Mae Rhan II o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (“Deddf 2000”) yn darparu bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn pennu pa awdurdodau lleol a gaiff weithredu “trefniadau amgen” (h.y. trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau'r awdurdod nad ydynt yn golygu creu a gweithredu gweithrediaeth i'r awdurdod) (adran 31(1)(b)) ac yn pennu ffurf y trefniadau hynny (adran 32(1)).
Mae'r Rheoliadau hyn yn caniatáu i bob cyngor sir a phob cyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru weithredu trefniadau amgen, ar yr amod bod y trefniadau hynny ar y ffurf sy'n ofynnol o dan y Rheoliadau hyn.
Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd neu sydd i fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd i raddau cyfyngedig yn unig neu o dan amgylchiadau penodedig yn unig. Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2001, Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Diwygio) (Cymru) 2002, Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Diwygio) (Cymru) 2003 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Diwygio) (Cymru) 2004 (“Rheoliadau 2001, 2002, 2003 a 2004”), yn cydgrynhoi darpariaethau'r rheoliadau hyn ac yn gwneud darpariaeth bellach.
Mae rheoliadau 4 a 5 yn pennu'r pwyllgorau y mae'n rhaid eu sefydlu pan fo awdurdod yn gweithredu trefniadau amgen, sef Bwrdd, prif bwyllgor craffu ac unrhyw bwyllgorau craffu eraill y penderfynir arnynt gan y cyngor (ar yr amod bod o leiaf dri a hyd at wyth ohonynt a hynny'n ychwanegol at y prif bwyllgor craffu). Mae gan awdurdodau ddisgresiwn i benderfynu a fyddant yn sefydlu pwyllgor cynllunio, pwyllgor trwyddedu, pwyllgorau ardal a phwyllgor archwilio.
Mae rheoliadau 10, 11, 12 a 13, drwy gyfeirio at yr Atodlenni i'r Rheoliadau, yn nodi'r cyfyngiadau ar ba swyddogaethau y caiff Bwrdd awdurdod lleol eu harfer. Yn Atodlen 1 rhestrir y swyddogaethau hynny y mae'n rhaid i'r Bwrdd beidio â'u harfer ac yn Atodlen 2 rhestrir y swyddogaethau hynny y caniateir iddynt fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd awdurdod, os bydd yr awdurdod yn penderfynu felly. Mae Rheoliad 12, drwy gyfeirio at Atodlen 3, yn nodi'r camau na chaniateir iddynt fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd awdurdod yn unig. Yn ôl rheoliad 13, nid yw'r swyddogaethau hynny a restrir yn Atodlen 4, a fyddai'n gyfrifoldeb i Fwrdd oni bai am reoliad 13, i fod yn gyfrifoldeb i'r Bwrdd o dan yr amgylchiadau a nodir yng ngholofn (2) o'r Atodlen honno.
Mae Rheoliad 18 yn dirymu Rheoliadau 2001, 2002, 2003 a 2004.
Paratowyd arfarniad rheoliadol mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn, ac mae ar gael o Is-adran Polisi Llywodraeth Leol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ (ffôn 02920825111).