RHAN 1Rhagarweiniad
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Tafod Glas (Cymru) 2008; maent yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 26 Ebrill 2008.
Dehongli
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “anifail” (“animal”) yw anifail sy'n cnoi cil (ac at ddibenion y Rheoliadau hyn ystyrir bod pob camelid yn anifail sy'n cnoi cil) ac ystyr “carcas” (“carcase”), “embryo” (“embryo”), “ofwm” (“ovum”) a “semen” (“semen”) yw carcas, embryo, ofwm a semen anifail o'r fath;
ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw arolygydd a benodwyd yn arolygydd o'r fath gan Weinidogion Cymru neu awdurdod lleol at ddibenion y Rheoliadau hyn ac, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, mae'n cynnwys arolygydd milfeddygol;
ystyr “arolygydd milfeddygol” (“veterinary inspector”) yw person a benodwyd yn arolygydd o'r fath gan Weinidogion Cymru at ddibenion y Rheoliadau hyn;
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”), o ran ardal, yw'r cyngor sir neu'r cyngor bwrdeistref sirol ar gyfer yr ardal honno;
ystyr “brechlyn” (“vaccine”) yw brechlyn yn erbyn feirws y tafod glas;
ystyr “gwybedyn” (“midge”) yw pryfyn o'r genws Culicoides;
mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw fan neu le;
ystyr “mangre heintiedig” (“infected premises”) yw mangre lle mae bodolaeth y tafod glas wedi'i chadarnhau; ac
ystyr “parth rheoli” (“control zone”) yw parth y cyfeirir ato yn rheoliad 12.
(2) Rhaid i unrhyw awdurdodiad, trwydded, hysbysiad neu ddynodiad o dan y Rheoliadau hyn fod yn ysgrifenedig, caiff fod yn ddarostyngedig i amodau a chaniateir diwygio, atal, neu ddirymu unrhyw un ohonynt drwy hysbysiad ar unrhyw bryd.
Esemptiadau
3. Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran—
(a)unrhyw beth y mae person wedi'i awdurdodi i'w wneud drwy drwydded a roddwyd o dan Orchymyn Pathogenau Anifeiliaid Penodedig 1998(1);
(b)unrhyw ganolfan gwarantîn neu gyfleuster cwarantîn a gymeradwywyd o dan Reoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru) 2006(2);
(c)rhoi brechlyn at ddibenion ymchwil yn unol â thystysgrif prawf anifeiliaid a roddwyd o dan Reoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol 2007(3).
Trwyddedau
4.—(1) Rhaid i berson sy'n symud unrhyw beth o dan awdurdod trwydded benodol a roddir o dan y Rheoliadau hyn—
(a)cario'r drwydded neu gopi ohoni gydag ef bob amser yn ystod y symudiad trwyddedig;
(b)dangos, os gofynnir iddo wneud hynny gan arolygydd milfeddygol, arolygydd neu swyddog i Weinidogion Cymru, y drwydded neu'r copi a chaniatáu i gopi neu ddyfyniad ohoni neu ohono gael ei gymryd.
(2) Rhaid i berson sy'n symud unrhyw beth o dan awdurdod trwydded gyffredinol a roddir o dan y Rheoliadau hyn—
(a)cario, ar bob adeg yn ystod y symudiad, nodyn traddodi sy'n cynnwys manylion am y canlynol—
(i)yr hyn sy'n cael ei gludo, gan gynnwys faint ohono;
(ii)dyddiad y symudiad;
(iii)enw'r traddodwr;
(iv)cyfeiriad y fangre y dechreuodd y symudiad ohoni;
(v)enw'r traddodai;
(vi)cyfeiriad mangre pen y daith;
(b)os gofynnir iddo wneud hynny gan arolygydd milfeddygol, arolygydd neu swyddog i Weinidogion Cymru, dangos y nodyn traddodi a chaniatáu i gopi neu ddyfyniad ohono gael ei gymryd.
Trwyddedau a roddwyd y tu allan i Gymru
5. Ac eithrio pan fo Gweinidogion Cymru wedi cyfarwyddo fel arall a chan eithrio mewn cysylltiad â thrwydded i gael brechlyn neu drwydded i frechu, mae trwyddedau a roddwyd yn yr Alban neu yn Lloegr ar gyfer gweithgareddau y gellid eu trwyddedu yng Nghymru o dan y Rheoliadau hyn yn cael effaith yng Nghymru fel petaent yn drwyddedau a roddwyd o dan y Rheoliadau hyn.
Datgan parthau
6. O ran datganiadau parthau—
(a)rhaid iddynt fod mewn ysgrifen;
(b)caniateir eu diwygio drwy ddatganiad pellach ar unrhyw adeg;
(c)rhaid iddynt ddynodi hyd a lled y parth sy'n cael ei ddatgan; ac
(ch)ni chaniateir eu dirymu ond drwy ddatganiad pellach.
Mangreoedd sy'n pontio parthau
7.—(1) Ymdrinnir â mangre sy'n rhannol oddi mewn i barth rheoli dros dro ac nad yw oddi mewn i unrhyw barth arall fel mangre sydd oddi mewn i'r parth rheoli dros dro.
(2) Ymdrinnir â mangre sy'n rhannol oddi mewn i barth rheoli fel petai oddi mewn i'r parth hwnnw.
(3) Ymdrinnir â mangre sy'n rhannol oddi mewn i barth brechu fel petai oddi mewn i'r parth hwnnw.
(4) Fel arall—
(a)os yw parth dan gyfyngiadau wedi'i rannu'n barth gwarchod a pharth gwyliadwriaeth, ymdrinnir â mangre sy'n rhannol oddi mewn i'r parth gwarchod ac yn rhannol oddi mewn i'r parth gwyliadwriaeth fel petai oddi mewn i'r parth gwarchod;
(b)ymdrinnir â mangre sy'n rhannol oddi mewn i barth dan gyfyngiadau ac yn rhannol oddi mewn i ardal lle nad oes rheolaethau ar gyfer y tafod glas fel petai'r fangre honno oddi mewn i'r parth dan gyfyngiadau; ac
(c)ymdrinnir â mangre sy'n rhannol oddi mewn i barth dan gyfyngiadau ac yn rhannol oddi mewn i barth rheoli dros dro fel petai oddi mewn i'r parth dan gyfyngiadau.