Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Cymunedau Glân a'r Amgylchedd 2005;

ystyr “ffordd” (“road”) yw unrhyw ddarn o briffordd y caiff y cyhoedd fynd arno, ac mae'n cynnwys pontydd y mae ffordd yn mynd drostynt;

ystyr “tir” (“land”) yw unrhyw dir sydd yn agored i'r awyr ac y mae gan y cyhoedd hawl neu ganiatâd i fynd arno (gyda thâl neu heb dâl), ac mae unrhyw dir â tho drosto i'w drin fel tir “agored i'r awyr” os yw ar agor ar un ochr o leiaf.