Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2008

PENNOD 1DARPARIAETHAU CYFFREDINOL

Cymorth at ffioedd yn gyffredinol

12.—(1Ni chaiff cymorth o dan y Rhan hon mewn perthynas â blwyddyn academaidd fod yn fwy na'r ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno.

(2Er mwyn derbyn benthyciad o dan y Rheoliadau hyn rhaid i'r myfyriwr ymrwymo i gontract gyda Gweinidogion Cymru ar delerau i'w penderfynu gan Weinidogion Cymru.

(3At ddibenion cyfrifo swm y cymorth at ffioedd o dan y Rhan hon, nid yw sefydliad sy'n darparu cyrsiau a ddynodir gan reoliad 4 o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Dawnsio a Drama) 1999(1) i'w ystyried yn sefydliad a ariennir yn gyhoeddus am ddim rheswm ond am ei fod yn derbyn cyllid cyhoeddus gan gorff llywodraethu sefydliad addysg uwch yn unol ag adran 65(3A) o Ddeddf Addysg Bellach ac Addysg Uwch 1992(2).

(4Ymdrinnir â myfyriwr y mae paragraff (5) yn gymwys iddo fel pe bai'n bresennol ar y cwrs dynodedig at ddibenion cymhwyso ar gyfer cymorth ffioedd.

(5Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i'r canlynol —

(a)myfyriwr cwrs gradd cywasgedig;

(b)myfyriwr anabl—

(i)nad yw'n fyfyriwr cwrs gradd cywasgedig; a

(ii)sy'n ymgymryd â chwrs dynodedig yn y Deyrnas Unedig ond nad yw'n bresennol am na all fod yn bresennol am reswm sy'n ymwneud â'i anabledd.

Myfyrwyr sy'n dod yn gymwys yn ystod blwyddyn academaidd

13.  Os bydd unrhyw un o'r digwyddiadau a restrir yn rheoliad 14 yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd —

(a)caiff myfyriwr fod â hawl i gael grantiau a benthyciadau o dan y Rhan hon mewn cysylltiad â'r flwyddyn academaidd honno ar yr amod bod y digwyddiad perthnasol wedi digwydd yn ystod tri mis cyntaf y flwyddyn academaidd; a

(b)nid yw'r grantiau a'r benthyciadau hyn ar gael mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ynddi.

Digwyddiadau

14.  Y digwyddiadau yw —

(a)bod cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs dynodedig;

(b)bod y myfyriwr, ei briod, ei bartner sifil neu ei riant yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu ei fod yn dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(c)bod gwladwriaeth yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd os yw'r myfyriwr yn wladolyn o'r wladwriaeth honno neu'n aelod o deulu (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o'r wladwriaeth honno;

(ch)bod y myfyriwr yn dod yn aelod o delu (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o'r GE;

(d)bod y myfyriwr yn ennill yr hawl i breswylio'n barhaol;

(dd)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;

(e)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1; neu

(f)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd.

(1)

O.S. 1999/2263, a ddiwygiwyd gan O.S. 2001/2893.

(2)

1992 p. 13; mewnosodwyd adran 65(3A) gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 27.