles, Wrecsam, Ffordd Tywysog Charles, Wrecsam, LL13 8TH | Rhydd-ddaliad | WA690471 |
Clinig Rhostyllen Stryd Iago, Rhostyllen, LL14 4AW | Rhydd-ddaliad | WA690462 |
Clinig Yr Orsedd, Y Llain, Yr Orsedd, LL12 0EA | Rhydd-ddaliad | WA610333 |
Clinig Brychtyn, Ffordd Neuadd Brychtyn, Brychtyn, CH4 0QQ | Rhydd-ddaliad | WA703724 |
Canolfan Iechyd Bwcle, Ffordd Padeswood, Bwcle, CH7 2JL | Rhydd-ddaliad | WA690473 WA765301 |
Clinig Caergwrle Tŷ Cerrig, Caergwrle, LL12 9EY | Rhydd-ddaliad | WA693356 |
Clinig Cei Connah Canolfan Ddinesig, Lôn Wepre, Cei Connah,CH5 4HA | Rhydd-ddaliad | CYM199578 |
Clinig Pen y Ffordd Clos Melwood, Penyffordd, CH4 0NB | Rhydd-ddaliad | WA788256 |
Clinig Saltney, St David’s Terrace, Saltney Ferry, Ger Caer, CH4 0AF | Rhydd-ddaliad | WA690467 |
Clinig Sealand, 8 Rhodfa'r Cedrwydd, Sealand, CH5 1SE | Rhydd-ddaliad | WA690469 |
Tŷ Catherine Gladstone, Ffordd Penarlâg, Mancot, CH5 2EP | Rhydd-ddaliad | WA693350 |
Clinig y Fflint, Borough Grove, Y Fflint, CH6 7DR | Rhydd-ddaliad | WA690454 |
Clinig Maesglas Lôn yr Ysgol, Maesglas, Treffynnon, CH8 7HR | Rhydd-ddaliad | WA690456 |
Clinig Treffynnon, Lôn y Parc, Treffynnon, CH8 7UR | Rhydd-ddaliad | WA690458 |
Clinig Yr Wyddgrug Stryd y Brenin, Yr Wyddgrug, CH7 1LB | Rhydd-ddaliad | WA690460 |
Clinig Plas Madog, 51/52 Bodlyn, Ystâd Plas Madog, Acrefair, Wrecsam LL14 3HE | Les-ddaliad | |
Clinig Y Waun, Heol Yr Orsaf, Y Waun, LL14 5LS | Les-ddaliad | |
Clinig Glyn Ceiriog, Ffordd Newydd, Glyn Ceiriog, LL20 7HH | Les-ddaliad | WA884305 |
Canolfan Iechyd Owrtyn, Stryd Fawr, Owrtyn, LL13 0ED | Les-ddaliad | |
Clinig Hightown, Hightown, Wrecsam, LL12 0TR | Les-ddaliad | CYM26758 |
Clinig Ewlo, Woodside Close, Ewlo, CH5 3RP | Les-ddaliad | WA559996 |
Clinig Coedllai, Stryd Y Brenin, Coedllai CH7 4RG | Les-ddaliad | CYM26748 |
Clinig Mynydd Isa, Mercia Drive, Mynydd Isa, CH7 6UH | Les-ddaliad | CYM26760 |
Canolfan Iechyd Pen Y Maes, Stryd Y Ffawydd, Bryn Hyfryd , LL11 4UF | Les-ddaliad | |
Clinig Y Fferi, Campws Y Fferi, Gorllewin Ffordd Caer, Y Fferi, CH5 1SE | Les-ddaliad | |
Unedau Iechyd Meddwl | ||
16 — 18 Ffordd Grosvenor, Wrecsam, LL11 1DU | Rhydd-ddaliad | WA703732 WA708392 |
Canolfan Gynghori Glannau Dyfrdwy, Rhodfa Rowley, Shotton, CH5 1PP | Rhydd-ddaliad | WA690470 |
The Elms, Ffordd Rhosddu, Wrecsam, LL11 1BT | Rhydd-ddaliad | WA783179 |
Tŷ Celyn, Parc Busnes Acorn, Y Fflint, CH6 5YN | Les-ddaliad | |
Evolution Building, Ewlo, 1st Floor Suite, 1 Evolution, Parc Busnes Lakeside, Parc Dewi Sant, Ewlo, CH5 3XP | Les-ddaliad | |
C.D.S. 7 Ffordd Brighton, Rhyl, LL18 3EY | Les-ddaliad | |
Tir | ||
Tir Tŷ'r Eos, Ffordd Caer, Wrecsam, LL11 2SJ | Rhydd-ddaliad | WA7884910 |
Tir Plas Madog, Ffordd Y Parc, Rhosymedre. | Rhydd-ddaliad | WA593623 |
Arall | ||
Villa Romano, Ffordd y Gelli, Wrecsam LL11 1DY | Les-ddaliad | |
HSDU, Uned A, Parc Technoleg Wrecsam, Ffordd Croesnewydd, Wrecsam, LL13 7TD | Les-ddaliad | |
Tŷ Clwydian, Block B, Tŷ Clwydian, Parc Technoleg Wrecsam, Ffordd Croesnewydd, Wrecsam LL13 7TD | Les-ddaliad |
ATODLEN 2
Cronfa Elusennol Ymddiriedolaeth GIG Gogledd-ddwyrain Cymru (gan gynnwys is-elusennau) — Rhif 1051063
Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer trosglwyddo staff o Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd-ddwyrain Cymru i Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd Cymru o 1 Gorffennaf 2008 ymlaen.
Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn darparu ar gyfer trosglwyddo holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd-ddwyrain Cymru i Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd Cymru ar 1 Gorffennaf 2008.