Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae adran 15(1) o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1990 (fel y'i diwygiwyd gan adran 142 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996) yn darparu y caiff yr Ysgrifennydd Gwladol ddyfarnu, neu drefnu i ddyfarnu, grantiau tuag at gostau gwaith neu gyngor i wella inswleiddio thermol neu i leihau neu atal fel arall wastraff ynni mewn anheddau.

Mae pŵer yr Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adran hon bellach yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o ran Cymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999.

Mae Rheoliadau Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) 2000 (“Rheoliadau 2000”) yn nodi'r cynlluniau ar gyfer darparu grantiau i bersonau ar incwm isel sy'n bersonau y mae ganddynt blant, neu sy'n bobl hŷn, yn bobl anabl neu'n bobl sy'n wael eu hiechyd. Roedd Rheoliadau 2000 yn darparu ar gyfer hawl i dderbyn grant, ar gyfer penderfynu gan y Cynulliad gategorïau'r gweithfeydd, y lefelau uchaf o grantiau sydd ar gael, at ba ddibenion y caiff grantiau eu cymeradwyo, a'r dull o wneud cais am grant.

Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau 2000 ac yn eu hailddeddfu gyda diwygiadau.

Mae rheoliad 3 yn cynnwys darpariaethau dirymu a darpariaethau trosiannol. Os yw person wedi gwneud cais o dan Reoliadau 2000, ac nad yw'r gweithfeydd wedi'u dechrau, caniateir ymdrin â'r cais yn unol â'r Rheoliadau hyn.

Yn rhinwedd adran 17 o Ddeddf Dehongli 1978, mae penderfyniadau a wneir o dan reoliad 7(2) o Reoliadau 2000 yn parhau i fod yn effeithiol fel pe baent wedi'u gwneud o dan reoliad 7(2) o'r Rheoliadau hyn.

Yn ychwanegol at fân ddiwygiadau a rhai drafftio, gwneir y newidiadau canlynol i sylwedd Rheoliadau 2000.

Mae rheoliad 5(1) yn cynnwys yn y rhestr o bersonau sy'n gymwys i wneud cais am grant Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref (“HEES”) (a) unrhyw berson sy'n derbyn credyd treth plant a chredyd treth gwaith (y darperir ar eu cyfer gan Ddeddf Credydau Treth 2002) ac y mae ganddo incwm perthnasol sy'n llai na £15,460 a (b) person sy'n derbyn budd-dal, neu sy'n byw gyda phartner sy'n derbyn budd-dal, a hwnnw'n un o blith budd-daliadau penodol a phenodedig, ac sy'n fenyw feichiog, neu sy'n byw gyda phartner sy'n fenyw feichiog, y mae tystysgrif mamolaeth wedi'i rhoi mewn cysylltiad â hi.

Mae rheoliad 5(2) yn darparu bod y rhai sy'n 80 oed neu'n hŷn, neu sydd â phartneriaid sy'n 80 oed neu'n hŷn, yn gymwys i gael cymorth o dan HEES a Mwy.

Mae rheoliad 5(2) hefyd yn newid rhestr y personau sy'n gymwys i wneud cais am Grant HEES a Mwy er mwyn iddi gynnwys y rhai sy'n derbyn Credyd Pensiwn y Wladwriaeth.

Mae'r Rheoliadau'n cyfeirio at “partner” yn lle “priod” ac mae rheoliad 5(7) yn darparu bod “partner” yn cynnwys partner sifil.

Mae rheoliad 6(1)(g) yn ymestyn rhestr y dibenion y caiff grantiau eu cymeradwyo ar eu cyfer er mwyn iddi gynnwys systemau gwres canolog tanwydd solet a systemau sy'n cynhyrchu trydan.

Mae rheoliad 6(1)(i) yn ymestyn rhestr y dibenion y caiff grantiau eu cymeradwyo ar eu cyfer er mwyn iddi gynnwys systemau gwresogi aer a chynhesu dwr sy'n seiliedig ar ffynonellau ynni sy'n rhai adnewyddadwy.