xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Rheoliad 9
1.—(1) At ddibenion rheoliad 9, mae buddiant ariannol mewn contract, contract arfaethedig neu fater arall yn cynnwys achos—
(a)lle y cafodd person perthnasol ei enwebu neu ei benodi i swydd fel aelod o gorff llywodraethu sy'n cydweithredu gan berson y gwnaed y contract gydag ef neu berson y bwriedir gwneud y contract gydag ef;
(b)lle y mae'r person perthnasol yn bartner i berson, neu o dan gyflogaeth person y gwnaed y contract gydag ef neu berson y bwriedir gwneud y contract gydag ef; neu
(c)mae perthynas i berson perthnasol (gan gynnwys ei briod, ei bartner sifil o fewn ystyr Deddf Partneriaeth Sifil 2004(1) neu rywun sy'n byw gyda'r person hwnnw fel pe bai'n briod neu'n bartner sifil i'r person), a bod y person hwnnw'n gwybod, neu y byddai'n cael ei drin fel un sy'n gwybod, bod ganddo fuddiant o'r fath.
(2) At ddibenion rheoliad 9, nid yw person perthnasol i'w drin fel un sydd â buddiant ariannol yn unrhyw fater—
(a)ar yr amod nad yw ei fuddiant yn y mater ddim mwy na buddiant y sawl sy'n gyffredinol yn cael eu talu i weithio yn yr ysgol;
(b)dim ond oherwydd y ffaith yr enwebwyd neu y penodwyd y person i swydd, a'i fod yn aelod o gorff cyhoeddus neu o dan gyflogaeth corff cyhoeddus; neu
(c)dim ond oblegid ei fod yn aelod o gorfforaeth neu gorff arall, os nad oes gan y person unrhyw fuddiant ariannol mewn unrhyw warantau yn y gorfforaeth honno neu'r corff arall hwnnw.
(3) Nid oes rwystr i aelodau o'r cyd-bwyllgor, oherwydd eu buddiant ariannol yn y mater, rhag ystyried cynigion a phleidleisio ar gynigion ar gyfer un neu fwy o'r cyrff llywodraethu sy'n cydweithredu i drefnu yswiriant sy'n diogelu eu haelodau rhag atebolrwydd y maent yn agored iddo sy'n codi o'u swyddi ac ni fydd corff llywodraethu sy'n cydweithredu, oherwydd buddiant ariannol ei aelodau, yn cael ei rwystro rhag sicrhau yswiriant o'r fath a rhag talu'r premiymau.
(4) Nid oes rwystr i aelodau o'r cyd-bwyllgor rhag ystyried neu bleidleisio ar unrhyw gynnig ynghylch lwfansau i'w talu yn unol â Rheoliadau Lwfansau Llywodraethwyr (Cymru) 2005(2) oherwydd bod ganddynt fuddiant mewn talu lwfansau o'r fath i aelodau o'r cyd-bwyllgor yn gyffredinol ond rhaid i aelod o gyd-bwyllgor ymneilltuo o gyfarfod pan ystyrir neu pan drafodir, a rhaid i'r aelod beidio â phleidleisio, p'un a ddylai dderbyn lwfans penodol, swm unrhyw daliad neu unrhyw gwestiwn ynghylch lwfans a dalwyd iddo.
2.—(1) Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys pan fo person perthnasol yn bresennol mewn cyfarfod o'r cyd-bwyllgor a'r pwnc o dan ystyriaeth yw—
(a)penodiad y person ei hun, ei ailbenodi, ei atal neu ei symud o'i swydd fel aelod o'r cyd-bwyllgor;
(b)penodiad y person ei hun neu ei symud o'i swydd fel clerc, neu gadeirydd neu is-gadeirydd y cyd-bwyllgor;
(c)os yw'r person yn noddwr-lywodraethwr, unrhyw benderfyniad o dan baragraff 2 o Atodlen 4 i'r Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir o ran y ddarpariaeth yn yr offeryn llywodraethu ar gyfer noddwyr-lywodraethwyr.
(2) Mewn unrhyw achos pan fo is-baragraff (1) yn gymwys, ymdrinnir â buddiannau'r person perthnasol at ddibenion rheoliad 9(2) fel rhai sy'n gwrthdaro â buddiannau'r cyrff llywodraethu sy'n cydweithredu.
3.—(1) Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys pan fo person perthnasol sy'n cael ei dalu i weithio mewn ysgol heblaw fel pennaeth yn bresennol mewn cyfarfod o'r cyd-bwyllgor a'r pwnc o dan ystyriaeth ynddo yw tâl neu arfarniad perfformio unrhyw berson penodol sy'n cael ei gyflogi yn yr ysgol.
(2) Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys pan fo pennaeth yn bresennol mewn cyfarfod o'r cyd-bwyllgor a'r pwnc o dan ystyriaeth ynddo yw tâl neu arfarniad perfformio'r pennaeth.
(3) Yn unrhyw achos pan fo is-baragraff (1) neu (2) yn gymwys, ymdrinnir â buddiannau'r person perthnasol at ddibenion rheoliad 9(2) fel rhai sy'n gwrthdaro â buddiannau'r cyrff llywodraethu sy'n cydweithredu.
4. Pan fo person perthnasol sy'n cael ei gyflogi i weithio mewn ysgol yn bresennol mewn cyfarfod o'r cyd-bwyllgor a'r pwnc o dan ystyriaeth ynddo yw penodi olynydd i'r person hwnnw, rhaid iddo ymneilltuo o'r cyfarfod pan ystyrir neu pan drafodir y mater o dan sylw a rhaid iddo beidio â phleidleisio ar unrhyw gwestiwn sy'n ymwneud â'r mater hwnnw.
5. Nid yw'r ffaith bod person yn aelod o gyd-bwyllgor o gorff llywodraethu sy'n cydweithredu mewn mwy nag un ysgol o dan unrhyw amgylchiadau i'w ystyried fel gwrthdaro buddiannau at ddibenion y Rheoliadau hyn.