Gorchymyn Traffig Ffyrdd (Ardal Barcio a Ganiateir ac Ardal Barcio Arbennig) (Sir Gwynedd) 2007
2007 Rhif 714 (Cy.62)
TRAFFIG FFYRDD, CYMRU

Gorchymyn Traffig Ffyrdd (Ardal Barcio a Ganiateir ac Ardal Barcio Arbennig) (Sir Gwynedd) 2007

Wedi'i wneud
Yn dod i rym
Mae Cyngor Sir Gwynedd wedi gwneud cais i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”) i Orchymyn gael ei wneud o dan baragraffau 1(1) a 2(1) o Atodlen 3 i Ddeddf Traffig Ffyrdd 19911 o ran Sir Gwynedd ac mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi ymgynghori â Phrif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru yn unol â gofynion paragraffau 1(3) a 2(3) o'r Atodlen honno ac â Chyngor y Tribiwnlysoedd yn unol â gofynion adran 8 o Ddeddf Tribiwnlysoedd ac Ymchwiliadau 19922;
Mae'r Cynulliad Cenedlaethol, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan baragraffau 1(1), 2(1) a 3(3) o Atodlen 3 i Ddeddf Traffig Ffyrdd 19913, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn: