Rheoliadau Deddf Gofal Plant 2006 (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) (Diwygio) 2008
Enwi, cychwyn a chymhwyso1.
(1)
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Gofal Plant 2006 (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) (Diwygio) 2008 a deuant i rym ar 31 Gorffennaf 2008.
(2)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygiadau i Reoliadau Deddf Gofal Plant 2006 (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) 2008.2.
(1)
(2)
Yn rheoliad 4(1)(f) yn y testun Cymraeg yn unig yn lle “Gynulliad Cenedlaethol Cymru” rhodder “Weinidogion Cymru”.
(3)
Yn rheoliad 4(1)( h) yn y testun Saesneg yn unig yn lle “National Assembly for Wales” rhodder “Welsh Ministers”.
(4)
Yn rheoliad 6, yn y testun Cymraeg yn unig, yn lle'r ymadrodd “awdurdodau lleol”, rhodder yr ymadrodd “awdurdod lleol”.
(5)
Yn rheoliad 7, yn y testun Cymraeg yn unig, rhwng “gwybodaeth” ac “yn” mewnosoder “ar unrhyw wasanaethau neu gyfleusterau eraill neu unrhyw gyhoeddiadau”.
(6)
Yn rheoliad 9, yn y testun Cymraeg yn unig, yn lle “adnoddau”, rhodder “ffynonellau”.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Deddf Gofal Plant 2006 (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) 2008 i gywiro anghysonderau yn nhestun y Rheoliadau.