2007 Rhif 395 (Cy.41)
CYFLOGAETH AMAETHYDDOL, CYMRU
CYFLOGAU AMAETHYDDOL

Gorchymyn y Pwyllgor Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2007

Wedi'i wneud
Yn dod i rym
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(1) o Ddeddf Cyflogau Amaethyddol 19481, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1.

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Pwyllgor Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2007, daw i rym ar 1 Mawrth 2007 ac mae'n gymwys o ran Cymru.

Diwygio Gorchymyn Pwyllgorau Cyflogau Amaethyddol (Ardaloedd) 19742.

Mae Gorchymyn Pwyllgorau Cyflogau Amaethyddol (Ardaloedd) 19742 wedi'i ddiwygio fel a ganlyn:

(a)

yn Erthygl 3(1) yn lle'r gair “Wales” rhodder y geiriau “an agricultural wages committee for the combination of all the counties in Wales”;

(b)

yn Rhan I o'r Atodlen, dileer y geiriau “Counties in Wales Clwyd Dyfed Gwent Gwynedd Powys”; ac

(c)

yn Rhan II o'r Atodlen, dileer y geiriau “Counties in Wales Mid Glamorgan, South Glamorgan and West Glamorgan”.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19983
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn sefydlu un pwyllgor cyflogau amaethyddol ar gyfer cyfuniad o'r holl siroedd yng Nghymru drwy wneud y diwygiadau angenrheidiol i Orchymyn Pwyllgorau Cyflogau Amaethyddol (Ardaloedd) 1974.