Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer penodi Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru sef swydd a sefydlwyd o dan Ddeddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006.
Mae'r Rheoliadau'n gwneud darpariaeth amgen ar gyfer penodi Comisiynydd a'i ryddhau o'i swydd gan ddibynnu ar bryd y mae'r penodi neu'r rhyddhau o swydd yn digwydd. Mae'r Rheoliadau'n cymryd i ystyriaeth y newidiadau a fydd yn effeithiol o dan ddeddfiad diweddar Deddf Llywodraeth Cymru 2006 a cheisio sicrhau na fydd y newidiadau hynny'n peri oedi neu'n aflonyddu'n ormodol ar benodiad y Comisiynydd.
Yn benodol mae'r Rheoliadau'n gwneud darpariaeth y caiff y Comisiynydd ei benodi gan Brif Ysgrifennydd y Cynulliad fel y'i diffinnir gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998, os gwneir y penodiad cyn penodir Prif Weinidog Cymru newydd o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
Dim ond ar ôl dilyn cyngor gan unrhyw bwyllgor o'r Cynulliad a sefydlwyd er mwyn rhoi cyngor a phenderfynu ar faterion y mae a wnelont â'r penodiad ac ar ôl i ymgeiswyr gael eu cyfweld ynghylch eu priodoldeb i gael eu penodi gan banel dewis, y gellir penodi yn ystod y cyfnod hwn. Mae'r Prif Ysgrifennydd o dan ddyletswydd hefyd i gymryd i ystyriaeth farn pobl hŷn sy'n preswylio yng Nghymru ynghylch y penodiad arfaethedig.
Yn dilyn penodi Prif Weinidog Cymru newydd o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 gellir penodi'r Comisiynydd gan Brif Weinidog Cymru. Wrth benodi'r Comisiynydd rhaid i Brif Weinidog Cymru gymryd i ystyriaeth gyngor unrhyw banel dewis a sefydlwyd er mwyn y penodiad a barn pobl hŷn ddethol sy'n preswylio yng Nghymru o ran y penodiad arfaethedig.
Mae'r Rheoliadau hefyd yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfnod y swydd, a'r amgylchiadau pan ellir rhyddhau'r Comisiynydd o'i swydd. Hyd nes y penodir Prif Weinidog Cymru newydd o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, gellir rhyddhau'r Comisiynydd o'i swydd gan y Prif Ysgrifennydd. Yn dilyn penodi Prif Weinidog Cymru newydd gellir rhyddhau'r Comisiynydd o'i swydd gan Brif Weinidog Cymru. O ran eglurder ynghylch cyfrifoldeb cyfreithiol ar gyfer arfer swyddogaethau gan y Prif Ysgrifennydd, mae'r Rheoliadau'n cynnwys darpariaeth atodol i ymdrin â swyddogaethau sy'n cael eu harfer felly fel petaent yn swyddogaethau sy'n cael eu harfer gan y Cynulliad fel y mae wedi'i gyfansoddi gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998. Mae'r Rheoliadau'n darparu hefyd y bydd unrhyw beth a wneir gan y Prif Ysgrifennydd yn union cyn penodi Prif Weinidog Cymru newydd o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn cael ei drin ar ôl penodi Prif Weinidog Cymru fel pe bai wedi cael ei wneud gan Brif Weinidog Cymru.