Search Legislation

Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2007

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2007 Rhif 373 (Cy.33)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2007

Wedi'u gwneud

13 Chwefror 2007

Yn dod i rym

14 Chwefror 2007

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1).

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'i ddynodi(2) at ddibenion yr adran honno ynghylch mesurau sy'n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod) gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol o ran bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3) cafwyd ymgynghoriad cyhoeddus agored a thryloyw tra bu'r Rheoliadau canlynol yn cael eu llunio.

Enwi a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2007, a deuant i rym ar 14 Chwefror 2007.

Diwygio Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006

2.—(1Diwygir Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006(4) yn unol â pharagraffau (2) a (3).

(2Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) yn lle'r diffiniadau o offerynnau'r Gymuned sy'n ymddangos yn syth ar ôl y diffiniad o “mangre” rhodder yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor y diffiniadau canlynol—

mae i “Cyfarwyddeb 2004/41” (“Directive 2004/41”), “Rheoliad 178/2002” (“Regulation 178/2002”), “Rheoliad 852/2004” (“Regulation 852/2004”), “Rheoliad 853/2004” (“Regulation 853/2004”), “Rheoliad 854/2004” (“Regulation 854/2004”), “Rheoliad 882/2004” (“Regulation 882/2004”), “Rheoliad 1688/2005” (“Regulation 1688/2005”), “Rheoliad 2073/2005” (“Regulation 2073/2005”), “Rheoliad 2074/2005” (“Regulation 2074/2005”), “Rheoliad 2075/2005” (“Regulation 2075/2005”), “Rheoliad 2076/2005” (“Regulation 2076/2005”), “Rheoliad 575/2006” (“Regulation 575/2006”), “Rheoliad 776/2006” (“Regulation 776/2006”), “Rheoliad 1662/2006” (“Regulation 1662/2006”), “Rheoliad 1663/2006” (“Regulation 1663/2006”), “Rheoliad 1664/2006” (“Regulation 1664/2006”), “Rheoliad 1665/2006” (“Regulation 1665/2006”), “Rheoliad 1666/2006” (“Regulation 1662/2006”) a “Rheoliad 1791/2006” (“Regulation 1791/2006”) yr ystyr a roddir iddynt yn eu trefn yn Atodlen 1;.

(3Yn lle Atodlen 1 (diffiniadau o ddeddfwriaeth y Gymuned) rhodder yr Atodlen a osodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

13 Chwefror 2007

Rheoliad 2(3)

YR ATODLENYR ATODLEN A RODDIR YN LLE ATODLEN 1 I REOLIADAU HYLENDID BWYD (CYMRU) 2006

ATODLEN 1DIFFINIADAU O DDEDDFWRIAETH Y GYMUNED

ystyr “Cyfarwyddeb 2004/41” (“Directive 2004/41”) yw Cyfarwyddeb 2004/41/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n diddymu cyfarwyddebau penodol ynglyn â hylendid bwyd ac amodau iechyd ar gyfer cynhyrchu a rhoi ar y farchnad gynhyrchion penodol sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl ac sy'n diwygio Cyfarwyddebau'r Cyngor 89/662/EEC a 92/118/EEC a Phenderfyniad y Cyngor 95/408/EC(6);

ystyr “Rheoliad 178/2002” (“Regulation 178/2002”) yw Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, ac yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(7) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad 575/2006;

ystyr “Rheoliad 852/2004” (“Regulation 852/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar hylendid bwydydd(8) fel y'i darllenir gyda Rheoliad 2073/2005;

ystyr “Rheoliad 853/2004” (“Regulation 853/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n pennu rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid(9) fel y'i diwygiwyd gan Reoliad 2074/2005, Rheoliad 2076/2005, Rheoliad 1662/2006 a Rheoliad 1791/2006 ac fel y'i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad 1688/2005, Rheoliad 2074/2005 a Rheoliad 2076/2005;

ystyr “Rheoliad 854/2004” (“Regulation 854/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau penodol ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl(10) fel y'i diwygiwyd gan Reoliad 882/2004, Rheoliad 2074/2005, Rheoliad 2076/2005, Rheoliad 1663/2006 a Rheoliad 1791/2006 ac fel y'i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad 2074/2005, Rheoliad 2075/2005 a Rheoliad 2076/2005;

ystyr “Rheoliad 882/2004” (“Regulation 882/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol a ddefnyddir i sicrhau bod cydymffurfedd â'r gyfraith ynglyn â bwyd anifeiliaid a bwyd, rheolau iechyd anifeiliaid a rheolau lles anifeiliaid yn cael ei wirhau(11) fel y'i diwygiwyd gan Reoliad 776/2006 a Rheoliad 1791/2006 ac fel y'i darllenir gyda Rheoliad 2074/2005 a Rheoliad 2076/2005;

ystyr “Rheoliad 1688/2005” (“Regulation 1688/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1688/2005 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran gwarantau arbennig ynghylch salmonela ar gyfer llwythi o gigoedd ac wyau penodol i'r Ffindir ac i Sweden(12);

ystyr “Rheoliad 2073/2005” (“Regulation 2073/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2073/2005 ar feini prawf microbiolegol ar gyfer bwydydd(13);

ystyr “Rheoliad 2074/2005” (“Regulation 2074/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2074/2005 sy'n gosod mesurau gweithredu ar gyfer cynhyrchion penodol o dan Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol o dan Reoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor a Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n rhanddirymu Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004(14) fel y'i diwygiwyd gan Reoliad 1664/2006;

ystyr “Rheoliad 2075/2005” (“Regulation 2075/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2075/2005 sy'n gosod rheolau penodedig ar reolaethau swyddogol ar gyfer Trichinella mewn cig(15) fel y'i diwygiwyd gan Reoliad 1665/2006;

ystyr “Rheoliad 2076/2005” (“Regulation 2076/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2076/2005 sy'n gosod trefniadau trosiannol ar gyfer gweithredu Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004, (EC) Rhif 854/2004 ac (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004(16) fel y'i diwygiwyd gan Reoliad 1666/2006;

ystyr “Rheoliad 575/2006” (“Regulation 575/2006”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 575/2006 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran nifer ac enwau Paneli Gwyddonol parhaol Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop(17);

ystyr “Rheoliad 776/2006” (“Regulation 776/2006”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 776/2006 sy'n diwygio Atodiad VII i Reoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran labordai cyfeirio'r Gymuned(18);

ystyr “Rheoliad 1662/2006” (“Regulation 1662/2006”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1662/2006 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n pennu rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid(19);

ystyr “Rheoliad 1663/2006” (“Regulation 1663/2006”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1663/2006 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau penodol ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl(20);

ystyr “Rheoliad 1664/2006” (“Regulation 1664/2006”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1664/2006 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2074/2005 o ran gweithredu mesurau ar gyfer cynhyrchion penodol sy'n dod o anifeiliaid a fwriedir i'w bwyta gan bobl a diddymu mesurau gweithredu penodol(21);

ystyr “Rheoliad 1665/2006” (“Regulation 1665/2006”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1665/2006 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2075/2005 sy'n gosod rheolau penodedig ar reolaethau swyddogol ar gyfer Trichinella mewn cig(22);

ystyr “Rheoliad 1666/2006” (“Regulation 1666/2006”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1666/2006 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2076/2005 sy'n gosod trefniadau trosiannol ar gyfer gweithredu Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004, (EC) Rhif 854/2004 ac (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor(23); ac ystyr “Rheoliad 1791/2006” (“Regulation 1791/2006”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1791/2006 sy'n addasu Rheoliadau a Phenderfyniadau penodol ym meysydd symud rhydd ar nwyddau, rhyddid i bobl symud, cyfraith cwmnïau, polisi cystadlu, amaethyddiaeth (gan gynnwys deddfwriaeth filfeddygol a ffytoiechydol), polisi trafnidiaeth, trethi, ystadegau, ynni, yr amgylchedd, cydweithredu ym meysydd cyfiawnder a materion cartref, undeb tollau, cysylltiadau allanol, polisïau tramor a diogelwch cyffredin a sefydliadau, oherwydd ymaelodaeth Bwlgaria a Romania(24)

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006 (O.S. 2006/31 (Cy.5)) drwy ddiweddaru diffiniadau offerynnau penodol y Gymuned y cyfeirir atynt yn y Rheoliadau hynny.

2.  Diweddarir y diffiniadau drwy—

(a)rhoi diffiniadau offerynnau penodol y Gymuned yn lle diffiniadau offerynnau penodol y Gymuned sy'n ymddangos ar hyn o bryd ar ôl y diffiniad o “mangre” ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) (rheoliad 2(2)); a

(b)rhoi Atodlen 1 ddiwygiedig (diffiniadau o ddeddfwriaeth y Gymuned) yn lle'r Atodlen 1 bresennol (rheoliad 2(3)).

3.  Mae arfarniad rheoliadol llawn am yr effaith a gaiff y Rheoliadau hyn ar gostau busnes wedi'i baratoi a'i osod yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd CF10 1EW.

(3)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 575/2006 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran nifer ac enwau Paneli Gwyddonol parhaol Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (OJ Rhif L100, 8.4.2006, t.3).

(4)

O.S. 2006/31 (Cy.5), fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2006/1534 (Cy.151).

(6)

OJ Rhif L157, 30.4.2004, t.33. Mae testun diwygiedig Cyfarwyddeb 2004/41/EC bellach wedi'i osod mewn Corigendwm (OJ Rhif L195, 2.6.2004, t.12).

(7)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.

(8)

OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.1. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.3).

(9)

OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.55. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.22).

(10)

OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.206. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.83).

(11)

OJ Rhif L165, 30.4.2004, t.1. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L191, 28.5.2004, t.1).

(12)

OJ Rhif L271, 15.10.2005, t.17.

(13)

OJ Rhif L338, 22.12.2005, t.1, fel y'i darllenir gyda'r corigenda yn OJ Rhif L283, 14.10.2006, t.62.

(14)

OJ Rhif L338, 22.12.2005, t.27.

(15)

OJ Rhif L338, 22.12.2005, t.60.

(16)

OJ Rhif L338, 22.12.2005, t.83.

(17)

OJ Rhif L100, 8.4.2006, t.3.

(18)

OJ Rhif L136, 24.5.2006, t.3.

(19)

OJ Rhif L320, 18.11.2006, t.1.

(20)

OJ Rhif L320, 18.11.2006, t.11.

(21)

OJ Rhif L320, 18.11.2006, t.13.

(22)

OJ Rhif L320, 18.11.2006, t.46.

(23)

OJ Rhif L320, 18.11.2006, t.47.

(24)

OJ Rhif L360, 20.12.2006, t.1.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources