- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
CYFLOGAETH AMAETHYDDOL, CYMRU
CYFLOGAU AMAETHYDDOL
Wedi'i wneud
14 Chwefror 2007
Yn dod i rym
1 Mawrth 2007
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(1) o Ddeddf Cyflogau Amaethyddol 1948(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Pwyllgor Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2007, daw i rym ar 1 Mawrth 2007 ac mae'n gymwys o ran Cymru.
2. Mae Gorchymyn Pwyllgorau Cyflogau Amaethyddol (Ardaloedd) 1974(2) wedi'i ddiwygio fel a ganlyn:
(a)yn Erthygl 3(1) yn lle'r gair “Wales” rhodder y geiriau “an agricultural wages committee for the combination of all the counties in Wales”;
(b)yn Rhan I o'r Atodlen, dileer y geiriau “Counties in Wales Clwyd Dyfed Gwent Gwynedd Powys”; ac
(c)yn Rhan II o'r Atodlen, dileer y geiriau “Counties in Wales Mid Glamorgan, South Glamorgan and West Glamorgan”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
14 Chwefror 2007
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn sefydlu un pwyllgor cyflogau amaethyddol ar gyfer cyfuniad o'r holl siroedd yng Nghymru drwy wneud y diwygiadau angenrheidiol i Orchymyn Pwyllgorau Cyflogau Amaethyddol (Ardaloedd) 1974.
1948 p. 47. Diwygiwyd adran 2(1) o Ddeddf 1948 gan adran 149 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (c. 38). Yn rhinwedd erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo, trosglwyddwyd y swyddogaethau sy'n arferadwy o dan adran 2(1) o Ddeddf 1948 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru.
O.S. 1974/515, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1981/179 ac O.S. 1989/1173.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: