http://www.legislation.gov.uk/wsi/2007/961/article/2/made/welsh
Gorchymyn Cyfeiriadau at Awdurdodau Iechyd 2007
cy
King's Printer of Acts of Parliament
2011-07-05
Y GWASANAETH IECHYD, CYMRU
Mae'r Gorchymyn hwn yn gwneud diwygiadau sy'n gysylltiedig â sefydlu Byrddau Iechyd Lleol yng Nghymru o 1 Ebrill 2003 a diddymu Awdurdodau Iechyd ar yr un dyddiad. Mae'r Gorchymyn yn diwygio deddfiadau yn briodol er mwyn adlewyrchu'r ffaith y trosglwyddwyd swyddogaethau'r hen Awdurdodau Iechyd i'r Cynulliad o dan y Gorchymyn Awdurdodau Iechyd (Trosglwyddo Swyddogaethau, Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau a Diddymu (Cymru) 2003 (O.S. 2003/813) a gwnaed swyddogaethau o'r fath wedyn yn arferadwy gan Fyrddau Iechyd Lleol o dan y Rheoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/150). Mae'r Gorchymyn yn gwneud diwygiadau pellach i ddeddfiadau o ganlyniad i, neu mewn cysylltiad â, diddymu Awdurdodau Iechyd Cymru.
Rhychwant2
Mae gan addasiad o ddeddfiad gan y Gorchymyn hwn yr un rhychwant â'r deddfiad a addaswyd.