Hysbysiadau llosgi
8.—(1) Os yw Gweinidogion Cymru yn credu bod llystyfiant penodedig wedi'i losgi'n groes i'r Rheoliadau hyn, cânt gyflwyno hysbysiad (“hysbysiad llosgi”) i feddiannydd y tir o dan sylw yn ei gwneud yn ofynnol iddo eu hysbysu, yn y modd a bennir ganddynt yn yr hysbysiad llosgi, o unrhyw fwriad i losgi unrhyw lystyfiant penodedig ar unrhyw dir y mae'n ei feddiannu o ddyddiad cyflwyno'r hysbysiad hwnnw.
(2) Ni chaniateir i hysbysiad llosgi fod yn gymwys am fwy na dwy flynedd o ddyddiad ei gyflwyno.