http://www.legislation.gov.uk/wsi/2007/733/note/made/welsh
Gorchymyn Deddf Plant a Mabwysiadu 2006 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2007
cy
King's Printer of Acts of Parliament
2011-07-05
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 2 Ebrill 2007 adran 13 o Ddeddf Plant a Mabwysiadu 2006, i'r graddau y mae'n ymwneud â mabwysiadau a darpar fabwysiadau y caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru (y Cynulliad Cenedlaethol) godi ffi mewn cysylltiad â hwy ar fabwysiadwyr a darpar fabwysiadwyr o dan adran 91A o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002. Mabwysiadau a darpar fabwysiadau yw'r rhain y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn cyflawni swyddogaethau mewn perthynas â hwy fel Awdurdod Canolog o dan Gonfensiwn yr Hâg ar Amddiffyn Plant a Chydweithrediad mewn cysylltiad â Mabwysiadu Rhwng Gwledydd 1993.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 2 Ebrill 2007 adran 13 o Ddeddf Plant a Mabwysiadu 20062, i'r graddau y mae'n ymwneud â mabwysiadau a darpar fabwysiadau y caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru (y Cynulliad Cenedlaethol) godi ffi mewn cysylltiad â hwy ar fabwysiadwyr a darpar fabwysiadwyr o dan adran 91A o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 20023. Mabwysiadau a darpar fabwysiadau yw'r rhain y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn cyflawni swyddogaethau mewn perthynas â hwy fel Awdurdod Canolog o dan Gonfensiwn yr Hâg ar Amddiffyn Plant a Chydweithrediad mewn cysylltiad â Mabwysiadu Rhwng Gwledydd 1993.