Mae Pennod 1 (rheolaethau ar gŵn) o Ran 6 (cŵn) o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (p. 16) (“Deddf 2005”) yn sefydlu cyfundrefn newydd ar gyfer rheoli cŵn gan gynghorau sir, cynghorau bwrdeistref sirol a chynghorau cymuned (“awdurdodau”). Mae'r Bennod honno yn galluogi awdurdodau i wneud gorchmynion rheoli cŵn mewn perthynas ag unrhyw dir yn eu hardal sydd yn agored i'r awyr, yn ddarostyngedig i fod unrhyw dir wedi'i eithrio drwy orchymyn a wnaed gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'r Gorchymyn Rheolaethau ar Gŵn (Heb fod yn Gymwys i Dir Dynodedig) (Cymru) 2007 (O.S. 2007 Rhif 702 (W.59) yn dynodi, at ddibenion penodedig, y disgrifiadau a ganlyn o dir fel tir nad yw Pennod 1 o Rhan 6 o Ddeddf 2005 yn gymwys iddo—
tir a gaiff ei osod at ddefnydd y Comisiynwyr Coedwigaeth o dan adran 39(1) o Ddeddf Coedwigaeth 1967 (p. 10); a
tir sy'n ffordd, neu'n rhan o ffordd.
Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi, mewn perthynas â gorchmynion rheoli cŵn a wneir o dan adran 55 o Ddeddf 2005—
y gweithdrefnau sydd i'w dilyn gan awdurdodau pan maent yn gwneud, yn amrywio neu yn dirymu gorchmynion rheoli cŵn (rheoliadau 3 i 6);
y tramgwyddau y gellir darparu ar eu cyfer mewn gorchymyn rheoli cŵn (rheoliad 7(1) a pharagraff 1 o bob un o Atodlenni 1 i 5);
y cosbau uchaf y gellir eu darparu mewn gorchymyn rheoli cŵn mewn perthynas â'r tramgwyddau a ragnodir (rheoliad 7(2));
cynnwys a ffurf gorchymyn rheoli cŵn (gan gynnwys gorchmynion sy'n diwygio gorchymyn rheoli cŵn) (rheoliadau 8(a) a 9 a pharagraff 2 o bob un o Atodlenni 1 i 5 ac Atodlen 6); a
y dyddiad cynharaf y bydd gorchymyn (gan gynnwys gorchymyn sy'n diwygio gorchymyn rheoli cŵn) yn dod i rym arno (rheoliad 10).
Mae mwy o wybodaeth ar Bennod 1 o Ran 6 o Ddeddf 2005 i'w chael yn y Nodiadau Esboniadol i Ddeddf 2005 sydd ar gael yn http://www.opsi.gov.uk/acts/en2005/ukpgaen_20050016_en.pdf