(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Darpariaethau Cyffredinol) (Cymru) 2008 ((S.I. 2008/614 (Cy.66)). Mae'r Rheoliadau yn darparu ar gyfer gorfodi sifil ar dramgwyddau parcio yng Nghymru yn unol â Rhan 6 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004. Mae Rhan 6 o Ddeddf 2004 a Rheoliadau a wneir oddi tani yn disodli darpariaethau Rhan II ac Atodlen 3 o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1991.

Mae rheoliad 3 yn galluogi bod tâl cosb yn cael ei osod am fathau penodol o dramgwyddau parcio. Mae tâl cosb yn daladwy gan berchennog y cerbyd o dan sylw (rheoliad 4(1)), ac eithrio yn yr amgylchiadau a bennir yn rheoliad 4(2) i (4) (cerbyd a logir gan ffyrm llogi cerbydau o dan gytundeb llogi cerbydau). Yn unol â rheoliad 5, rhaid peidio â gosod tâl cosb ac eithrio ar sail cofnod a gynhyrchir gan “ddyfais a gymeradwyir” (gweler adran 92(1) o Ddeddf Rheoli Traffig 2004 a Gorchymyn Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Dyfeisiadau a Gymeradwyir) (Cymru) (Rhif 2) 2008 (O.S. 2008/1215 (Cy.123)) neu wybodaeth a roddir gan swyddog gorfodi sifil o ran ymddygiad y bydd y swyddog hwnnw yn sylwi arno. Mae rheoliad 6 yn darparu na fydd tâl cosb yn daladwy am dramgwydd parcio os yw'r tramgwydd yn destun achos troseddol neu os rhoddwyd hysbysiad o gosb benodedig o dan Ddeddf Tramgwyddwyr Traffig Ffyrdd 1988, ond, os caiff tâl cosb ei dalu mewn gwirionedd yn y naill amgylchiad neu'r llall, rhaid i'r awdurdod gorfodi ei ad-dalu.

Gwneir darpariaeth gan Ran 3 ynghylch atal cerbydau rhag symud. Mae rheoliad 7 yn diffinio pryd y caniateir gosod dyfais ar gerbyd i'w atal rhag symud, yn ei gwneud yn ofynnol i hysbysiad gael ei osod ar y cerbyd pan atelir ef rhag symud ac yn creu'r tramgwyddau o ymyrryd â'r hysbysiad neu'r ddyfais atal rhag symud. Mae rheoliad 8 yn pennu eithriadau i'r pŵer cyffredinol i atal cerbydau rhag symud ac mae rheoliad 9 yn pennu'r rhagangenrheidiau ar gyfer rhyddhau cerbyd o'r ddyfais atal rhag symud.

Yn Rhan 4, mae rheoliad 10 yn cymhwyso adran 55 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984, gydag addasiadau, i incwm a gwariant awdurdodau gorfodi o dan Ran 6 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004 ac mae rheoliad 11 yn darparu ar gyfer cario gwargedau ymlaen gan awdurdodau lleol mewn cyfrifon a gedwir o dan adran 55 fel yr oedd yr adran honno yn gymwys i'r awdurdodau hynny o dan orchmynion a wnaed o dan Atodlen 3 i Ddeddf Traffig Ffyrdd 1991.

Mae Asesiad Effaith Rheoleiddiol llawn a Memorandwm Esboniadol i'w gael gan yr Uned Trafnidiaeth Integredig, yr Is-adran Cynllunio Trafnidiaeth a Gweinyddu, Trafnidiaeth Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Swyddfeydd y Goron, Parc Cathays, Caerdydd, CF 10 3NQ neu ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru yn