xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae “iaith dramor fodern” yn bwnc sylfaen yn y Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghymru yn y trydydd cyfnod allweddol. Mae'n ofynnol i'r ieithoedd hynny sydd i'w cyfrif yn ieithoedd modern at ddibenion y Cwricwlwm Cenedlaethol gael eu pennu mewn Gorchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru, neu, fel arall, caiff Gorchymyn o'r fath ddarparu bod unrhyw iaith dramor fodern yn iaith dramor fodern at y cyfryw ddibenion. Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu bod unrhyw iaith dramor fodern yn iaith dramor fodern, a bod unrhyw gwestiwn ynghylch a yw iaith dramor yn iaith dramor fodern i'w benderfynu gan Weinidogion Cymru.