RHAN 1RHAGYMADRODD
Enwi, cymhwyso a chychwyn1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) 2007. Maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 6 Ebrill 2007.
Dehongli2
1
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw person a benodwyd yn arolygydd at ddibenion y Rheoliadau hyn gan y Cynulliad Cenedlaethol neu gan awdurdod lleol;
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) o ran ardal yw'r cyngor sir neu'r cyngor bwrdeistref sirol ar gyfer yr ardal honno;
ystyr “ceidwad” (“keeper”) yw unrhyw berson sy'n gyfrifol am anifeiliaid, boed hynny'n barhaol neu dros dro, gan gynnwys pan gludir hwy neu pan fyddant mewn marchnad;
ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ;
ystyr “daliad” (“holding”) yw unrhyw sefydliad, adeiladwaith neu, yn achos fferm awyr agored, unrhyw le y mae gwartheg yn cael eu dal, eu cadw neu eu trafod;
“deddfwriaeth tagio gwartheg flaenorol” (“previous cattle tagging legislation”) yw—
ystyr “dilys” (“valid”), o ran pasbort gwartheg, yw pasbort gwartheg a gafodd ei gwblhau'n gywir a'i lofnodi yn y lle priodol yn gywir gan bob ceidwad i'r anifail a bod Rhif adnabod a disgrifiad o'r anifail yn y pasbort yn cyfateb i dagiau clust yr anifail;
ystyr “gwartheg” (“cattle”) yw anifeiliaid buchol, gan gynnwys bison a byfflo;
ystyr “pasbort gwartheg” (“cattle passport”) yw—
- a
pasbort gwartheg a ddyroddwyd yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban o dan Erthygl 6(1) o Reoliad (EC) Rhif 1760/2000;
- b
pasbort gwartheg a ddyroddwyd o dan Orchymyn Pasbortau Gwartheg 199610; ac
- c
dogfen symud a ddyroddwyd o dan Reoliadau Gwartheg (Adnabod Anifeiliaid Hyn) (Cymru) 200011 neu'r mesur cyfatebol yn yr Alban, Lloegr neu Ogledd Iwerddon;
- a
ystyr “Rheoliad (EC) Rhif 1760/2000” (“Regulation (EC) No. 1760/2000”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1760/2000 Senedd Ewrop a'r Cyngor (sy'n sefydlu system ar gyfer adnabod a chofrestru anifeiliaid buchol ac sy'n ymwneud â labelu cynhyrchion cig eidion ac yn diddymu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 820/9712);
2
Rhaid i unrhyw gymeradwyaeth, awdurdodiad, trwydded, hysbysiad neu gofrestriad a ddyroddir o dan—
a
y Rheoliadau hyn,
b
Rheoliad (EC) Rhif 1760/2000;
c
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 911/2004 (sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1760/2000 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran tagiau clust, pasbortau a chofrestrau daliadau13); neu
ch
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 644/2005 (sy'n awdurdodi system adnabod arbennig ar gyfer anifeiliaid buchol a gedwir at ddibenion diwylliannol a hanesyddol mewn mangreoedd a gymeradwywyd fel a ddarperir yn Rheoliad (EC) Rhif 1760/2000 Senedd Ewrop a'r Cyngor14),
fod yn ysgrifenedig, caniateir i unrhyw un ohonynt gael ei wneud yn ddarostyngedig i amodau, cael ei ddiwygio, cael ei atal neu ei ddirymu drwy hysbysiad ysgrifenedig ar unrhyw bryd.
RHAN 2
Hysbysiad o ddaliadau3
1
Rhaid i feddiannydd daliad sy'n dechrau cadw gwartheg ar y daliad hwnnw, ac unrhyw berson sy'n cymryd y feddiannaeth drosodd o ddaliad lle y cedwir gwartheg, hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o fewn un mis—
a
o'i enw a'i gyfeiriad; a
b
cyfeiriad y daliad.
2
Pan fydd yn derbyn hysbysiad o dan baragraff (1) rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ddyroddi nod buches ar gyfer pob daliad.
3
Rhaid i'r meddiannydd hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o unrhyw newid i'r wybodaeth ym mharagraff (1) o fewn un mis.
RHAN 3Adnabod a chofrestru gwartheg
Tagiau clust4
Mae Atodlen 1 (tagiau clust) yn effeithiol.
Cofrestru gwartheg5
Mae Atodlen 2 (cofrestru gwartheg) yn effeithiol.
Pasbortau gwartheg6
Mae Atodlen 3 (pasbortau gwartheg) yn effeithiol.
Hysbysiad o symudiadau a marwolaeth7
Mae Atodlen 4 (hysbysiad o symud neu farwolaeth) yn effeithiol.
Cofnodion8
Mae Atodlen 5 (cofnodion) yn effeithiol.
RHAN 4CYFFREDINOL
Codi tâl am wybodaeth9
Caiff y Cynulliad Cenedlaethol godi tâl rhesymol am ddarparu gwybodaeth a gaiff ei storio yn y gronfa ddata sy'n ofynnol gan Erthygl 5 o Reoliad (EC) Rhif 1760/2000 ac a ddarperir yn unol ag ail baragraff Erthygl 3 o'r Rheoliad hwnnw.
Pwerau arolygwyr10
1
Caiff arolygydd, wrth iddo ddangos dogfen a ddilyswyd yn briodol sy'n dangos ei awdurdod, os gofynnir amdani, ar bob adeg resymol fynd ar dir neu i fangre er mwyn canfod a aethpwyd yn groes i'r canlynol —
a
y Rheoliadau hyn;
b
Teitl I o Reoliad (EC) Rhif 1760/2000;
c
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 494/98 (sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 820/97 o ran cymhwyso y lefel isat o sancsiynau yn fframwaith y system ar gyfer adnabod a chofrestru anifeiliaid buchol15);
ch
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 509/1999 (ynghylch estyn y cyfnod hiraf a osodwyd ar gyfer rhoi tagiau clust ar fison16)
d
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 911/2004; ac
dd
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 644/2005,
ac yn y rheoliad hwn mae “mangre” yn cynnwys unrhyw le, gosodiad, cerbyd, llong, llestr, cwch, bad, hofranlong neu awyren.
2
Dim ond os caiff y pwer ei ddefnyddio mewn cysylltiad â'r darpariaethau ym mharagraff (1) y mae pwer i fynd i fangre yn cynnwys y pwer i fynd i fangre ddomestig.
3
Caiff arolygydd gyflawni gwiriadau ac archwiliadau sy'n angenrheidiol ar gyfer gorfodi'r darpariaethau ym mharagraff (1), a chaiff yn benodol—
a
casglu, corlannu ac arolygu unrhyw wartheg, a chaiff ofyn i'r ceidwad drefnu casglu, corlannu a dal gafael ar wartheg;
b
cymryd samplau;
c
archwilio unrhyw gofnodion ar ba ffurf bynnag y bônt a chymryd copïau o'r cofnodion hynny;
ch
symud a chadw unrhyw gofnodion neu ddogfennau (gan gynnwys pasbortau) sy'n ymwneud â'r Rheoliadau hyn;
d
cael mynediad at unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar neu ddeunyddiau cysylltiedig sy'n cael neu sydd wedi cael eu defnyddio mewn cysylltiad â chofnodion, a'u harchwilio a gwirio eu gweithrediad a gall ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sydd â gofal dros y cyfrifiadur, y cyfarpar neu'r deunydd, neu sydd fel arall yn ymwneud â'u gweithredu, roi i'r arolygydd unrhyw gymorth y bydd yn rhesymol i'r arolygydd ofyn amdano;
dd
os cedwir cofnodion drwy gyfrwng cyfrifiadur, caiff ei gwneud yn ofynnol bod y cofnodion yn cael eu cynhyrchu ar ffurf sy'n caniatáu mynd â hwy oddi yno;
e
ei gwneud yn ofynnol i unrhyw dagiau clust nas defnyddiwyd, a chofnod o'u Rhif au gael eu dangos; ac
f
mynd â chynrychiolydd o'r Comisiwn Ewropeaidd neu unrhyw berson arall y mae o'r farn bod ei angen gydag ef.
Pwerau i gyfyngu ar symudiadau11
Yn unol ag ail baragraff Erthygl 22(1) o Reoliad (EC) Rhif 1760/2000, caiff swyddog o'r Cynulliad Cenedlaethol gyflwyno i geidwad anifeiliaid ar ddaliad hysbysiad yn cyfyngu symudiadau gwartheg i'r daliad ac ohono os yw wedi'i fodloni bod angen hyn er mwyn gorfodi'r Rheoliad hwnnw, y Rheoliadau hyn, Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 494/98, Rhif 509/1999, Rhif 911/2004 a Rhif 644/2005, a bydd unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio â'r hysbysiad hwnnw'n euog o dramgwydd.
Cigydda anifeiliaid heb eu marcio12
Y Cynulliad Cenedlaethol yw'r awdurdod milfeddygol a'r awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 1(2) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 494/98.
Rhwystro etc13
1
Mae person sydd—
a
yn rhwystro unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith;
b
heb achos rhesymol, yn methu â rhoi i unrhyw berson sydd yn gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith, unrhyw gymorth neu wybodaeth y mae'r person hwnnw yn rhesymol yn gofyn amdano neu amdani er mwyn i'r person hwnnw gyflawni ei swyddogaethau;
c
yn rhoi i unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith unrhyw wybodaeth y mae'r person hwnnw sy'n rhoi'r wybodaeth yn gwybod ei bod yn anwir neu'n gamarweiniol; neu
ch
yn methu â dangos pasbort, dogfen neu gofnod, pan ofynnir iddo wneud hynny, i unrhyw berson sy'n gweithredu o dan y Rheoliadau hyn;
yn euog o dramgwydd.
2
Mae unrhyw berson sy'n rhoi gwybodaeth anwir yn unrhyw hysbysiad a wneir o dan y Rheoliadau hyn yn euog o dramgwydd.
Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol14
1
Os yw corff corfforaethol yn euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, ac os profir bod y tramgwydd wedi'i wneud drwy gydsyniad neu ymoddefiad, neu wedi'i briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran—
a
unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall o'r corff corfforaethol; neu
b
unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o'r fath,
bydd y person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o dramgwydd a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.
2
Yn y rheoliad hwn ystyr “cyfarwyddwr” mewn perthynas â chorff corfforaethol y mae ei fusnes yn cael ei reoli gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol.
Cosbau15
Mae person sy'n euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yn atebol—
a
o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol neu garchariad am gyfnod nad yw'n hirach na thri mis, neu'r ddau;
b
ar gollfarn ar dditiad, i ddirwy neu garchariad am gyfnod nad yw'n fwy na dwy flynedd, neu'r ddau.
Gorfodi16
1
Caiff y Rheoliadau hyn eu gorfodi gan yr awdurdod lleol.
2
Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gyfarwyddo y bydd mewn unrhyw achos penodol neu ddosbarth o achosion yn eu gorfodi hwy ei hunan.
Dirymiadau17
Mae'r canlynol wedi'u dirymu i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru —
a
Gorchymyn Anifeiliaid Buchol (Cofnodion, Adnabod a Symud) 199517;
b
Rheoliadau Adnabod Gwartheg 199818;
c
Rheoliadau Cronfa Ddata Gwartheg 199819;
ch
Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Diwygio) 199820;
d
Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Diwygio) 199921;
dd
Rheoliadau Gwartheg (Adnabod Anifeiliaid Hyn) (Cymru) 200022;
e
Rheoliadau Cronfa Ddata Gwartheg (Diwygio) (Cymru) 200223;
f
Rheoliadau Gwartheg (Adnabod Anifeiliaid Hyn) (Cymru) (Diwygio) 200224;
ff
Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Diwygio) 200625; a
g
Rheoliadau Cronfa Ddata Gwartheg (Diwygio) 200626.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 199827