(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/666) ac yn eu hailddeddfu gyda newidiadau. Y prif newidiadau yw newidiadau i reoliadau 5, 17, 48 a 49 (gweler isod), ac i Atodlenni 1 a 3, sydd wedi'u hadolygu er mwyn gweithredu offerynnau Cymunedol sydd wedi dod i rym ers gwneud Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2005.
Mae'r Rheoliadau yn gweithredu dros Gymru Gyfarwyddeb y Cyngor 97/78/EC (sy'n gosod yr egwyddorion sy'n llywodraethu'r dull o drefnu gwiriadau milfeddygol ar gynhyrchion sy'n dod i'r Gymuned o drydydd gwledydd) (OJ Rhif L24, 30.1.98, t. 9). Mae Penderfyniad y Comisiwn 2002/349/EC (sy'n gosod y rhestr o gynhyrchion sydd i'w harchwilio wrth safleoedd arolygu ar y ffin o dan Gyfarwyddeb y Cyngor 97/78/EC) (OJ Rhif L121, 8.5.2002, t. 6) yn pennu'r cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid ac y mae'r Gyfarwyddeb yn gymwys iddynt, sef — cig, pysgod (gan gynnwys pysgod cregyn), llaeth neu lefrith, a chynhyrchion sydd wedi'u gwneud o'r rhain, ynghyd â chynhyrchion wy a nifer fawr o sgil-gynhyrchion anifeiliaid, gan gynnwys casinau, crwyn, esgyrn a gwaed — o drydydd gwledydd.
Mae'n rhaid i'r cynhyrchion y mae'r Rheoliadau'n gymwys iddynt (cynhyrchion a ddiffinnir yn rheoliad 2) gydymffurfio â'r gofynion a restrir, drwy gyfeirio at y ddeddfwriaeth Gymunedol berthnasol, yn Atodlen 1.
Mae rheoliad 4 yn darparu ar gyfer esemptiadau rhag Rhannau 3 i 9 o'r Rheoliadau. Mae rheoliad 4(7) yn darparu na fydd Rhan 3, ac eithrio rheoliad 25, a Rhannau 4 i 9 yn gymwys i gynhyrchion sydd wedi'u bwriadu at ddefnydd personol ac sy'n cydymffurfio â'r amodau a osodwyd yn y rheoliad hwnnw.
Mae rheoliad 5 yn diffinio'r awdurdodau sy'n gorfodi'r Rheoliadau. Fel arfer, bydd y rhain yn awdurdodau iechyd porthladd, sy'n penodi milfeddygon swyddogol ac arolygwyr pysgod swyddogol i gynnal gwiriadau milfeddygol wrth bob safle arolygu ar y ffin yn eu hardal (rheoliad 6). Mae rheoliad 5 wedi'i adolygu i gynnwys y ddarpariaeth bod Comisiynwyr Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn gorfodi rheoliad 16 wrth bwyntiau mynediad ac eithrio safleoedd arolygu ar y ffin. Mae adolygiad pellach yn rheoliad 5(4) yn diwygio darpariaethau gorfodi ynglŷn â chynhyrchion a fewnforiwyd yn anghyfreithlon ac y deuir o hyd iddynt yn y wlad fel bod modd i swyddogion gorfodi awdurdod lleol nad ydynt yn swyddogion awdurdodedig o dan y Rheoliadau ddal eu gafael ar unrhyw gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid y maent yn amau eu bod wedi'u mewnforio'n anghyfreithlon hyd nes y gall swyddog awdurdodedig eu cymryd o dan ei ofal. Mae rheoliad 5(9) yn creu tramgwydd newydd ynghylch datgelu'n anghyfreithlon wybodaeth a gafwyd oddi wrth Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi.
Mae rheoliadau 7, 8, 9 ac 11 yn rhoi'r pwerau gorfodi angenrheidiol i'r awdurdodau gorfodi. Mae rheoliad 13 wedi'i adolygu i alluogi cymeradwyaeth Safleoedd Arolygu ar y Ffin i gael ei hatal yn rhannol (o'r blaen dim ond ataliad llawn o gymeradwyaeth a ganiatawyd).
Mae Rhan 3 yn sefydlu'r system arolygu a fydd yn gymwys i gynhyrchion yn gyffredinol. Gwaherddir dod â chynhyrchion i Gymru nad ydynt yn cydymffurfio â gofynion Atodlen 1, oni bai eu bod yn cael eu cludo ar draws Cymru (rheoliad 15). Rhaid dod â chynhyrchion i mewn wrth safleoedd arolygu ar y ffin, rhaid hysbysu ymlaen llaw o'r bwriad i'w cyflwyno, a rhaid trefnu iddynt fod ar gael i'w harolygu, ynghyd â'r dogfennau gofynnol, wrth safle arolygu ar y ffin (rheoliadau 16 i 19). Mae rheoliad 17 wedi'i adolygu er mwyn cysoni'r gofynion ar gyfer rhaghysbysu Safleoedd Arolygu ar y Ffin o lwythi a fewnforir â Rheoliad y Comisiwn 136/2004 sy'n gosod gweithdrefnau ar gyfer gwiriadau milfeddygol wrth Safleoedd Arolygu Cymunedol ar y Ffin ar gynhyrchion a fewnforir o drydydd gwledydd. Mae rheoliadau 21 i 28 yn ymdrin â chynhyrchion sy'n cael eu gwrthod adeg eu harolygu, cynhyrchion y deuir â hwy i mewn yn anghyfreithlon, neu rai sy'n peri risg i iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd.
Mae Rhannau 4 i 8 yn gosod darpariaethau arbennig sy'n gymwys i gategorïau penodol o gynnyrch (cyflenwadau arlwyo ar gyfrwng cludo, cynhyrchion y bwriedir eu cylchredeg yn rhydd yn y Gymuned, cynhyrchion sydd ar eu taith ar draws Cymru, cynhyrchion y bwriedir eu rhoi mewn warws o dan gyfundrefnau tollau penodol, a chynhyrchion sydd wedi'u hallforio o'r Gymuned ac yna wedi'u dychwelyd iddi). Darpariaethau newydd yw rheoliadau 48 a 49 sy'n rhoi gweithdrefnau ar waith ar gyfer symud yn uniongyrchol lwythi, sydd wedi'u bwriadu i fod yn fwyd i'r teithwyr neu'r criw, ond nad ydynt yn bodloni gofynion yr UE ynghylch mewnforio, o Safleoedd Arolygu ar y Ffin i longau sy'n gweithredu'n rhyngwladol.
Mae Rhan 9 yn ymdrin â chyfrifo a thalu ffioedd am y gwiriadau milfeddygol y darperir ar eu cyfer yn y Rheoliadau; mae Rhan 10 yn rhoi pwer i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Asiantaeth Safonau Bwyd wahardd dod â chynhyrchion i Gymru o wledydd nad ydynt yn wledydd yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r rheini'n wledydd lle y mae clefyd anifeiliaid wedi brigo; mae Rhan 11 yn pennu tramgwyddau a chosbau; mae Rhan 12 yn ymdrin â chyflwyno hysbysiadau a hysbysu o benderfyniadau; ac mae Rhan 13 yn darparu na fydd rhai darpariaethau presennol yn gymwys i gynhyrchion y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt, ac mae'n dirymu Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2005. Mae Rhan 1 o Atodlen 3 wedi'i diwygio, o ran profi i weld a oes Salmonela, i alluogi Safleoedd Arolygu ar y Ffin i godi ffi am brofion o'r fath a gyflawnir yn unol â deddfwriaeth Gymunedol.
Paratowyd arfarniad rheoliadol ar gyfer y Rheoliadau yma ar gostau busnes a cheir copïau gan Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.