(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru 2007 (“Rheoliadau 2007”) a wnaed o dan Ddeddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006.
Mae Rheoliadau 2007 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â swyddogaethau Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Maent yn cynnwys gofynion ynghylch y Cynulliad ar gyfer rhoi gwybodaeth gan bersonau rhagnodedig, darparu cymorth i bobl hŷn mewn achosion rhagnodedig, archwilio disgrifiadau penodedig o achosion a pharatoi a dosbarthu adroddiadau penodol.
Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (“Deddf 2006”) yn gwneud darpariaethau newydd i Lywodraeth Cymru. Mae'r Rheoliadau hyn yn addasu Rheoliadau 2007 fel yr ystyrir sy'n briodol o ganlyniad i Ddeddf 2006. Addesir pob cyfeiriad at y Cynulliad yn Rheoliadau 2007 er mwyn pennu a ydyw'n gymwys i'r Cynulliad fel y cyfansoddwyd ef gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998; Llywodraeth Cynulliad Cymru; Comisiwn y Cynulliad; y Cynulliad (fel y cyfansoddwyd ef gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006); Gweinidogion Cymru; y Prif Weinidog neu'r Cwnsler Cyffredinol.