2007 Rhif 3423 (Cy.304)

CEFN GWLAD, CYMRU

Gorchymyn Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (Cymru) (Diwygio) 2007

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, ar ôl ymgynghori â'r cyngor ar gyfer y brif ardal y mae rhan ohoni'n rhan o Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro, a chan arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 63(1) a (5) o Ddeddf yr Amgylchedd 19951 a pharagraffau 1(2) a 2(3) o Atodlen 7 iddi ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy 2, yn gwneud y Gorchymyn canlynol: