2007 Rhif 787 (Cy.68)
Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) 2007
Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1
1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) 2007 a deuant i rym am 6am ar 2 Ebrill 2007.
2
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
3
Yn y Rheoliadau hyn (ac eithrio pan fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall) —
mae “annedd breifat” (“private dwelling”) yn cynnwys llety preswyl hunangynhwysol ar gyfer defnydd dros dro neu wyliau ac unrhyw garej, tŷ allan neu strwythr arall at ddefnydd personau sy'n byw yn yr annedd yn unig;
mae “cartref gofal” (“care home”) i'w ddehongli yn unol ag adran 3 o Ddeddf Safonau Gofal 20003;
ystyr “cerbyd preifat” (“private vehicle”) yw cerbyd a ddefnyddir yn llwyr neu'n bennaf at ddibenion preifat y person sy'n berchen arno neu sydd â hawl i'w ddefnyddio nad yw'n deillio o daliad neu ymgymeriad i dalu am gael defnyddio'r cerbyd neu ei yrrwr ar gyfer taith benodol.
ystyr “dynodedig” (“designated”) yw wedi'i ddynodi yn ysgrifenedig gan y person sydd â gofal y fangre;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd 2006;
ystyr “hosbis i oedolion” (“adult hospice”) yw sefydliad, a'i ddiben yn llwyr neu ei brif ddiben yw darparu gofal lliniarol i bersonau heb fod o dan 18 oed sy'n preswylio yno ac sy'n dioddef o glefyd sy'n gwaethygu ac sydd yn ei gyfnodau olaf;
ystyr “uned iechyd meddwl” (“mental health unit”) yw sefydliad neu ran o sefydliad a'i brif ddiben neu ei phrif ddiben yw darparu triniaeth neu nyrsio (neu'r ddau) i bersonau sy'n dioddef o anhwylder meddwl fel y'i diffinnir yn adran 1(2) o Ddeddf Iechyd Meddwl 19834.
Ystyr mangre “gaeedig” a “sylweddol gaeedig”2
1
At ddibenion adran 2 o'r Ddeddf, mae mangre yn gaeedig os oes ganddi nenfwd neu do, ac os yw hi heblaw am ddrysau, ffenestri a choridorau, yn gwbl gaeedig naill ai'n barhaol neu dros dro.
2
At ddibenion adran 2 o'r Ddeddf, mae mangre yn sylweddol gaeedig os oes ganddi nenfwd neu do ac os yw cyfanswm arwynebedd unrhyw agoriadau yn y waliau yn llai na hanner arwynebedd y waliau, gan gynnwys strwythurau eraill sy'n cyflawni diben waliau.
3
Wrth benderfynu arwynebedd yr agoriadau at ddibenion paragraff (2), ni ddylid cymryd unrhyw gyfrif o agoriadau y mae drysau, ffenestri neu ffitiadau eraill ynddynt y gellir eu hagor neu eu cau.
4
Yn y rheoliad hwn mae “to” yn cynnwys unrhyw strwythur gosodedig neu symudol neu ddyfais osodedig neu symudol.
Esemptiadau i fangreoedd di-fwg3
1
Nid yw annedd breifat yn ddi-fwg ac eithrio unrhyw ran ohoni—
a
a rennir gyda mangre arall (gan gynnwys unrhyw annedd breifat arall) neu
b
a ddefnyddir yn unig fel lle gwaith heblaw gwaith sy'n cael ei eithrio gan baragraffau (2) neu (3).
2
Mae gwaith a gaiff ei wneud mewn rhan o annedd a ddefnyddir yn unig fel lle gwaith yn cael ei eithrio o baragraff (1)(b) os nad oes neb (heblaw person sy'n byw yn yr annedd) yn gweithio yn y rhan honno neu'n cael ei wahodd i ddod i'r rhan honno mewn cysylltiad â'r gwaith.
3
Eithrir o baragraff (1)(b) bob gwaith a gaiff ei wneud yn unig—
i
er mwyn darparu gofal personol neu ofal iechyd i berson sy'n byw yn yr annedd;
ii
er mwyn cynorthwyo gyda gwaith domestig yr aelwyd yn yr annedd;
iii
er mwyn cynnal strwythur neu adeiladwaith yr annedd;
iv
er mwyn gosod, arolygu, cynnal neu symud unrhyw wasanaeth a ddarperir i'r annedd er budd y personau sy'n byw ynddi.
4
Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (6) nid yw'r disgrifiadau canlynol o fangreoedd yn rhai di-fwg —
a
ystafelloedd dynodedig i'w defnyddio gan y rhai sy'n 18 oed neu drosodd —
i
mewn cartref gofal;
ii
mewn hosbis i oedolion;
iii
mewn uned iechyd meddwl sy'n darparu llety preswyl ar gyfer cleifion;
b
ystafelloedd dynodedig mewn cyfleuster ymchwil neu gyfleuster cynnal profion;
c
ystafelloedd gwely dynodedig mewn gwesty, gwesty bach, tafarn, hostel neu glwb aelodau.
5
At ddibenion paragraff (4) ystyr “ystafell ddynodedig” neu “ystafell wely ddynodedig” yn ôl y digwydd, yw ystafell —
a
a gafodd ei dynodi gan y person sydd â gofal y sefydliad o dan sylw yn ystafell lle y caniateir ysmygu;
b
y mae ganddi nenfwd ac sydd, heblaw am ddrysau a ffenestri, yn hollol gaeedig ar bob ochr gan waliau solet o'r llawr i'r nenfwd;
c
nad oes ganddi system awyru sy'n awyru i ran arall o'r fangre (ac eithrio unrhyw ystafelloedd dynodedig neu ystafelloedd gwely dynodedig eraill, yn ôl y digwydd);
ch
nad oes ganddi unrhyw ddrws sy'n agor i fangre ddi-fwg ac nad yw'n cau'n fecanyddol yn union ar ôl ei ddefnyddio; a
d
sydd wedi'i marcio'n glir yn ystafell lle y caniateir ysmygu.
6
Nid yw ystafell ddynodedig mewn cyfleuster ymchwil neu gyfleuster gynnal profion yn ystafell ddi-fwg pan fydd yn cael ei defnyddio ar gyfer unrhyw ymchwil neu ar gyfer cynnal profion sy'n ymwneud â—
i
mwg a ollyngir o dybaco a chynhyrchion eraill a ddefnyddir ar gyfer ysmygu;
ii
datblygu cynhyrchion ar gyfer ysmygu gyda llai o berygl o ran tân neu â chynnal profion tân ar ddeunyddiau sy'n ymwneud â chynhyrchion ar gyfer ysmygu;
iii
datblygu cynhyrchion ysmygu neu fferyllol a allai olygu gweithgynhyrchu cynhyrchion llai peryglus ar gyfer ysmygu; neu
iv
rhaglenni rhoi'r gorau i ysmygu.
Cerbydau di-fwg4
1
Yn ddarostyngedig i baragraffau canlynol y rheoliad hwn, rhaid i gerbyd fod yn ddi-fwg os caiff ei ddefnyddio —
a
i gludo aelodau o'r cyhoedd neu garfan o'r cyhoedd (p'un ai am dâl neu dan log ai peidio); neu
b
at ddibenion gwaith gan fwy nag un person (hyd yn oed os yw'r personau sy'n ei ddefnyddio at y cyfryw ddibenion yn gwneud hynny ar adegau gwahanol, neu ar adegau ysbeidiol yn unig).
2
Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i gerbydau a rhannau o gerbydau sy'n gaeedig.
3
Mae cerbyd neu ran o gerbyd yn gaeedig at ddibenion paragraff (2) os oes ganddo ddrysau neu ffenestri y gellir eu hagor ond nid yw'n gaeedig oni bai bod to drosto yn gyfan gwbl neu'n rhannol.
4
Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i bob cerbyd heblaw —
a
awyrennau; neu
b
llongau neu hofranlongau y gellid gwneud rheoliadau ar eu cyfer o dan adran 85 o Ddeddf Llongau Masnachol 1995 (p.21) (diogelwch ac iechyd ar longau), gan gynnwys yr adran honno fel y'i cymhwysir gan unrhyw Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor o dan adran 1(1)(h) o Ddeddf Hofranlongau 1968 (p.59) neu i bersonau ar unrhyw long neu hofrenlong o'r fath; neu
c
cerbydau preifat
5
Yn y rheoliad hwn nid yw “to” yn cynnwys unrhyw do a gaiff ei roi o'r neilltu yn gyfan gwbl fel nad yw dros unrhyw ran o gerbydran y caiff personau deithio ynddi.
Arwyddion dim ysmygu: mangreoedd di-fwg5
1
At ddibenion adran 6 o'r Ddeddf, rhaid i unrhyw berson sy'n meddiannu mangre ddi-fwg neu'n ymwneud â'i rheoli sicrhau bod arwyddion dim ysmygu sy'n bodloni'r gofynion a bennir ym mharagraff (2) yn cael eu harddangos yn y fangre honno yn unol â'r gofynion sydd ym mharagraff (3).
2
Rhaid i arwydd dim ysmygu —
a
fod yn fflat, yn betryal o ran ei siâp ac yn 160 o filimetrau wrth 230 o filimetrau o leiaf o ran ei faint;
b
cynnwys darlun graffeg o sigarét yn llosgi o fewn cylch coch sy'n 85 o filimedrau mewn diamedr o leiaf a chyda bar coch ar draws y cylch sy'n croesi symbol y sigarét;
c
cynnwys y geiriau canlynol — “Mae ysmygu yn y fangre hon yn erbyn y gyfraith / It is against the law to smoke in these premises”.
3
Rhaid arddangos arwydd dim ysmygu sy'n cydymffurfio â gofynion paragraff (2) mewn lle amlwg wrth neu gerllaw pob mynedfa i fangre ddi-fwg.
Arwyddion dim ysmygu: cerbydau di-fwg6
1
Rhaid i'r person perthnasol o ran cerbyd sy'n ddi-fwg yn rhinwedd rheoliad 4 sicrhau bod arwyddion dim ysmygu sy'n bodloni'r gofynion a bennir ym mharagraff (2) yn cael eu harddangos ar y cerbyd yn unol â'r gofynion sydd ym mharagraff (3).
2
Rhaid i arwydd dim ysmygu gynnwys darlun graffeg o sigarét yn llosgi o fewn cylch coch sy'n 75 o filimedrau mewn diamedr o leiaf a chyda bar coch ar draws y cylch sy'n croesi symbol y sigarét.
3
Rhaid arddangos arwydd dim ysmygu sy'n cydymffurfio â gofynion paragraff (2) mewn lle amlwg ym mhob cerbydran o'r cerbyd, y mae to drosti neu'n rhannol drosti, gan gynnwys cerbydran y gyrrwr.
4
Ym mharagraff (3) nid yw “to” yn cynnwys to a gaiff ei roi o'r neilltu yn gyfan gwbl fel nad yw dros unrhyw ran o gerbydran y caiff personau deithio ynddi.
5
At ddibenion y rheoliad hwn a rheoliad 7, ystyr “person perthnasol” o ran cerbyd di-fwg yw —
a
y gweithredydd,
b
y gyrrwr, ac
c
unrhyw berson mewn cerbyd sy'n gyfrifol am drefn neu am ddiogelwch arno.
Dyletswydd i atal ysmygu mewn cerbydau di-fwg7
Mae'n ddyletswydd ar y person perthnasol o ran cerbyd sy'n ddi-fwg yn rhinwedd rheoliad 4 beri bod person sy'n ysmygu yn y cerbyd yn stopio ysmygu.
Gorfodi: dynodi awdurdodau gorfodi8
1
Dynodir cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol yng Nghymru yn awdurdodau gorfodi at ddibenion Pennod 1 o Ran 1 o'r Ddeddf.
2
Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae gan bob awdurdod gorfodi swyddogaethau gorfodi o ran y mangreoedd a'r cerbydau sydd o fewn ei ardal.
3
Os bydd mwy nag un awdurdod gorfodi yn gwneud ymchwiliadau ynglŷn â'r un person o dan y pwerau a roddir gan Bennod 1 o Ran 1 o'r Ddeddf, caiff yr awdurdodau o dan sylw, drwy gytundeb, drosglwyddo'r swyddogaethau gorfodi i un ohonynt neu i unrhyw awdurdod gorfodi arall.
Gorfodi; hysbysiad o gosb9
1
Mae'r ffurfiau hysbysiad o gosb a osodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn yn cael eu pennu o ran y tramgwyddau a ddisgrifir ynddynt.
2
Os bydd newid yn swm cosb benodedig neu swm disgownt neu yn lefel y raddfa safonol, rhaid amrywio'r ffurf berthnasol benodedig er mwyn adlewyrchu'r newid hwnnw.
3
Caiff awdurdodau gorfodi gynnwys gwybodaeth ar ffurfiau hysbysiad o gosb o ran y dull talu neu i hwyluso prosesu'r ffurflenni'n ariannol ac yn weinyddol a chaiff gynnwys ar y ffurflenni arfbeisiau, logos neu ddyfeisiadau eraill i gynrychioli'r awdurdod.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19985.
YR ATODLENFfurfiau ar Hysbysiad o Gosb
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)