Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2008

PENNOD 3BENTHYCIADAU AT FFIOEDD

Amodau cyffredinol yr hawl i gael benthyciadau at ffioedd

19.—(1Mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at ffioedd mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig o dan y Rhan hon ar yr amod nad yw'r myfyriwr wedi'i hepgor rhag bod â hawl gan y paragraff canlynol, rheoliad 6 neu reoliad 7.

(2Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd —

(a)os yw'r flwyddyn honno'n flwyddyn bwrsari neu'n flwyddyn Erasmus; neu

(b)os yw'r cwrs dynodedig yn hen gwrs HCA ôl-radd hyblyg.

Benthyciadau at gyfraniad at ffioedd (i fyfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn)

20.—(1Mae gan fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn hawl i gael benthyciad at gyfraniad at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig—

(a)os yw'n gymwys i gael grant at ffioedd mewn cysylltiad â'r flwyddyn honno neu os byddai wedi bod yn gymwys pe byddai wedi gwneud cais am y grant (hyd yn oed pe byddai'r swm wedi bod yn ddim); ac

(b)os darperir y cwrs dynodedig gan neu ar ran sefydliad a oedd yn cael ei ariannu'n gyhoeddus ar 1 Awst 2005.

(2Os yw myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn yn gwneud cais am grant at ffioedd ac am fenthyciad at gyfraniad at ffioedd, swm y benthyciad at gyfraniad at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar y cwrs dynodedig yw'r swm y mae'r myfyriwr yn gwneud cais amdano a hwnnw'n swm nad yw'n fwy na'r swm a ddidynnwyd o'i grant at ffioedd yn unol â rheoliad 54.

(3Os benthyciad at gyfraniad at ffioedd yw'r unig gymorth at ffioedd y mae myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn yn gwneud cais amdano, swm y benthyciad hwnnw mewn perthynas â blwyddyn academaidd y cwrs dynodedig yw'r swm y mae'r myfyriwr yn gwneud cais amdano, a hwnnw'n swm nad yw'n fwy na £1,255 neu, os oes unrhyw rai o'r amgylchiadau yn rheoliad 16(4) yn gymwys, £625.

(4Caiff myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn wneud cais am fenthyg swm ychwanegol o fenthyciad at gyfraniad at ffioedd —

(a)os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu y dylid cynyddu uchafswm y benthyciad at gyfraniad at ffioedd (gan gynnwys rhoi swm pan na roddwyd dim ynghynt) sydd wedi'i hysbysu i'r myfyriwr mewn perthynas â blwyddyn academaidd o ganlyniad i ailasesu cyfraniad y myfyriwr neu fel arall; a

(b)os yw Gweinidogion Cymru o'r farn nad yw'r cynnydd yn yr uchafswm yn digwydd oherwydd i'r myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn —

(i)methu â rhoi yn brydlon wybodaeth a allai effeithio ar ei allu i fod â hawl i gael benthyciad at gyfraniad at ffioedd y mae ganddo hawl i'w gael; neu

(ii)rhoi gwybodaeth sy'n anghywir o ran unrhyw fanylyn o bwys.

(5Nid yw'r swm ychwanegol ym mharagraff (4), o'i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na'r uchafswm wedi'i gynyddu.

(6Os yw myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn wedi gwneud cais am fenthyciad at gyfraniad at ffioedd sy'n llai na'r uchafswm y mae ganddo hawlogaeth i'w gael mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd, caiff wneud cais am fenthyg swm ychwanegol nad yw, o'i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na'r uchafswm perthnasol sy'n gymwys yn achos y myfyriwr hwnnw.

Benthyciadau at ffioedd: myfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd nad oes ganddynt hawl i gael grant newydd at ffioedd

21.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (9), mae gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd hawl yn unol â'r rheoliad hwn i gael benthyciad mewn perthynas â'r ffioedd sy'n daladwy ganddo mewn perthynas â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig, neu mewn cysylltiad â'r presenoldeb hwnnw mewn modd arall.

(2Rhaid i swm benthyciad at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar gwrs dynodedig beidio â bod yn fwy na'r lleiaf o'r canlynol —

(a)£3,145 neu, os oes un o'r amgylchiadau ym mharagraff 16(4) yn gymwys, £1,570; a

(b)y ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â'r flwyddyn honno, neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall.

(3Os caiff statws myfyriwr fel myfyriwr cymwys ei drosglwyddo o un cwrs dynodedig i un arall o dan y Rheoliadau hyn a bod un o'r amgylchiadau ym mharagraff (4) yn gymwys, caiff y myfyriwr fenthyg swm ychwanegol ar ffurf benthyciad at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'r myfyriwr hwnnw yn trosglwyddo iddo.

(4Yr amgylchiadau yw —

(a)bod y ffioedd sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'r myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd yn trosglwyddo iddo yn fwy na'r ffioedd sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'r myfyriwr wedi trosglwyddo ohono; a

(b)nad yw blwyddyn academaidd y cwrs y mae'r myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd yn trosglwyddo iddo yn dechrau ar ddyddiad diweddarach na blwyddyn academaidd y cwrs y mae'r myfyriwr wedi trosglwyddo oddi arno.

(5Os yw paragraff (4)(a) yn gymwys, rhaid i'r swm ychwanegol y caiff y myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd ei fenthyg mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr hwnnw'n trosglwyddo iddi beidio â bod yn fwy na swm sy'n hafal i'r ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr hwnnw mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno, llai swm unrhyw fenthyciad at ffioedd y mae'r myfyriwr hwnnw wedi'i godi mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd y mae wedi trosglwyddo oddi arni.

(6Os yw paragraff 4(b) yn gymwys, rhaid i'r swm ychwanegol y caiff y myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd ei fenthyg mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd y mae'n trosglwyddo iddi beidio â bod yn fwy na'r lleiaf o'r canlynol —

(a)£3,145 neu, os oes un o'r amgylchiadau yn rheoliad 16(4) yn gymwys, £1,570; a

(b)y ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â'r flwyddyn honno, neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall.

(7Os yw myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd wedi gwneud cais am fenthyciad at ffioedd sy'n llai na'r uchafswm sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd, caiff wneud cais am fenthyg swm ychwanegol nad yw, o'i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na'r uchafswm perthnasol sy'n gymwys yn achos y myfyriwr hwnnw.

(8Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â myfyriwr os oes ganddo hawl i gael grant newydd at ffioedd a bod y cwrs yn gwrs dynodedig cymhwysol.

Benthyciadau at ffioedd: Myfyrwyr sydd â hawl i gael grant newydd at ffioedd

22.—(1Caiff myfyriwr sydd â hawl i gael grant newydd at ffioedd wneud cais o dan y rheoliad hwn am fenthyciad mewn perthynas â mynychu'r cwrs dynodedig cymhwysol.

(2Uchafswm y benthyciad sydd ar gael o dan y rheoliad hwn yw'r lleiaf o'r canlynol —

(a)£1,255 neu, pan fydd unrhyw un neu rai o'r amgylchiadau yn rheoliad 16(4) yn gymwys, £625; a

(b)gweddill y ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr a swm sy'n hafal i'r grant newydd at ffioedd mewn perthynas â'r flwyddyn honno neu mewn cysylltiad â hi fel arall wedi i ddidynnu oddi wrtho.

(3Os yw'r myfyriwr wedi gwneud cais am fenthyciad at ffioedd sy'n llai na'r uchafswm sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd, caiff wneud cais am fenthyg swm ychwanegol nad yw, o'i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na'r uchafswm hwnnw.

(4Os yw statws myfyriwr fel myfyriwr cymwys yn cael ei drosglwyddo o gwrs dynodedig cymhwysol i gwrs dynodedig cymhwysol arall o dan y Rheoliadau hyn a bod un o'r amgylchiadau ym mharagraff (5) yn gymwys, caiff y myfyriwr fenthyg swm ychwanegol ar ffurf benthyciad at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo iddo.

(5Yr amgylchiadau yw —

(a)bod y ffioedd sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'r myfyriwr cymwys yn trosglwyddo iddo yn fwy na'r ffioedd sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'r myfyriwr cymwys wedi trosglwyddo ohono; a

(b)nad yw blwyddyn academaidd y cwrs y mae'r myfyriwr cymwys yn trosglwyddo iddo yn dechrau ar ddyddiad diweddarach na blwyddyn academaidd y cwrs y mae wedi trosglwyddo ohono.

(6Pan fo paragraff (5)(a) yn gymwys, rhaid i'r swm ychwanegol y caiff y myfyriwr cymwys ei fenthyg mewn cysylltiad â'r flwyddyn academaidd y mae'n trosglwyddo iddi beidio â bod yn fwy na swm hafal i'r ffioedd sy'n daladwy ganddo mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno llai swm unrhyw fenthyciad at ffioedd y mae wedi'i gymryd ac/neu unrhyw grant newydd at ffioedd y mae wedi'i dderbyn mewn cysylltiad â'r flwyddyn academaidd y mae wedi trosglwyddo ohoni.

(7Pan fo paragraff (5)(b) yn gymwys, rhaid i'r swm ychwanegol y caiff y myfyriwr cymwys ei fenthyg mewn cysylltiad â'r flwyddyn academaidd y mae'n trosglwyddo iddi beidio â bod yn fwy na'r lleiaf o'r canlynol—

(a)£3,145 neu, pan fo un o'r amgylchiadau yn rheoliad 16(4) yn gymwys, £1,570; a

(b)gweddill y ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr llai swm hafal i'r grant newydd at ffioedd mewn perthynas â'r flwyddyn honno, neu mewn cysylltiad â hi fel arall.