Rheoliadau Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) 2007
Enwi, cychwyn a chymhwyso1.
(1)
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) 2007 a deuant i rym ar 14 Chwefror 2007.
(2)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli2.
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “asiantaeth ardal” (“area agency”), ac eithrio ym mharagraff (1) o reoliad 4, yw'r person neu'r corff o bersonau a benodir am y tro ac sy'n gyfrifol am yr ardal o dan sylw o dan y rheoliad hwnnw;
ystyr “cais am grant rhannol” (“partial grant application”) yw cais nad yw ceisydd yn cynnig ynddo y bydd asiantaeth ardal yn trefnu i gyflawni'r gweithfeydd y ceisir am grant mewn cysylltiad â hwy;
ystyr “cais gweithfeydd” (“works application”) yw cais y mae ceisydd yn cynnig ynddo y bydd asiantaeth ardal yn trefnu i gyflawni'r gweithfeydd y ceisir am grant mewn cysylltiad â hwy;
ystyr “cyngor ynni” (“energy advice”) yw cyngor ar leihau neu atal gwastraff ynni mewn annedd;
ystyr “y Cynulliad” (“the Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “gweithfeydd” (“works”) yw unrhyw un neu rai o'r gweithfeydd, y deunyddiau neu'r cyngor ynni a bennir yn rheoliad 6;
ystyr “HEES” (“HEES”) yw'r categorïau o weithfeydd sydd ar gael o dan y Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref fel a benderfynir gan y Cynulliad yn unol â rheoliad 7(2);
ystyr “HEES a Mwy” (“HEES Plus”) yw'r categorïau o weithfeydd sydd ar gael o dan y Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref a Mwy fel a benderfynir gan y Cynulliad yn unol â rheoliad 7(2); ac
Darpariaethau Dirymu a Darpariaethau Trosiannol3.
(1)
Yn ddarostyngedig i baragraff (2), dirymir Rheoliadau 2000.
(2)
Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae Rheoliadau 2000 yn parhau i fod yn gymwys i unrhyw achos pan fo cais am grant wedi'i wneud cyn 14 Chwefror 2007 o dan Rheoliadau hynny.
(3)
Os yw person wedi gwneud cais am grant o dan Reoliadau 2000 ond nad yw'r cais wedi'i gymeradwyo neu ei wrthod cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, neu os yw'r cais wedi'i gymeradwyo ond na ddechreuwyd ar yr un o'r gweithfeydd, rhaid i'r asiantaeth ardal, pan fydd y ceisydd yn gofyn am hynny, ymdrin â'r cais fel pe byddai wedi'i wneud o dan y Rheoliadau hyn.
Pwerau'r Cynulliad4.
(1)
Caiff y Cynulliad benodi un person neu fwy, a phob un o'r cyfryw bersonau i'w alw'n asiantaeth ardal, i gyflawni o ran Cymru neu o ran unrhyw ardal o Gymru y cyfryw swyddogaethau ag y byddo'r Cynulliad yn eu pennu at ddiben dyfarnu grantiau a threfnu i gyflawni'r gweithfeydd o dan HEES a HEES a Mwy neu mewn cysylltiad mewn ffordd arall â hynny.
(2)
Caiff y Cynulliad ddwyn i ben benodiad o dan baragraff (1).
(3)
Wrth ddyfarnu grant neu drefnu ar gyfer ei ddyfarnu, caiff y Cynulliad osod y cyfryw amodau ag y gwêl yn dda.
(4)
Pan fydd y Cynulliad wedi gwneud trefniant gyda pherson heblaw'r ceisydd, ar gyfer ariannu gweithfeydd y mae grant yn daladwy mewn cysylltiad â hwy, caiff dalu'r cyfan neu ran o unrhyw grant i'r person arall hwnnw.
Personau a gaiff wneud cais am grant5.
(1)
Caniateir i gais gweithfeydd am grant o dan HEES mewn cysylltiad ag annedd gael ei ystyried os y person y daw'r cais oddi wrtho yw deiliad yr annedd a'i fod yn meddiannu'r annedd fel ei unig breswylfa neu ei brif breswylfa ac os yw ar yr adeg y gwneir y cais—
(a)
yn derbyn budd-dâl, neu'n byw gyda phartner sy'n derbyn budd-dâl, a hwnnw'n fudd-dal y mae paragraff (3) yn gymwys iddo, ac yn derbyn budd-dal plant (o dan adran 141 o Ddeddf 1992), neu'n byw gyda phartner sy'n derbyn budd-dal plant (o dan adran 141 o Ddeddf 1992), a hynny mewn perthynas â phlentyn o dan 16 oed; neu
(b)
(c)
(ch)
yn berson ag incwm perthnasol sy'n llai na £15,460 ac yn derbyn budd-dal plant (o dan adran 141 o Ddeddf 1992) neu'n byw gyda phartner sy'n derbyn budd-dal plant (o dan adran 141 o Ddeddf 1992), a hynny mewn perthynas â phlentyn o dan 16 mlwydd oed.
(2)
Caniateir i gais gweithfeydd am grant o dan HEES a Mwy mewn cysylltiad ag annedd gael ei ystyried os y person y daw'r cais oddi wrtho yw deiliad yr annedd a'i fod yn meddiannu'r annedd fel ei unig breswylfa neu ei brif breswylfa ac os yw ar yr adeg y gwneir y cais—
(a)
yn 80 oed neu'n hŷn, neu'n byw gyda phartner sy'n 80 oed neu'n hŷn; neu
(b)
yn derbyn budd-dal, neu'n byw gyda phartner sy'n derbyn budd-dâl, a hwnnw'n fudd-dal y mae paragraff (4) yn gymwys iddo; neu
(c)
yn derbyn budd-dal neu'n byw gyda phartner sy'n derbyn budd-dal, a hwnnw'n fudd-dal y mae paragraff (3) yn gymwys iddo, ac wedi cyrraedd ei 60 oed, neu'n byw gyda phartner sydd wedi cyrraedd ei 60 oed; neu
(ch)
(d)
yn rhiant unigol ac yn derbyn budd-dal y mae paragraff (3) yn gymwys iddo; neu
(dd)
yn derbyn budd-dal plant (o dan adran 141 o Ddeddf 1992) neu'n byw gyda phartner sy'n derbyn budd-dal plant (o dan adran 141 o Ddeddf 1992) a hynny mewn perthynas â phlentyn o dan 16 mlwydd oed, a bod budd-dal y mae paragraff (4) yn gymwys iddo'n cael ei dalu i'r plentyn hwnnw neu mewn cysylltiad ag ef.
(3)
(4)
Mae'r paragraff hwn yn gymwys i'r canlynol—
(a)
credyd treth gwaith sy'n cynnwys elfen anabledd;
(b)
lwfans gweini, sef—
(i)
lwfans gweini o dan adran 64 o Ddeddf 1992; neu
(ii)
(iii)
(iv)
unrhyw daliad sydd wedi'i seilio ar yr angen am rywun i weini ac a delir gan bensiwn anabledd rhyfel; neu
(v)
unrhyw daliad a fwriedir fel iawndal am fethiant i dalu taliad, lwfans neu bensiwn a grybwyllir yn unrhyw un o is-baragraffau (i) i (iv) o'r diffiniad hwn;
(c)
(ch)
(i)
(ii)
taliad o dan reoliadau a wnaed o dan baragraff 7(2)(b) o Atodlen 8 i Ddeddf 1992 (lwfans gweini cyson);
(d)
(5)
Caniateir ystyried cais am grant rhannol oddi wrth berson sydd wedi cyrraedd ei drigain oed neu sy'n byw gyda phartner sydd wedi cyrraedd ei drigain oed, a'r person neu'r partner hwnnw'n meddiannu'r annedd fel ei unig breswylfa neu ei brif breswylfa ac naill ai'n berchen ar rydd?ddaliad yr annedd neu â buddiant lesddaliadol ynddi o ddim llai nag 21 o flynyddoedd.
(6)
Yn achos anheddau amlfeddiannaeth, mae'r asiantaeth ardal i benderfynu nifer y deiliaid cymwys yn yr annedd sy'n destun cais. Os bydd nifer y deiliaid cymwys yn fwy na 50% o gyfanswm nifer y deiliaid yn yr annedd, caniateir i gais mewn cysylltiad â'r annedd gael ei ystyried.
(7)
At ddibenion y rheoliad hwn—
ystyr “deiliad” (“householder”) yw person sydd, ar ei ben ei hun neu ar y cyd ag eraill, yn rhydd-ddeiliad neu'n denant;
mae i “incwm perthnasol” yr ystyr sydd i “relevant income” yn Rhan 1 o Ddeddf Credydau Treth 2002;
ystyr “partner” (“partner”) yw priod, partner sifil neu berson y mae'r ceisydd yn cyd-fyw ag ef fel gwr neu wraig neu fel partner sifil;
ystyr “rhiant unigol” (“lone parent”) yw rhiant neu berson arall nad yw'n cyd-fyw â phartner, ac sy'n derbyn budd-dal plant (o dan adran 141 o Ddeddf 1992) mewn perthynas â phlentyn o dan 16 oed ac sy'n gyfrifol am y plentyn hwnnw ac yn aelod o'r un aelwyd â'r plentyn hwnnw; ac
mae “tenant” (“tenant”) yn cynnwys is-denant a pherson â—
(a)
(b)
(c)
(d)
(e)
Y dibenion y caniateir cymeradwyo grant ar eu cyfer6.
(1)
Caniateir cymeradwyo cais am grant at un neu fwy o'r dibenion a ganlyn—
(a)
darparu inswleiddiad mewn unrhyw wagle to hygyrch yn yr annedd, gan gynnwys inswleiddio unrhyw danc dŵr oer ac unrhyw bibellau dŵr mewn gwagle o'r fath;
(b)
darparu inswleiddiad rhwng dalennau mewnol ac allanol waliau dwbl yr annedd;
(c)
darparu defnydd gwrth-ddrafft i'r annedd neu ynddi ynghyd ag unrhyw gyfrwng awyru ychwanegol ar gyfer unrhyw ystafelloedd na fyddent fel arall yn cael eu hawyru'n ddigonol ar ôl darpariaeth o'r fath;
(ch)
darparu inswleiddiad i unrhyw system twymo dwr neu bibellau dwr poeth hygyrch sy'n gysylltiedig â'r system dwymo;
(d)
darparu gwresogyddion ystafell sy'n wresogyddion darfudol nwy â rheolaeth thermostat;
(dd)
darparu stôr-wresogyddion trydan;
(e)
darparu naill ai dwymwr tanddwr ac iddo ddwy elfen ynghyd â thanc wedi'i inswleiddio yn y ffatri neu dwymwr tanddwr trydan neu nwy o fewn silindr dwr poeth presennol;
(f)
darparu rheolyddion amser ar gyfer gwresogyddion aer a thwymwyr dwr sy'n rhai trydan;
(ff)
gwella effeithlonrwydd ynni unrhyw system gwresogi aer neu dwymo dŵr sydd wedi'i gosod yn yr annedd neu roi rhan newydd yn lle hen ran o'r system neu ei thrwsio;
(g)
darparu system gwres canolog nwy, tanwydd solet neu olew (gan gynnwys systemau sy'n cynhyrchu trydan);
(ng)
trawsnewid tanau ystafelloedd sy'n danau tanwydd solet agored yn danau ystafelloedd sy'n rhai tanwydd solet caeedig;
(h)
darparu system gwres canolog wedi'i chysylltu â grid gwresogi y gymuned leol;
(i)
darparu systemau gwresogi aer neu dwymo dwr sy'n defnyddio ynni o ffynonellau adnewyddadwy; ac at y dibenion hyn—
ystyr “ffynonellau adnewyddadwy” (“renewable sources”) yw ffynonellau ynni ac eithrio mawn, tanwydd ffosil neu danwydd niwclear; ac
(2)
Pan fydd cais wedi'i gymeradwyo at un neu fwy o'r dibenion a nodir ym mharagraff (1) caniateir hefyd gymeradwyo grant ar gyfer darparu unrhyw un neu rai o'r canlynol—
(a)
cyngor ynni;
(b)
lampau ynni-effeithlon.
(3)
Nid oes unrhyw gais i'w gymeradwyo onid yw'r annedd a thestun pob categori o weithfeydd a grybwyllir yn y cais yn bodloni'r cyfryw amodau ag a bennir o bryd i'w gilydd gan yr asiantaeth ardal gyda chydsyniad y Cynulliad.
(4)
Rhaid i bob gwaith gydymffurfio â'r cyfryw safonau ag a fyddo wedi'u pennu o bryd i'w gilydd gan yr asiantaeth ardal gyda chydsyniad y Cynulliad a hynny o ran deunyddiau, crefftwaith, a pherfformiad testun y gwaith o ran effeithlonrwydd ynni.
(5)
At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “gwagle to” (“roof space”) yw gwagle rhwng to annedd a nenfwd unrhyw ystafell a ddefnyddir at ddibenion llety preswyl neu sydd ar gael i'w defnyddio at y diben hwnnw, pan nad yw'r gwagle hwnnw wedi'i wahanu'n gyfan gwbl o'r to gan unrhyw ystafell arall.
Uchafswm y grant7.
(1)
Ni chaiff asiantaeth ardal dalu cyfanswm grant mewn cysylltiad â chais gweithfeydd o dan HEES neu HEES a Mwy sy'n fwy na'r lleiaf o'r canlynol—
(a)
y swm a godir yn briodol am y gweithfeydd a gyflawnir; neu
(b)
uchafswm y grant o dan HEES neu HEES a Mwy fel a benderfynir o bryd i'w gilydd gan y Cynulliad yn unol ag—
(i)
cost a/neu argaeledd gweithfeydd a deunyddiau o'r mathau sy'n ofynnol gan y dibenion a bennir yn rheoliad 6 neu mewn cysylltiad â hwy; a
(ii)
polisi a blaenoriaethau cyfredol y Cynulliad mewn perthynas ag arbed ynni.
(2)
Caiff y Cynulliad benderfynu gwahanol uchafsymiau o dan baragraff (1)—
(a)
ar gyfer grantiau mewn cysylltiad ag anheddau amlfeddiannaeth;
(b)
trwy gyfeirio at unrhyw gategori neu gyfuniad o gategorïau o weithfeydd a gynhwysir o fewn y Cynllun HEES neu'r Cynllun HEES a Mwy fel a benderfynir gan y Cynulliad; ac
(c)
trwy gyfeirio at ba un ai cais gweithfeydd neu gais grant rhannol yw'r cais.
(3)
Yn ddarostyngedig i baragraffau (1) a (2) o'r rheoliad hwn, caiff asiantaeth ardal, gyda chydsyniad y Cynulliad, bennu—
(a)
uchafswm y grant y caniateir ei dalu; a
(b)
sail cyfrifo grant wedi'i mynegi yn nhermau symiau fesul uned fesur,
ar gyfer unrhyw gategori neu gyfuniad o gategorïau o weithfeydd a gynhwysir o fewn y Cynllun HEES neu'r Cynllun HEES a Mwy.
(4)
Yn achos cais grant rhannol, 25% o'r uchafswm grant a benderfynir gan y Cynulliad mewn cysylltiad â HEES yw'r uchafswm grant y caniateir ei dalu i geisydd.
Ceisiadau am grant8.
(1)
Mae cais am grant i'w wneud i'r asiantaeth ardal ar gyfer yr ardal y mae'r annedd wedi'i lleoli ynddi.
(2)
Rhaid i gais fod yn gais ysgrifenedig, wedi'i lofnodi naill ai gan y ceisydd neu gan berson a bennir neu berson o ddisgrifiad a bennir gan yr asiantaeth ardal a rhaid iddo fod ar y cyfryw ffurf, yn ddarostyngedig i baragraff (3) o'r rheoliad hwn, ag a bennir gan yr asiantaeth ardal.
(3)
Rhaid i'r cais gynnwys y cyfryw fanylion ag a fyddo'n cael eu pennu o bryd i'w gilydd gan yr asiantaeth ardal gyda chydsyniad y Cynulliad a rhaid iddo gynnwys—
(a)
manylion yr annedd y ceisir y grant mewn cysylltiad â hi ac os tenant yw'r ceisydd, enw a chyfeiriad y landlord;
(b)
gwybodaeth ynghylch y ceisydd sy'n ddigonol i'r asiantaeth ardal benderfynu p'un a yw'r ceisydd yn bodloni'r meini prawf cymhwystra a bennir yn rheoliad 5;
(c)
datganiad yn dweud y rhoddir mynediad rhesymol i'r annedd y gwneir cais mewn cysylltiad â hi i gynrychiolydd asiantaeth ardal er mwyn archwilio'r annedd a chyflawni'r gweithfeydd; ac
(ch)
datganiad yn dweud p'un a yw'r ceisydd neu p'un a yw unrhyw berson arall, hyd y gwyr y ceisydd, wedi derbyn grant neu gymorth neu wedi gwneud cais am grant neu gymorth o dan y Rheoliadau hyn mewn cysylltiad â'r annedd sy'n destun y cais.
Mae adran 15(1) o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1990 (fel y'i diwygiwyd gan adran 142 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996) yn darparu y caiff yr Ysgrifennydd Gwladol ddyfarnu, neu drefnu i ddyfarnu, grantiau tuag at gostau gwaith neu gyngor i wella inswleiddio thermol neu i leihau neu atal fel arall wastraff ynni mewn anheddau.
Mae pŵer yr Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adran hon bellach yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o ran Cymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999.
Mae Rheoliadau Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) 2000 (“Rheoliadau 2000”) yn nodi'r cynlluniau ar gyfer darparu grantiau i bersonau ar incwm isel sy'n bersonau y mae ganddynt blant, neu sy'n bobl hŷn, yn bobl anabl neu'n bobl sy'n wael eu hiechyd. Roedd Rheoliadau 2000 yn darparu ar gyfer hawl i dderbyn grant, ar gyfer penderfynu gan y Cynulliad gategorïau'r gweithfeydd, y lefelau uchaf o grantiau sydd ar gael, at ba ddibenion y caiff grantiau eu cymeradwyo, a'r dull o wneud cais am grant.
Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau 2000 ac yn eu hailddeddfu gyda diwygiadau.
Mae rheoliad 3 yn cynnwys darpariaethau dirymu a darpariaethau trosiannol. Os yw person wedi gwneud cais o dan Reoliadau 2000, ac nad yw'r gweithfeydd wedi'u dechrau, caniateir ymdrin â'r cais yn unol â'r Rheoliadau hyn.
Yn rhinwedd adran 17 o Ddeddf Dehongli 1978, mae penderfyniadau a wneir o dan reoliad 7(2) o Reoliadau 2000 yn parhau i fod yn effeithiol fel pe baent wedi'u gwneud o dan reoliad 7(2) o'r Rheoliadau hyn.
Yn ychwanegol at fân ddiwygiadau a rhai drafftio, gwneir y newidiadau canlynol i sylwedd Rheoliadau 2000.
Mae rheoliad 5(1) yn cynnwys yn y rhestr o bersonau sy'n gymwys i wneud cais am grant Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref (“HEES”) (a) unrhyw berson sy'n derbyn credyd treth plant a chredyd treth gwaith (y darperir ar eu cyfer gan Ddeddf Credydau Treth 2002) ac y mae ganddo incwm perthnasol sy'n llai na £15,460 a (b) person sy'n derbyn budd-dal, neu sy'n byw gyda phartner sy'n derbyn budd-dal, a hwnnw'n un o blith budd-daliadau penodol a phenodedig, ac sy'n fenyw feichiog, neu sy'n byw gyda phartner sy'n fenyw feichiog, y mae tystysgrif mamolaeth wedi'i rhoi mewn cysylltiad â hi.
Mae rheoliad 5(2) yn darparu bod y rhai sy'n 80 oed neu'n hŷn, neu sydd â phartneriaid sy'n 80 oed neu'n hŷn, yn gymwys i gael cymorth o dan HEES a Mwy.
Mae rheoliad 5(2) hefyd yn newid rhestr y personau sy'n gymwys i wneud cais am Grant HEES a Mwy er mwyn iddi gynnwys y rhai sy'n derbyn Credyd Pensiwn y Wladwriaeth.
Mae'r Rheoliadau'n cyfeirio at “partner” yn lle “priod” ac mae rheoliad 5(7) yn darparu bod “partner” yn cynnwys partner sifil.
Mae rheoliad 6(1)(g) yn ymestyn rhestr y dibenion y caiff grantiau eu cymeradwyo ar eu cyfer er mwyn iddi gynnwys systemau gwres canolog tanwydd solet a systemau sy'n cynhyrchu trydan.
Mae rheoliad 6(1)(i) yn ymestyn rhestr y dibenion y caiff grantiau eu cymeradwyo ar eu cyfer er mwyn iddi gynnwys systemau gwresogi aer a chynhesu dwr sy'n seiliedig ar ffynonellau ynni sy'n rhai adnewyddadwy.