(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn ychwanegu Rhan 39 newydd at Atodlen 2 i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995. Mae Rhan 39 yn rhoi caniatâd cynllunio mewn perthynas â datblygu penodol sy'n angenrheidiol at ddibenion lletya dofednod ac adar caeth eraill i'w hamddiffyn rhag ffliw adar. Mae graddau a natur y datblygu a ganiateir yn ddarostyngedig i gyfyngiadau. Pan fo Rhan 39 yn gymwys i'r datblygu, nid oes angen unrhyw gais penodol am ganiatâd cynllunio. Mae caniatâd cynllunio yn cael ei roi yn hytrach gan Ran 39, yn ddarostyngedig i amodau sy'n ei gwneud yn ofynnol i hysbysu'r awdurdod cynllunio lleol a chael gwared ar y datblygiad pan fo'r angen amdano wedi dod i ben neu erbyn 21 Mawrth 2008 p'un bynnag yw'r cynharaf.