- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Erthygl 3
1. Feirws clefyd Affricanaidd y ceffylau
2. Feirws clwy Affricanaidd y moch
3. Feirws clefyd Aujesky
4. Feirysau ffliw adar sydd —
(a)heb eu nodweddu;
(b)Feirysau Teip A sydd â mynegrif pathogenedd mewnwythiennol mewn cywion chwe wythnos oed sy'n fwy na 1.2; neu
(c)Feirysau Teip A is-deip H5 neu H7 y mae dilyniannu niwcleotid wedi dangos amryw o asidau amino basig yn safle holltiad hæmaglwtinin.
5. Babesia bovis
6. Babesia bigemina
7. Babesia caballi
8. Bacillus anthracis
9. Feirws y tafod glas
10. Feirws lewcosis buchol
11. Brucella abortus
12. Brucella melitensis
13. Brucella ovis
14. Brucella suis
15. Burkholderia mallei
16. Feirws clwy clasurol y moch
17. Cochliomyia hominivorax
18. Feirysau enseffalomyelitis ceffylaidd Dwyreiniol a Gorllewinol
19. Echinococcus multilocularis
20. Echniococcus granulosus
21. Ehrlichia ruminantium
22. Feirws anemia heintus ceffylaidd
23. Feirws clwy'r traed a'r genau
24. Feirws clefyd Hendra
25. Histoplasma farciminosum
26. Feirws enseffalitis Siapaneaidd
27. Feirws clefyd y croen talpiog
28. Mycoplasma agalactiae
29. Mycoplasma capricolum is-rywogaeth capripneumoniae
30. Mycoplasma mycoides is-rywogaeth mycoides SC ac amrywolion mycoides LC
31. Mycoplasma mycoides amr capri
32. Feirysau clefyd Newcastle (paramycsofeirws adar teip 1) sydd—
(a)heb eu nodweddu; neu
(b)â mynegrif pathogenedd mewnymenyddol mewn cywion diwrnod oed o 0.4 neu ragor, pan roddir dim llai na 10 miliwn o ddosau wyau heintus 50% (EID50) i bob aderyn yn y prawf.
33. Feirws clefyd Nipah
34. Feirws peste des petits ruminants
35. Feirws y gynddaredd a phob feirws o'r genws Lyssavirus
36. Feirws twymyn y Dyffryn Hollt
37. Feirws Rinderpest
38. Feirws enseffalomyelitis ceffylaidd St. Louis
39. Feirws brech y defaid a'r geifr
40. Feirws clefyd pothellog y moch
41. Feirws clefyd Teschen
42. Theileria annulata
43. Theileria equi
44. Theileria parva
45. Trichinella spiralis
46. Trypanosoma brucei
47. Trypanosoma congolense
48. Trypanosoma equiperdum
49. Trypanosoma evansi
50. Trypanosoma simiae
51. Trypanosoma vivax
52. Feirws enseffalomyelitis ceffylaidd Venezuela
53. Feirws stomatitis pothellog
54. Feirws Nil Orllewinol
55. Y feirws byw sy'n achosi clefyd gwaedlifol firaol mewn cwningod
Erthygl 6
1.—(1) Caniateir i unrhyw bersonau y mae'r arolygydd yn barnu eu bod yn angenrheidiol fynd gyda'r arolygydd.
(2) At ddibenion gorfodi'r Gorchymyn hwn caiff arolygydd—
(a)cymryd unrhyw gyfarpar neu ddeunyddiau angenrheidiol i'r fangre;
(b)gwneud unrhyw archwiliad ac ymchwiliad a all fod yn angenrheidiol o dan unrhyw amgylchiadau, a chaiff gyfarwyddo na ddylid tarfu (p'un ai yn gyffredinol neu mewn agweddau penodol) ar y fangre, unrhyw ran o'r fangre neu unrhyw beth yn y fangre cyhyd ag y bo'n rhesymol angenrheidiol at ddiben unrhyw archwiliad neu ymchwiliad;
(c)cymryd mesuriadau neu dynnu lluniau neu wneud recordiadau;
(ch)cymryd samplau o unrhyw eitemau neu sylweddau, neu'r atmosffer (yn y fangre ac wrth ymyl y fangre);
(d)achosi i unrhyw eitem neu sylwedd gael ei ddatgymalu neu ei ddarostwng i unrhyw broses neu brawf (ond nid er mwyn ei niweidio neu ei ddistrywio oni bai bod hynny'n angenrheidiol o dan yr amgylchiadau at ddiben y broses neu'r prawf);
(dd)cymryd meddiant o unrhyw eitem neu sylwedd a'i ddal dan gadw am gyhyd ag y bo'n angenrheidiol—
(i)i'w archwilio a gwneud unrhyw beth iddo y mae gan yr arolygydd bŵer i'w wneud;
(ii)i sicrhau nad ymyrrir ag ef cyn cwblhau'r archwiliad;
(iii)i sicrhau ei fod ar gael i'w ddefnyddio fel tystiolaeth mewn unrhyw achos sifil neu droseddol;
(e)ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson y mae gan yr arolygydd achos rhesymol dros gredu y gall roi unrhyw wybodaeth (gan gynnwys enw a chyfeiriad y person hwnnw) sy'n berthnasol i unrhyw archwiliad neu ymchwiliad yn ateb (yn absenoldeb personau heblaw person a enwyd gan y person hwnnw i fod yn bresennol ac unrhyw bersonau y caniateir gan yr arolygydd i fod yn bresennol) unrhyw gwestiynau y mae'r arolygydd yn barnu ei bod yn briodol eu gofyn ac yn llofnodi datganiad o wirionedd yr atebion;
(f)gwneud y canlynol yn ofynnol, sef dangos unrhyw drwydded neu gofnod a ddyroddir o dan y Gorchymyn hwn, eu harolygu a chymryd copïau ohonynt, neu eu symud ymaith er mwyn galluogi iddynt gael eu copïo a'u harchwilio;
(ff)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson roi'r cyfryw gyfleusterau a chymorth o ran unrhyw faterion neu bethau o dan reolaeth y person hwnnw neu y mae gan y person hwnnw gyfrifoldebau mewn perthynas ag ef sy'n angenrheidiol er mwyn galluogi'r arolygydd i arfer unrhyw un o'r pwerau a roddir iddo gan yr Atodlen hon;
(g)cael mynediad at, archwilio a gwirio gweithrediad unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig a ddefnyddir neu a ddefnyddiwyd mewn cysylltiad â'r cofnodion; ac at y diben hwn, caiff ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sydd â gofal y cyfrifiadur, y cyfarpar neu'r deunydd, neu sy'n ymwneud fel arall â gweithredu'r cyfrifiadur, y cyfarpar neu'r deunydd, roi unrhyw gymorth sy'n rhesymol ofynnol, a phan gedwir cofnod drwy gyfrwng cyfrifiadur, caiff ei gwneud yn ofynnol bod cofnodion yn cael eu cyflwyno ar ffurf sy'n caniatáu mynd â hwy oddi yno.
(3) Mae'n rhaid i arolygydd sy'n bwriadu arfer y pŵer a roddir iddo gan is-baragraff (2)(d) uchod yn achos eitem neu sylwedd y deuir o hyd iddo mewn unrhyw fangre, os gofynnir iddo gan berson sydd ar y pryd yn bresennol yn y fangre honno ac sydd â chyfrifoldebau mewn perthynas â'r fangre honno, achosi i unrhyw beth sydd i'w wneud yn rhinwedd y pŵer hwnnw gael ei wneud ym mhresenoldeb y person hwnnw.
(4) Cyn arfer y pŵer a roddir gan is-baragraff (2)(d) yn achos unrhyw eitem neu sylwedd, rhaid i arolygydd ymgynghori â'r personau hynny yr ymddengys ei bod yn briodol ymgynghori â hwy at ddiben canfod pa beryglon, os oes rhai, a all fod mewn gwneud unrhyw beth y bwriedir ei wneud o dan y pŵer hwnnw.
(5) Pan fo arolygydd yn cymryd meddiant o unrhyw eitem neu sylwedd y deuir o hyd iddo mewn unrhyw fangre, rhaid i'r arolygydd adael hysbysiad yno, naill ai gyda pherson cyfrifol neu, os yw hynny'n anymarferol, wedi ei osod mewn lle amlwg, a hwnnw'n hysbysiad sy'n rhoi manylion am yr eitem neu'r sylwedd hwnnw sy'n ddigonol i'w adnabod ac sy'n datgan ei fod wedi ei gymryd o dan y pŵer hwnnw; a chyn cymryd meddiant o'r cyfryw sylwedd o dan y pŵer hwnnw rhaid i arolygydd, os yw'n ymarferol i wneud hynny, gymryd sampl ohono a rhoi i berson cyfrifol yn y fangre gyfran o'r sampl wedi ei marcio mewn dull sy'n ddigonol i'w hadnabod.
(6) Nid yw unrhyw ateb a roddir gan berson yn unol â gofyniad a orfodir o dan is-baragraff (2)(e) yn dderbyniol mewn tystiolaeth yn erbyn y person hwnnw neu yn erbyn priod neu bartner sifil y person hwnnw mewn unrhyw achos.
2.—(1) Pan fo gan arolygydd sail resymol dros amau bod pathogen anifail penodedig neu gludydd ym meddiant person nad yw'n dal trwydded sy'n ofynnol gan y Gorchymyn hwn neu yn groes i amod trwydded a roddir o dan y Gorchymyn hwn, caiff yr arolygydd hwnnw ar unrhyw adeg ymafael yn, neu beri ymafael yn, y cyfryw bathogen, cludydd neu unrhyw ddeunydd y mae'r arolygydd yn amau yn rhesymol bod y cyfryw bathogen wedi cael ei gadw ynddo neu y mae'n amau yn rhesymol ei fod wedi cael ei gyflwyno iddo.
(2) Os yw'r arolygydd yn barnu ei bod yn hwylus i wneud hynny, caiff yr arolygydd hwnnw at ddiben atal cyflwyno neu ledaenu clefyd, ddal dan gadw, trin neu ddistrywio unrhyw bathogen, cludydd neu ddeunydd a ymafaelwyd.
3.—(1) Caiff arolygydd, drwy hysbysiad a gyflwynir i feddiannydd unrhyw fangre (gan gynnwys tŷ annedd) neu i berchennog neu berson sydd â gofal unrhyw gerbyd y mae pathogen penodedig, cludydd neu ddeunydd yn bresennol ynddo neu wedi bod yn bresennol ynddo yn groes i'r Gorchymyn hwn neu yn groes i drwydded a ddyroddir odano, ei gwneud yn ofynnol i'r person y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo lanhau a diheintio'r cyfryw fangre, lle neu gerbyd mewn unrhyw ddull y caniateir i'r arolygydd drwy'r cyfryw hysbysiad ei bennu, ar draul y person y cyflwynir yr hysbysiad iddo.
(2) Pan na chydymffurfiwyd â gofynion y cyfryw hysbysiad, caiff yr arolygydd wneud neu beri gwneud y gwaith glanhau a diheintio a bennir yn yr hysbysiad ar draul y person y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: