xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Rheoliadau 54, 55 a 56

ATODLEN 3LL+CCyfrifo Ffioedd am Wiriadau Milfeddygol

RHAN 1LL+CCOSTAU Y MAE'R FFIOEDD YN TALU AMDANYNT

1.  At ddibenion yr Atodlen hon ystyr “cost wirioneddol” (“actual cost”) y gwiriadau milfeddygol a gyflawnwyd ar lwyth wrth safle arolygu ar y ffin yw agregiad o'r canlynol—LL+C

(a)y gyfran y gellir ei phriodoli'n iawn i'r gwiriadau milfeddygol hynny o gost unrhyw eitemau a restrir ym mharagraff 2 isod sy'n ymwneud yn rhannol â'r gwiriadau milfeddygol hynny; a

(b)cost lawn unrhyw eitemau a restrir ym mharagraff 2 isod sy'n ymwneud yn gyfan gwbl â'r gwiriadau milfeddygol hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 14.2.2007, gweler rhl. 1(2)

2.  Yr eitemau y cyfeirir atynt ym mharagraff 1 yw—LL+C

(a)cyflogau a ffioedd, ynghyd â thaliadau goramser a chyfraniadau cyflogwyr at yswiriant gwladol a phensiynau, pob aelod o staff sy'n ymwneud yn uniongyrchol â chyflawni gwiriadau milfeddygol a phob aelod o staff sy'n ymwneud â rheoli neu weinyddu'r gwiriadau milfeddygol wrth y safle arolygu ar y ffin;

(b)recriwtio a hyfforddi'r staff y cyfeirir atynt yn eitem (a);

(c)costau teithio a mân dreuliau perthynol a dynnir wrth gyflawni'r gwiriadau milfeddygol, ac eithrio pan fyddant wedi'u tynnu gan berson sy'n mynd i'w le gwaith arferol;

(ch)costau ystafelloedd, offer a gwasanaethau swyddfa ar gyfer staff sy'n ymwneud â chyflawni gwiriadau milfeddygol wrth y safle arolygu ar y ffin, gan gynnwys dibrisiant unrhyw ddodrefn ac offer swyddfa a chost technoleg gwybodaeth, deunyddiau ysgrifennu a ffurflenni;

(d)costau dillad amddiffynnol ac offer a ddefnyddir wrth gyflawni'r gwiriadau milfeddygol;

(dd)glanhau'r dillad amddiffynnol y cyfeirir atynt yn eitem (d);

(e)samplu, profi a dadansoddi samplau (ac eithrio samplu a phrofi i weld a oes salmonela yn bresennol mewn protein anifeiliaid wedi'i brosesu nas bwriedir ar gyfer ei fwyta gan bobl);

(f)gwaith arferol o ran anfonebu a chasglu ffioedd am wiriadau milfeddygol wrth y safle arolygu ar y ffin; ac

(ff)darparu gwasanaethau cyflogres a phersonél mewn cysylltiad â chyflogi staff sy'n cyflawni gwiriadau milfeddygol wrth y safle arolygu ar y ffin.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 14.2.2007, gweler rhl. 1(2)

RHAN IILL+CLLWYTHI O SELAND NEWYDD

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 3 Rhn. II mewn grym ar 14.2.2007, gweler rhl. 1(2)

Y ffi am wiriadau milfeddygol a gyflawnwyd ar lwyth a gyflwynwyd i diriogaeth dollau'r Gymuned o Seland Newydd fydd 1.5 ewro ar gyfer pob tunnell o'r llwyth, yn ddarostyngedig i isafswm o 30 ewro ac uchafswm o 350 ewro, ag eithrio pan fydd cost wirioneddol y gwiriadau milfeddygol a gyflawnwyd ar lwyth yn fwy na 350 ewro, y gost wirioneddol fydd swm y ffi.

RHAN IIILL+CCIG A CHYNHYRCHION CIG

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 3 Rhn. III mewn grym ar 14.2.2007, gweler rhl. 1(2)

Y ffi am wiriadau milfeddygol a gyflawnwyd ar lwyth (ac eithrio llwyth y mae Rhan II o'r Atodlen hon yn gymwys iddo) y mae'r canlynol yn ymdrin ag ef—

(a)Pennod III o Gyfarwyddeb y Cyngor 71/118/EEC ar broblemau iechyd sy'n effeithio ar fasnach mewn cig dofednod ffres (OJ Rhif L55, 8.3.71, t. 23) fel y'i diwygiwyd ac y'i diweddarwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 92/116/EEC (OJ Rhif L62, 15.3.93, t. 1) ac y'i diwygiwyd ddiwethaf gan yr Act Ymaelodi (gweler paragraff 3 o Ran V o Atodlen 1);

(b)Cyfarwyddeb y Cyngor 72/462/EEC ar broblemau iechyd a phroblemau archwiliadau milfeddygol wrth fewnforio anifeiliaid o deulu'r fuwch ac o deulu'r mochyn a chig ffres neu gynhyrchion cig o drydydd gwledydd (OJ Rhif L302, 31.12.72, t.28, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1452/2001, OJ Rhif L198, 21.7.2001, t. 11);

(c)Pennod III o Gyfarwyddeb y Cyngor 92/45/EEC ar broblemau iechyd y cyhoedd ac iechyd anifeiliaid sy'n ymwneud â lladd anifeiliaid hela gwyllt a gosod cig anifeiliaid hela gwyllt ar y farchnad (OJ Rhif L268, 14.9.92, t.35) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan yr Act Ymaelodi (gweler paragraff 3 o Ran V o Atodlen 1); neu

(ch)Pennod 11 o Atodiad I i Gyfarwyddeb y Cyngor 92/118/EEC sy'n gosod gofynion iechyd anifeiliaid ac iechyd y cyhoedd sy'n llywodraethu'r fasnach yn y Gymuned mewn cynhyrchion nad ydynt yn ddarostyngedig i'r gofynion a enwyd, sef gofynion a osodwyd mewn rheolau Cymunedol penodol y cyfeirir atynt yn Atodiad A(1) i Gyfarwyddeb 89/662/EEC ac, o ran pathogenau, i Gyfarwyddeb 90/425/EEC, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 445/2004 (OJ Rhif L72, 11.3.2004, t. 60), ac yn llywodraethu eu mewnforio iddi,

fydd—

(i)30 ewro;

(ii)5 ewro fesul tunnell o'r llwyth; neu

(iii)cost wirioneddol y gwiriadau milfeddygol a gyflawnwyd ar y llwyth,

p'un bynnag yw'r mwyaf.

RHAN IVLL+CCYNHYRCHION PYSGODFEYDD

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 3 Rhn. IV mewn grym ar 14.2.2007, gweler rhl. 1(2)

Y ffi am wiriadau milfeddygol a gyflawnwyd ar lwyth o gynhyrchion pysgodfeydd sy'n dod o dan Bennod II o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/493/EEC sy'n gosod yr amodau iechyd ar gyfer cynhyrchu cynhyrchion pysgodfeydd a'u gosod ar y farchnad (OJ Rhif L268, 24.9.91, t. 15) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan yr Act Ymaelodi (gweler paragraff 3 o Ran V o Atodlen 1), ac eithrio llwyth y mae Rhan II yn gymwys iddo fydd—

(a)30 ewro;

(b)5 ewro fesul tunnell ar gyfer y 100 tunnell cyntaf plws—

(i)1.5 ewro fesul tunnell ychwanegol os nad yw'r llwyth wedi mynd drwy unrhyw broses arall heblaw diberfeddu; neu

(ii)2.5 ewro fesul tunnell ychwanegol ym mhob achos arall; neu

(c)cost wirioneddol y gwiriadau milfeddygol a gyflawnwyd ar y llwyth,

p'un bynnag yw'r mwyaf.

RHAN VLL+CPOB CYNNYRCH ARALL

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 3 Rhn. V mewn grym ar 14.2.2007, gweler rhl. 1(2)

Cost wirioneddol y gwiriadau milfeddygol a gyflawnwyd ar lwyth fydd y ffi am wiriadau milfeddygol a gyflawnwyd ar lwyth, ac eithrio llwyth y mae Rhan II, III neu IV o'r Atodlen hon yn gymwys iddo.