2007 Rhif 733 (Cy.65) (C.31)
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
Gorchymyn Deddf Plant a Mabwysiadu 2006 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2007
Wedi'i wneud
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 17(3) o Ddeddf Plant a Mabwysiadu 2006 —
Enwi, dehongli a chymhwyso1.
(1)
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Plant a Mabwysiadu 2006 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2007.
(2)
Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Y Diwrnod Penodedig2.
2 Ebrill 2007 yw'r diwrnod a benodwyd i adran 13 o Ddeddf Plant a Mabwysiadu 2006 ddod i rym i'r graddau y mae'n ymwneud â mabwysiadau a darpar fabwysiadau y caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru godi ffi o dan adran 91A o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 mewn cysylltiad â hwy.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 1.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 2 Ebrill 2007 adran 13 o Ddeddf Plant a Mabwysiadu 20062, i'r graddau y mae'n ymwneud â mabwysiadau a darpar fabwysiadau y caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru (y Cynulliad Cenedlaethol) godi ffi mewn cysylltiad â hwy ar fabwysiadwyr a darpar fabwysiadwyr o dan adran 91A o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 20023. Mabwysiadau a darpar fabwysiadau yw'r rhain y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn cyflawni swyddogaethau mewn perthynas â hwy fel Awdurdod Canolog o dan Gonfensiwn yr Hâg ar Amddiffyn Plant a Chydweithrediad mewn cysylltiad â Mabwysiadu Rhwng Gwledydd 1993.