YR ATODLENAddasiadau i Ddeddfau Seneddol sy'n gysylltiedig â diddymu Awdurdodau Iechyd Cymru a chreu Byrddau Iechyd Lleol

Deddfau Seneddol

Deddf Cymorth Gwladol 1948 (p.24)

1.  Yn adran 26 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 (darparu llety mewn eiddo a gynhelir gan sefydliadau gwirfoddol), yn is-adran (1C) yn lle “Health Authority” rhodder “Local Health Board”.