Rheoliadau Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (Penodi) 2007
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 28(2) o Deddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006 a pharagraff 2 o Atodlen 1 iddi.
Enwi, cychwyn a dehongli
1.
(1)
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (Penodi) 2007 a deuant i rym ar 16 Chwefror 2007.
(2)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.
(1)
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “y Comisiynydd” (“the Commissioner”) yw Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru;
ystyr “y cyfnod cychwynnol” (“the initial period”) yw the initial period fel y'i diffinnir yn adran 161(5) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006;
ystyr “pobl hŷn berthnasol” (“relevant older persons”) yw unrhyw bobl hŷn sy'n preswylio yng Nghymru sy'n cael eu dethol at ddibenion penodiad penodol—
(a)
yn y fath fodd a chan y fath fodd ag y gellid ei benderfynu gan y pwyllgor perthnasol yn unol â chylch gwaith y pwyllgor, neu
(b)
yn absenoldeb penderfyniad o'r fath, yn y fath fodd ag y caiff y Prif Ysgrifennydd ei benderfynu;
ystyr “y Prif Weinidog” (“the First Minister”) yw'r person a benodir o dro i dro yn Brif Weinidog Cymru yn unol ag adran 46(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006;
ystyr “y Prif Ysgrifennydd” (“the First Secretary”) yw'r person a etholir o dro i dro yn Brif Ysgrifennydd y Cynulliad yn unol ag adran 53(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998;
ystyr “pwyllgor perthnasol” (“relevant committee”) yw unrhyw bwyllgor y gellid ei sefydlu o dro i dro gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 54(1)(b) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 er mwyn darparu cyngor a phenderfynu materion sy'n berthnasol i benodi'r Comisiynydd.
(2)
Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad —
(a)
at reoliad â Rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y Rheoliadau hyn sy'n dwyn y Rhif hwnnw;
(b)
mewn rheoliad at baragraff â Rhif , yn gyfeiriad at y paragraff yn y rheoliad hwnnw sy'n dwyn y Rhif hwnnw.
Penodi'r Comisiynydd
3.
(1)
Hyd at ddiwedd y cyfnod cychwynnol caiff y Comisiynydd ei benodi gan y Prif Ysgrifennydd.
(2)
Dim ond ar ôl cymryd y canlynol i ystyriaeth y caiff y Comisiynydd ei benodi o dan baragraff (1) —
(a)
cyngor pwyllgor perthnasol,
(b)
barn pobl hŷn berthnasol ynghylch unrhyw ymgeiswyr a gaiff eu cyfweld ar gyfer y penodiad, ac
(c)
cyngor unrhyw banel dewis, a sefydlwyd er mwyn cyfweld ymgeiswyr, ynghylch eu priodoldeb ar gyfer y penodiad.
(3)
Ar ôl diwedd y cyfnod cychwynnol caiff y Comisiynydd ei benodi gan y Prif Weinidog.
(4)
Ni ellir penodi'r Comisiynydd o dan baragraff (3) ond ar ôl cymryd y canlynol i ystyriaeth —
(a)
barn y bobl hŷn hynny sy'n preswylio yng Nghymru ac a ddewiswyd gan y Prif Weinidog am unrhyw ymgeiswyr a gyfwelir ar gyfer y penodiad; a
(b)
cyngor unrhyw banel dewis, a sefydlwyd at ddiben cyfweld ag ymgeiswyr ynghylch eu priodoldeb ar gyfer y penodiad.
(5)
Yn ddarostyngedig i reoliad 4, pedair blynedd fydd cyfnod swydd y Comisiynydd a benodir o dan y Rheoliadau hyn.
(6)
Caniateir i berson a gafodd ei benodi am un cyfnod yn Gomisiynydd gael ei benodi am ail gyfnod (boed yn olynol neu beidio) ond ddim am unrhyw gyfnod ychwanegol.
4.
(1)
Hyd at ddiwedd y cyfnod cychwynnol caiff y Prif Ysgrifennydd ryddhau'r Comisiynydd o'i swydd cyn i gyfnod y swydd ddod i ben —
(a)
ar gais y Comisiynydd,
(b)
ar sail camymddwyn, neu
(c)
os bydd wedi'i fodloni nad yw'r Comisiynydd yn alluog oherwydd gwendid meddyliol neu gorfforol i gyflawni swyddogaethau'r Comisiynydd.
(2)
Ar ôl diwedd y cyfnod cychwynnol caiff unrhyw swyddogaethau a oedd yn arferadwy yn union cyn diwedd y cyfnod cychwynnol gan y Prif Ysgrifennydd o dan baragraff (1) eu harfer gan y Prif Weinidog.
5.
(1)
Os bydd y Prif Ysgrifennydd yn arfer swyddogaethau a roddir gan y Rheoliadau hyn, bydd arfer y swyddogaethau hynny'n cael ei drin fel pe bai'n arfer gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(2)
Mae unrhyw beth a gaiff ei wneud gan y Prif Ysgrifennydd o dan y Rheoliadau hyn i'w drin ar ôl diwedd y cyfnod cychwynnol fel pe bai wedi cael ei wneud gan y Prif Weinidog.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer penodi Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru sef swydd a sefydlwyd o dan Ddeddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006.
Mae'r Rheoliadau'n gwneud darpariaeth amgen ar gyfer penodi Comisiynydd a'i ryddhau o'i swydd gan ddibynnu ar bryd y mae'r penodi neu'r rhyddhau o swydd yn digwydd. Mae'r Rheoliadau'n cymryd i ystyriaeth y newidiadau a fydd yn effeithiol o dan ddeddfiad diweddar Deddf Llywodraeth Cymru 2006 a cheisio sicrhau na fydd y newidiadau hynny'n peri oedi neu'n aflonyddu'n ormodol ar benodiad y Comisiynydd.
Yn benodol mae'r Rheoliadau'n gwneud darpariaeth y caiff y Comisiynydd ei benodi gan Brif Ysgrifennydd y Cynulliad fel y'i diffinnir gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998, os gwneir y penodiad cyn penodir Prif Weinidog Cymru newydd o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
Dim ond ar ôl dilyn cyngor gan unrhyw bwyllgor o'r Cynulliad a sefydlwyd er mwyn rhoi cyngor a phenderfynu ar faterion y mae a wnelont â'r penodiad ac ar ôl i ymgeiswyr gael eu cyfweld ynghylch eu priodoldeb i gael eu penodi gan banel dewis, y gellir penodi yn ystod y cyfnod hwn. Mae'r Prif Ysgrifennydd o dan ddyletswydd hefyd i gymryd i ystyriaeth farn pobl hŷn sy'n preswylio yng Nghymru ynghylch y penodiad arfaethedig.
Yn dilyn penodi Prif Weinidog Cymru newydd o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 gellir penodi'r Comisiynydd gan Brif Weinidog Cymru. Wrth benodi'r Comisiynydd rhaid i Brif Weinidog Cymru gymryd i ystyriaeth gyngor unrhyw banel dewis a sefydlwyd er mwyn y penodiad a barn pobl hŷn ddethol sy'n preswylio yng Nghymru o ran y penodiad arfaethedig.
Mae'r Rheoliadau hefyd yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfnod y swydd, a'r amgylchiadau pan ellir rhyddhau'r Comisiynydd o'i swydd. Hyd nes y penodir Prif Weinidog Cymru newydd o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, gellir rhyddhau'r Comisiynydd o'i swydd gan y Prif Ysgrifennydd. Yn dilyn penodi Prif Weinidog Cymru newydd gellir rhyddhau'r Comisiynydd o'i swydd gan Brif Weinidog Cymru. O ran eglurder ynghylch cyfrifoldeb cyfreithiol ar gyfer arfer swyddogaethau gan y Prif Ysgrifennydd, mae'r Rheoliadau'n cynnwys darpariaeth atodol i ymdrin â swyddogaethau sy'n cael eu harfer felly fel petaent yn swyddogaethau sy'n cael eu harfer gan y Cynulliad fel y mae wedi'i gyfansoddi gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998. Mae'r Rheoliadau'n darparu hefyd y bydd unrhyw beth a wneir gan y Prif Ysgrifennydd yn union cyn penodi Prif Weinidog Cymru newydd o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn cael ei drin ar ôl penodi Prif Weinidog Cymru fel pe bai wedi cael ei wneud gan Brif Weinidog Cymru.